Cynghorydd Cynllunio Datblygu
Dyddiad cau: 24/08/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: (200029) Hyblyg, (202787) Bangor
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 15/09/2025
Rhif swydd: 200029, 202787
Y rôl
Ydych chi'n angerddol am lunio a llywio datblygu cynaliadwy yng Nghymru? Ydych chi eisiau helpu i ddiogelu ein hadnoddau naturiol tra'n chwarae rhan allweddol wrth gynllunio'r lleoedd lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn ffynnu?
Rydyn ni'n chwilio am ddau Gynghorwr Cynllunio Datblygu i ymuno â'n tîm arbenigol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma gyfle cyffrous i unigolion sydd â phrofiad ym maes asesu amgylcheddol neu'r system cynllunio gwlad a thref sy'n barod i gael effaith wirioneddol.
Byddwch yn darparu cyngor amgylcheddol awdurdodol i Awdurdodau Cynllunio Lleol a rhanddeiliaid eraill, gan helpu i lunio popeth o dai a seilwaith i ynni ac amaethyddiaeth. Bydd eich gwaith yn dylanwadu ar gynlluniau datblygu strategol a cheisiadau cynllunio unigol, gan gwmpasu pynciau fel perygl llifogydd, bioamrywiaeth, ansawdd dŵr, tirwedd, a mwy.
Byddwch yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gynigion datblygu—o brosiectau seilwaith cenedlaethol i gynlluniau adfywio lleol—ac yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr technegol ledled CNC i gyflwyno mewnbwn amserol ac effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil, yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n mwynhau cydweithio, yn ffynnu mewn amgylchedd cyflym, ac yn hyderus yn cyfathrebu materion cymhleth i ystod o gynulleidfaoedd. Bydd eich cyngor yn helpu i sicrhau bod datblygiad yng Nghymru yn gynaliadwy, yn wydn ac yn cyd-fynd â'n cyfrifoldebau amgylcheddol.
Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol, hyblyg gan gynnwys opsiynau hybrid, cyfleoedd ar gyfer twf proffesiynol, a'r cyfle i ddylanwadu ar ganlyniadau byd go iawn sydd o fudd i bobl a byd natur fel ei gilydd.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan fyddwch yn cael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Bryn Jones at bryn.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae ein Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygu yn gyfrifol am ddarparu cyngor amgylcheddol arbenigol a dylanwadol i Awdurdodau Cynllunio a Llywodraeth Cymru i gefnogi eu penderfyniadau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynhyrchu Cyngor i Gynlluniau Datblygu Lleol, gan gynnwys cyngor ar eu Hasesiad Amgylcheddol Strategol (gyda chefnogaeth yr Ymgynghorydd Cynllunio Datblygu (6) ar gynigion technegol gymhleth, risg-uchel) gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflwyno o fewn terfynau amser.
- Cynhyrchu Cyngor ar gyfer ymholiadau cyn-ymgeisio, ymgynghoriadau rheoli datblygu, Datblygiadau a Phrosiectau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (gyda chefnogaeth yr Ymgynghorydd Cynllunio Datblygu (6) ar gynigion datblygu technegol gymhleth, risg-uchel) gan sicrhau bod cyngor CNC yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cael ei gyflwyno o fewn terfynau amser.
- Paratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor cynllunio datblygu CNC, gan gynnwys presenoldeb mewn Apeliadau ac Ymchwiliadau.
- Datblygu perthnasoedd effeithiol â chwsmeriaid (mewnol ac allanol) a sicrhau dealltwriaeth dda o’u hanghenion.
- Nodi cyfleoedd i ddylanwadu ar brosiectau a chynlluniau datblygu lleol cyn gynted â phosibl.
- Cynnal cofnodion y gellir eu harchwilio o weithredoedd a chanlyniadau i gyfiawnhau a dangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wedi'u bodloni.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o brosesau cynllunio datblygu a gweithio gyda'r sector datblygu.
- Profiad o gymhwyso ac adolygu asesiadau effaith amgylcheddol.
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol ag Awdurdodau Cynllunio Lleol, busnes a'r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth a chael cefnogaeth trwy ddylanwadu.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
- Gallu dadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd hynod gymhleth, datrys problemau, a ffurfio barn gadarn ar sail tystiolaeth.
- Gallu ysgrifennu dogfennau clir, cryno.
- Gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm ac arwain timau rhithwir.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: 202787: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.