Swyddog Cadwraeth
Dyddiad cau: 10/08/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Trallwng (200580, 200581) a Llandrindod (200591, 200593)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Amgylchedd Gogledd Powys a Thîm Amgylchedd De Powys / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: 1x Parhaol (200580, 200591, 200593), 1x Penodiad Cyfnod Penodol am 6 mis (200581)
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos sy’n cychwyn 01/09/2025
Rhif swydd: 200580, 200581 (Penodiad Cyfnod Penodol) 200591, 200593
Y rôl
Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy wrth wraidd popeth a wnawn. Ein nod? I gryfhau gwydnwch ecosystemau a chefnogi lles cenedlaethau’r dyfodol. Ac mae angen pobl frwdfrydig a medrus fel chi arnom i helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Yn y rôl hon, byddwch yn dod â’ch arbenigedd i dîm deinamig, amlswyddogaethol sy’n cyflawni effaith go iawn ar lefel leol.
Byddwch chi’n chwarae rhan allweddol wrth wneud y canlynol:
- Rheoli Safleoedd Gwarchodedig – arwain ar gydsyniadau, caniatadau ac ymgysylltu rhagweithiol i sicrhau bod yr ardaloedd hanfodol hyn yn cael eu gwarchod
- Cyflawni dros Fioamrywiaeth – cefnogi gweithredu blaenoriaethau bioamrywiaeth CNC drwy gyngor mewnol, gwaith prosiect ymarferol a chynlluniau lliniaru cydweithredol
- Rheoleiddio a Chydymffurfio – gwaith rheoleiddio a chydymffurfio sy’n canolbwyntio ar safleoedd gwarchodedig ac yn cyfrannu at adnoddau dŵr, ansawdd dŵr a rheoli tir
Dyma eich cyfle i ddefnyddio’ch sgiliau yn y maes a’u rhoi ar y map – gan gyflawni canlyniadau sy’n amddiffyn ac yn adfer yr amgylchedd, yn cefnogi cymunedau, ac yn llunio dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jenny Phillips at Jenny.phillips@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae’r rolau yn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau yn ardal Canolbarth Cymru, sy’n cynnwys siroedd Powys a Cheredigion.
Mae tri thîm yr amgylchedd yng Nghanolbarth Cymru, dau ym Mhowys ac un yng Ngheredigion.
Mae Tîm yr Amgylchedd Gogledd Powys wedi’i leoli yng Ngweithdy’r Trallwng ac mae’n cwmpasu ardal o’r gogledd i’r Trallwng, gan gynnwys rhan o fynyddoedd y Berwyn, ar draws i Fachynlleth ac i lawr i’r A44, ac mae’n cynnwys Cwm Elan. Mae’r ardal yn cynnwys ffynhonnell afon Hafren ac afon Gwy ar Bumlumon uwchben Coedwig Hafren. Dyma ardal hyfryd i weithio ynddi.
Mae Tîm yr Amgylchedd De Powys wedi’i leoli yn Llandrindod yn adeilad Neuadd y Sir Cyngor Sir Powys ac mae’n cwmpasu’r ardal i’r de o Raeadr Gwy, i lawr i Ystradgynlais uwchben Cwm Tawe. Mae hyn yn cynnwys Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Mynydd Du (Mynwy), SoDdGA Afon Gwy a SoDdGA Afon Wysg ynghyd â llawer o safleoedd dynodedig gwerthfawr mewn ardal wirioneddol syfrdanol.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys deiliaid trwyddedau, tirfeddianwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, grwpiau hamdden, gwirfoddolwyr a sefydliadau’r trydydd sector, er mwyn galluogi eraill i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau a chynlluniau partneriaeth o’r cysyniadau i’r camau gweithredu. Bydd y prosiectau hyn yn darparu canlyniadau sydd wedi’u halinio â blaenoriaethau’r lle.
- Asesu cydymffurfedd â deddfwriaeth berthnasol ac amodau trwyddedau neu gydsyniadau. Pan nodir achos o beidio â chydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn dychwelyd i gydymffurfedd cyn gynted â phosibl. Cymryd camau gweithredu priodol ar gyfer casglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Llunio caniatadau a chydsyniadau dilys ar gyfer gweithrediadau sy’n effeithio ar safleoedd gwarchodedig. Ar gyfer yr holl feysydd gwaith, llunio’r cyngor, ymchwiliadau, dogfennau ac adroddiadau gofynnol i safonau ansawdd cytunedig, er mwyn cefnogi penderfyniadau gweithredol a rheoli, hysbysiadau safleoedd gwarchodedig, ymchwiliadau cyhoeddus, achosion llys ac ati, fel bod gwybodaeth, tystiolaeth a buddiannau CNC yn cael eu cyflwyno’n fanwl gywir ac yn effeithiol.
- O fewn eich maes arbenigedd, darparu cyngor ac ymatebion proffesiynol lleol mewn perthynas ag ymgynghoriadau gan dimau cynllunio a thrwyddedu. Cynnal cydberthnasau gwaith gyda’r timau hyn trwy gysylltiadau rheolaidd.
- Monitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, cyflwyno prosiectau, neu sicrhau cydymffurfedd â chytundebau rheoli neu hysbysiadau cyfreithiol statudol. Nodi a chefnogi unrhyw gamau adfer er mwyn sicrhau y cyflawnir canlyniadau.
- Chwarae rôl o fewn gwasanaeth rheoli digwyddiadau gwydn o fewn CNC sy’n dilyn prosesau’r sefydliad, er mwyn sicrhau ymatebion effeithiol, amserol a diogel i ddigwyddiadau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth ymarferol dda am reoli’r amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cadwraeth neu fioamrywiaeth, gyda phrofiad penodol yn un o’r meysydd penodol hyn o gylch gwaith y tîm.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cryf ac effeithiol.
- Y gallu i ddylanwadu, negodi a chael cydweithrediad pobl eraill. Mae meddu ar brofiad o ymdrin yn llwyddiannus â phobl/sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
- Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, fel Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol neu gymwysiadau wedi’u haddasu gan CNC.
- Yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm.
- Yn meddu ar drwydded ddilys lawn gyfredol yn y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.