Atal llygredd o ystad ddiwydiannol yn Wrecsam

Bydd busnesau ar ystad ddiwydiannol yn Wrecsam yn ganolbwynt ymgyrch i atal llygredd rhag cyrraedd afon Gwenfro.

Bydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymuno â chydweithwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ymweld ag unedau ar Ystad Ddiwydiannol Whitegate i gynghori ar eu dulliau atal llygredd presennol.

Bydd yr ymweliadau'n rhoi cyfle i fusnesau nodi unrhyw risgiau o ran llygredd a bydd swyddogion yn trafod mesurau lliniaru ac yn rhoi cyngor ar unrhyw fath o ganiatâd ar gyfer Parth Diogelu Dŵr Afon Dyfrdwy a gofynion trwyddedu amgylcheddol.

Mae afon Gwenfro yn llifo ger yr ystad ddiwydiannol, cyn ymuno ag afon Clywedog, un o lednentydd pwysig afon Ddyfrdwy. Mae afon Gwenfro wedi dioddef yn sgil achosion aml o lygredd, oherwydd sylweddau llygrol sy’n gollwng yn ddamweiniol o safleoedd diwydiannol gerllaw, yn ogystal â chamgysylltiadau â’r system draenio dŵr wyneb.

Mae Afon Dyfrdwy wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn ogystal ag Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), oherwydd ei nodweddion gwarchodedig niferus, fel eogiaid, pennau lletwad, llysywod pendoll, dyfrgwn, yn ogystal â nifer o rywogaethau planhigion ac infertebratau.

Mae afon Dyfrdwy hefyd yn ffynhonnell bwysig o ddŵr yfed. Fe'i dynodwyd yn Barth Diogelu Dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr, 1991, sy'n golygu bod angen caniatâd lle mae sylweddau penodol yn cael eu defnyddio neu eu storio mewn safleoedd penodol yn unrhyw le yn yr ardal ddynodedig, sy'n cynnwys Ystad Ddiwydiannol Whitegate. 

Dywedodd Elizabeth Felton, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Wrecsam:

"Gall achosion o lygredd o ystadau diwydiannol ddigwydd bob dydd oherwydd gollyngiadau, damweiniau, esgeulustod, neu fandaliaeth. Gall digwyddiadau o'r fath wedyn beryglu iechyd pobl a dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt ar afonydd fel afon Gwenfro.
"Drwy ymweld ag unedau ar Ystad Ddiwydiannol Whitegate, rydym yn gobeithio sicrhau bod gan fusnesau y mesurau cywir ar waith i atal achosion o lygredd.
"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o beryglon llygredd o ystadau diwydiannol ac yn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt, cynefinoedd ac ansawdd dŵr afon Gwenfro."

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

"Mae'n hanfodol ein bod yn diogelu ein hafonydd rhag llygredd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag digwyddiadau sy'n achosi difrod i'n hamgylchedd na ellir mo’i ddad-wneud weithiau. Drwy helpu busnesau i ddod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a sicrhau arferion diogel yn y gweithle, rydym yn gobeithio cadw ein dyfrffyrdd yn lân ac yn iach."

Gellir adrodd am unrhyw achosion o lygredd neu ddigwyddiadau amgylcheddol eraill tybiedig drwy gysylltu â’r llinell gymorth digwyddiadau 24 awr y dydd ar 0300 065 3000, e-bostio icc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad.