Dyddiad cau: 14 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: ICT, Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. Bydd angen i chi weithio fel rhan o batrwm sifft hyblyg i gwmpasu oriau gwasanaeth rhwng 8 am a 6pm. Hefyd, bydd angen i chi weithio ar rota amser penodol gan ddarparu Gwasanaeth DdaT 'Tu Allan i Oriau' i lefel y cytunwyd arni. Gweithio oriau ychwanegol yn ôl yr angen i gwrdd ag anghenion y busnes. (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gwardarnhau

Rhif swydd: 201853, 201855

Y rôl

Gan weithio i Arweinydd y Tîm Cymorth Ceisiadau, mae'n ofynnol i'r Peiriannydd Cymorth Ceisiadau ddarparu cymorth a chynnal a chadw 2il linell ar gyfer Ceisiadau DDaT CNC o fewn fframwaith ITIL ac yn unol â Model Gweithredu Targed y timau ehangach, i ddarparu gwasanaeth rhagorol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Charlotte Wilde ar charlotte.wilde@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Sicrhau iechyd ac argaeledd cymwysiadau a systemau yn unol â llywodraethu DDaT
  • Sicrhau bod digwyddiadau a cheisiadau am wasanaeth yn cael eu datrys o fewn y cytundebau lefel gwasanaeth cytunedig
  • Dilyn cynllun gwaith y Tîm Cymorth Cymwysiadau
  • Gweithio gydag uwch-beirianwyr i ddatrys problemau a gwella systemau byw
  • Cynghori a darparu canllawiau ar gyfer dadansoddwyr a phrentisiaid o fewn y tîm
  • Dilyn tasgau rhagweithiol ac amserlenni cynnal a chadw a rhoi diweddariadau rheolaidd i wasanaethau ar waith
  • Gweithio gyda phartneriaid strategol allanol i sicrhau bod problemau ynghylch cymwysiadau yn cael eu datrys o fewn cytundebau lefel gwasanaeth
  • Datblygu a rhyddhau diweddariadau i gymwysiadau yn unol â llywodraethu DDaT
  • Cynorthwyo â’r gwaith o gydlynu Profion Derbyn Defnyddwyr ar gyfer cymwysiadau a gwasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Gweithio gyda'r uwch-beirianwyr er mwyn datblygu cymwysiadau newydd a gwella cymwysiadau presennol yn unol â methodoleg datblygu DDaT
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau 

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1. Hyfedr mewn MS 365, Dynamics 365
2. Profiad o Gymwysiadau Gwe, meddalwedd 3ydd parti a chymwysiadau 'allan-y-bocs'.
3. Yn gyfarwydd â gweithio mewn Amgylchedd Azure.
4. Gwybodaeth am Fframwaith Rheoli Gwasanaeth ITIL gyda phrofiad ymarferol mewn prosesau rheoli Digwyddiadau, Problemau, Newid a Rhyddhau.
5. Gwybodaeth am gylchoedd clytio, cynnal a chadw ac uwchraddio
6. Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn enwedig gyda rhanddeiliaid nad ydynt yn dechnegol
7. Profiad o weithio mewn amgylcheddau amrywiol (datblygu, prawf ac ati)

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (successful internal staff will remain in their current pension scheme)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf