Coedwig Dyfi - Coed Nant Gwernol, ger Machynlleth

Beth sydd yma

Mae Llwybr y Rhaeadrau a Llwybr y Chwarelwr ar gau o ganlyniad i dirlithriad.

Croeso

Mae Coed Nant Gwernol ar gyrion pentref Abergynolwyn.

Mae coetir wedi’i enwi ar ôl rhaeadrau byrlymus y ceunant creigiog.

Ar y llwyfandir uwchben y ceunant gellir gweld olion Chwarel Lechi Bryn-Eglwys sydd bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Mae dau o’n llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dilyn yr afon ac yn archwilio olion chwarel lechi Bryn-Eglwys.

Gallwch ddarganfod sut fywyd oedd gan weithwyr y chwarel a'u teuluoedd drwy wrando ar ein llwybr sain sydd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar hyd Llwybr y Chwarelwr.

Mae rheilffordd gul Talyllyn yn rhedeg trwy Goed Nant Gwernol a gellir dechrau'r llwybrau cerdded o ddwy orsaf ar hyd y lein – gweler yr adran llwybrau cerdded isod.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Cyswllt y Gorsafoedd

""

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1.1 milltir/1.7 cilomedr
  • Amser: ¾ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae dringfa serth i gyfeiriad Nant Gwernol a disgyniad serth i Abergynolwyn. Cofiwch wylio rhag trenau wrth groesi’r groesfan ar hyd y llwybr.

Mae Llwybr Cyswllt y Gorsafoedd yn llwybr llinol rhwng gorsaf Nant Gwernol a gorsaf Abergynolwyn sydd ar Reilffordd Talyllyn.

Mae golygfeydd o’r mynyddoedd o amgylch, trenau stêm ac inclein Allt Wyllt hanesyddol, rhan o’r hen chwarel.

Safleoedd cychwynnol ar gyfer Llwybr Cyswllt y Gorsafoedd

  • Gorsaf Nant Gwernol (Rheilffordd Talyllyn)
  • Gorsaf Abergynolwyn (Rheilffordd Talyllyn)

Llwybr y Rhaeadrau

""

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1.1 milltir/1.7 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr:  Gallwch gychwyn Llwybr y Rhaeadrau o un o'r gorsafoedd ar Reilffordd Talyllyn neu o'r maes parcio neuadd bentref Abergynolwyn. Peidiwch â chrwydro oddi ar y llwybrau – mae’r hen chwareli’n beryglus.

Mae Llwybr y Rhaeadrau yn mynd ar i fyny, gan ddilyn glannau’r afon raeadraidd.

Yna mae’n croesi pont bren i ymuno â’r hen dramffordd cyn mynd i lawr allt serth wrth ochr rhan o hen inclein Allt Wyllt yn ôl i orsaf Nant Gwernol.

Chwiliwch am olion y cytiau weindio a’r cyfarpar dirwyn, neu winsh, ar ben y llethr.

Safleoedd cychwynnol ar gyfer Llwybr y Rhaeadrau

  • Gorsaf Nant Gwernol (Rheilffordd Talyllyn)
  • Gorsaf Abergynolwyn (Rheilffordd Talyllyn): dilynwch Lwybr Cyswllt y Gorsafoedd o orsaf Abergynolwyn i orsaf Nant Gwernol
  • Y Ganolfan (neuadd bentref Abergynolwyn): gweler y map yn y maes parcio a dilynwch y llwybr cyswllt i orsaf Nant Gwernol

Llwybr y Chwarelwr

""

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 3.2 milltir/5.1 cilomedr
  • Amser: 2½-3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr:  Mae llawer o waith dringo a disgyn ar hyd llethrau serth ar y llwybr hwn. Gallwch gychwyn Llwybr y Chwarelwr o un o'r gorsafoedd ar Reilffordd Talyllyn neu o'r maes parcio neuadd bentref Abergynolwyn. Peidiwch â chrwydro oddi ar y llwybrau – mae’r hen chwareli’n beryglus.

Mae uchafbwyntiau'r llwybr hwn yn cynnwys golygfeydd eang, rhaeadrau ac olion y chwarel.

Chwiliwch am baneli a physt llafar, sy’n Adrodd hanes chwarelwyr Bryn-Eglwys a’u teuluoedd.

Rydym wedi creu llwybr sain i’w ddefnyddio ar hyd Llwybr y Chwarelwr – ewch i’r adran llwybr sain isod i ganfod sut i’w lawrlwytho a’i ddefnyddio.

Safleoedd cychwynnol ar gyfer Llwybr y Chwarelwr

  • Gorsaf Nant Gwernol (Rheilffordd Talyllyn)
  • Gorsaf Abergynolwyn (Rheilffordd Talyllyn): dilynwch Lwybr Cyswllt y Gorsafoedd o orsaf Abergynolwyn i orsaf Nant Gwernol
  • Y Ganolfan (neuadd bentref Abergynolwyn): gweler y map yn y maes parcio a dilynwch y llwybr cyswllt i orsaf Nant Gwernol

Llwybr sain

Dewch i ddarganfod sut fywyd oedd gan weithwyr Chwarel Bryn Eglwys a'u teuluoedd drwy wrando ar ein llwybr sain.

Bwriadwyd i’r llwybr sain gael ei ddefnyddio ar hyd Llwybr y Chwarelwr, llwybr cerdded sydd wedi’i arwyddo ar hyd Coed Nant Gwernol.

Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain i'ch ffôn clyfar cyn eich ymweliad oherwydd gall darpariaeth rhwydwaith symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig.

Sut i ddefnyddio'r llwybr sain

  • Lawrlwythwch ffeil mp3 y llwybr sain o'r adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon.
  • Dechreuwch chwarae'r llwybr sain y tu allan i'r Ganolfan (neuadd y pentref) ym mhentref Abergynolwyn.
  • Yna dilynwch arwyddion Llwybr y Chwarelwr.
  • Cadwch lygad am y paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr sy'n dangos pa drac sain i'w chwarae nesaf.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o sgript y llwybr sain o'r adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon.

Coedwig Dyfi

""

Mae Coed Nant Gwernol wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi.

Mae Coedwig Dyfi rhwng tref Machynlleth a Dolgellau a gorwedd yng nghysgod Cadair Idris.

Mae’r coetiroedd yn glynu wrth lethrau serth cadwyni o fynyddoedd Tarren a Dyfi gydag afonydd Dysynni, Dulas a Dyfi yn torri trwyddynt wrth anelu tua’r gorllewin i’r môr gerllaw.

Arferai’r ardal gyfan fod yn frith o fwyngloddiau llechi llwyddiannus, yn cyflogi cannoedd o bobl.

Roedd llechi gorenedig yn cael eu cludo i’r arfordir trwy system o dramyrdd a threnau stêm i’w hallforio.

Mae’r trenau sy’n weddill bellach yn cludo ymwelwyr ar draws yr ardal wledig.

Llywbrau cerdded eraill yng Nghoedwig Dyfi

Yn ogystal â Choed Nant Gwernol, mae llwybrau cerdded yng nghoetiroedd eraill Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Dyfi:

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae'r rhan fwaf o Goedwig Dyfi wedi’i leoli yn Parc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Dyfi yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Rheilffordd Talyllyn

Mae Rheilffordd Talyllyn yn rhedeg trwy Goedwig Dyfi ar ei thaith rhwng Tywyn ar yr arfordir i orsaf Nant Gwernol ger pentref Abergynolwyn.

Agorwyd y lein yn wreiddiol i gario llechi o'r chwareli ym Mryn-eglwys i Dywyn ac mae bellach yn rheilffordd dreftadaeth.

Mae modd dechrau ein llwybrau cerdded o ddwy orsaf ar hyd y lein – gweler yr adran llwybrau cerdded uchod.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Rheilffordd Talyllyn.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Peidiwch â chrwydro oddi ar y llwybrau – mae’r hen chwareli’n beryglus.
  • Peidiwch ã mynd i mewn i unrhyw weithfeydd neu adeiladau mwyngloddio efallai eu bod yn anniogel.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coed Nant Gwernol 12 milltir i’r de o Ddolgellau.

Mae yn Sir Gwynedd.

Cyfarwyddiadau

O’r A487 tua’r gogledd, trowch i’r chwith i’r B4405 ar ôl pasio Corris gan ddilyn yr arwydd i Abergynolwyn neu Dywyn (i gyfeiriad rheilffordd Tal-y-llyn).

O’r A487 tua’r de, trowch i’r dde i’r B4405 ar ôl pasio tafarn Minffordd gan ddilyn yr arwydd i Abergynolwyn neu Dywyn (i gyfeiriad rheilffordd Tal-y-llyn).

Map Arolwg Ordnans

Mae Coed Nant Gwernol ar fap OL 23 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 681 067.

Parcio

Mae’r tri llwybr yn cychwyn o orsaf Nant Gwernol ond nid oes lle parcio yng ngorsaf Nant Gwernol ei hun.

  • Gallwch naill ai barcio ym mhentref Abergynolwyn a cherdded ar hyd y llwybr byr ond serth i orsaf Nant Gwernol sy’n cychwyn y tu ôl i’r ganolfan gymunedol/caffi
  • Neu gallwch barcio ym maes parcio gorsaf Abergynolwyn a dilyn y llwybr llinol sy’n cysylltu gorsaf Abergynolwyn a gorsaf Nant Gwernol

Cludiant cyhoeddus

O Dywyn gallwch ddal trên stêm ar Reilffordd Tal-y-llyn i orsaf pentref Abergynolwyn neu i orsaf Nant Gwernol.

Mae’r orsaf reilffordd agosaf yn Nhywyn. I gael manylion am gludiant cyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Taflen Coedwig Dyfi PDF [4.8 MB]

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf