Pennaeth Cyfathrebu a Materion Allanol
Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 11: £74,460 - £80,072 | Lleoliad: Hyblyg
Sail hysbysebu: Mewnol yn unig
Cyflog cychwynnol: £74,460 yn codi i £80,072 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
(Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 22 Mai 2025
Rhif swydd: 201780
Y rôl
Fel Pennaeth Cyfathrebu a Materion Allanol, byddwch mewn swydd arweinyddiaeth hollbwysig o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae’r rôl proffil uchel hon yn cynnig cyfle unigryw i lywio sut mae CNC yn cyfathrebu, ymgysylltu a dylanwadu. Byddwch yn chwarae rhan ganolog yn ein cenhadaeth, sef rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol Cymru.
Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni strategaeth cyfathrebu a materion allanol feiddgar, integredig sy’n meithrin ymddiriedaeth, yn llywio eiriolaeth, ac yn cryfhau enw da CNC ymysg yr holl grwpiau rhanddeiliaid. Bydd eich portffolio yn cynnwys cyfathrebu strategol, cysylltiadau â’r llywodraeth, materion cyhoeddus, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chysylltiadau â'r cyfryngau.
Fel cynghorydd dibynadwy i’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd, byddwch yn darparu cyngor arbenigol ar faterion sy’n ymwneud ag enw da, cyfathrebu mewn argyfwng, ac ymgysylltu allanol mewn sefyllfaoedd tyngedfennol. Bydd eich gallu i ymdrin â sefyllfaoedd gwleidyddol, cymdeithasol ac amgylcheddol cymhleth yn allweddol i osod CNC fel llais hyderus, credadwy ac awdurdodol ledled Cymru a thu hwnt.
Yn y rôl hon, byddwch hefyd yn cyfrannu at gyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth CNC, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws y sefydliad i gefnogi ein trawsnewid a sicrhau aliniad â blaenoriaethau cenedlaethol a chyfrifoldebau statudol.
Dyma gyfle prin i arwain ar lefel genedlaethol, llywio deialog cyhoeddus, a chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sarah Jennings ar sarah.jennings@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu Panel Ymgysylltu â Staff yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 19 Mai 2025. Cynhelir cyfweliadau cam olaf yn bersonol ddydd Iau 22 Mai 2025.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain, ysbrydoli ac ysgogi adran o arbenigwyr proffesiynol ym maes cyfathrebu a materion allanol ochr yn ochr â dylanwadu ar aelodau’r Tîm Arwain dros wariant uwch mewn adrannau eraill.
- Fel pennaeth y proffesiwn ar gyfer cyfathrebu, darparu arweinyddiaeth cyfathrebu strategol ar gyfer y sefydliad, gan fod yn gyfrifol am safonau cyffredinol, datblygiad proffesiynol, a chyfeiriad strategol.
- Arwain gwasanaeth cyfathrebu integredig, dwyieithog effeithiol.
- Goruchwylio a chynnal pob perthynas gorfforaethol ag ystod o bartneriaid allanol ar draws pob sector.
- Darparu cyngor strategol i’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Cadeirydd a gweithio gyda’r bwrdd a’r Tîm Gweithredol o ran eu dealltwriaeth o adeiladu eiriolaeth i CNC drwy eu rhwydweithiau presennol.
- Sefydlu a chynnal cydberthnasau gwaith da ag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid allanol, ond yn arbennig weithwyr proffesiynol cyfathrebu a digidol yn: Llywodraeth Cymru; sefydliadau eraill y sector cyhoeddus; partneriaid Lleol Cymru Gydnerth ar gyfer Rhybuddio a Hysbysu, asiantaethau partner y DU, cyfryngau Cymru a'r DU.
- Cefnogi dulliau arloesol o gyflawni rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol trwy weithgareddau uniongyrchol a gweithgareddau galluogi.
- Datblygu ac arwain y strategaethau cyfathrebu a materion allanol ar gyfer y sefydliad.
- Bod â chyfrifoldeb cyffredinol a gwneud penderfyniadau dros yr holl wariant marchnata, dylunio ac argraffu yn CNC trwy oruchwylio’r fframwaith dylunio ac argraffu yn effeithiol.
- Cynnal cywirdeb y brand a thwf effeithiol y brand trwy osod a chynnal safonau’r brand a gweithio gyda'r busnes i ddatblygu'r brand yn y ffordd fwyaf effeithiol.
- Datblygu a chynnal llywodraethu cryf ar draws yr holl swyddogaethau cyfathrebu a materion allanol
- Adolygu a llunio prif bolisïau, gweithdrefnau ac arferion adrannol a swyddogaethol, gan fod yn gyfrifol am eu gweithredu, a allai fod yn dechnegol iawn neu'n arbenigol ei natur.
- Darparu arbenigedd technegol ar gysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau, dylunio a brand, rheoli digwyddiadau, cysylltiadau â rhanddeiliaid, ymgyrchoedd, cyfathrebu mewn argyfwng, rheoli materion, cyfathrebu digwyddiadau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Cymhwyster lefel gradd neu gymhwyster addysg uwch cyfwerth (neu brofiad cyfwerth).
- Profiad proffesiynol o gyfathrebu a materion allanol ar lefel uwch.
- Profiad helaeth o weithio fel rhan o uwch dîm rheoli gyda phrofiad o ddatblygu cyfeiriad strategol a gweithio gyda rhanddeiliaid lluosog ar lefel uwch a dylanwadu arnynt.
- Y gallu i gyfathrebu a dylanwadu'n effeithiol ag ystod o gynulleidfaoedd gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar o safon uchel.
- Y gallu i ddarparu arweinyddiaeth ysgogol trwy rymuso a galluogi eraill.
- Profiad o reoli argyfyngau a digwyddiadau o safbwynt cyfathrebu, gyda’r gallu i beidio â chynhyrfu dan bwysau, gwneud penderfyniadau da a sicrhau cymhelliant a llesiant tîm.
- Y gallu i flaenoriaethu cyflawniadau o fewn eich maes gwaith gyda meddwl sy’n canolbwyntio ar berfformiad ac agwedd ragweithiol a hyderus.
- Y gallu i ddefnyddio synnwyr cyffredin a gwneud penderfyniadau da, gyda hanes amlwg o lwyddiant.
- Y gallu i weithredu fel llefarydd i’r cyfryngau ar gyfer y sefydliad ar draws ystod eang o bynciau a senarios.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.