Cynghorydd Asedau Technegol Fflyd

Dyddiad cau: 18 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246-£39,942  | Lleoliad: De Cymru

Tîm / Cyfarwyddiaeth: BSS, Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos yn cychwyn 19 Mai 2025

Rhif swydd: 201990

Y rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Rheoli Fflyd CNC, gan gyfrannu at reoli ac optimeiddio gwasanaethau technegol yn ymwneud â ‘r fflyd yn effeithlon o fewn y Tîm Rheoli Fflyd, gan sicrhau gweithrediad llyfn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r rôl hon yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu fflyd ddibynadwy, gost-effeithiol a chynaliadwy, gan gefnogi gweithgareddau dydd i ddydd ac effeithiolrwydd gweithredol cyffredinol y sefydliad. 

Bydd eich rôl yn cefnogi rheoli contractau, cysylltu â rhanddeiliaid allanol a darparwyr gwasanaethau, monitro ac olrhain perfformiad i sicrhau cydymffurfiaeth a chefnogi adnewyddu contractau yn unol â rheoliadau caffael CNC.

Byddwch yn monitro perfformiad fflyd a chydymffurfiaeth â gofynion rheoliadol yn unol â rheoliadau cyffredinol a thrwyddedau gweithredwr, gan gefnogi arweinydd y tîm gydag adroddiadau ac ystadegau i hwyluso adrodd i'r sefydliad ehangach.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â James Poyser ar james.poyser@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a meithrin diwylliant o welliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen y tîm Asedau Technegol o fewn Rheoli Asedau ar gyfer cwsmeriaid CNC sy’n hanfodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth statudol a chyfreithiol ar draws fflyd CNC.
  • Sicrhau bod yr holl offer newydd yn bodloni anghenion y defnyddwyr, cyflawni gwelliant technegol ac amgylcheddol dros yr offer newydd a darparu gwerth gorau am arian yn unol ag arferion caffael CNC.
  • Goruchwylio a chyfrannu at strategaeth adnewyddu’r fflyd gan weithio gyda staff caffael a defnyddwyr terfynol.
  • Cydgysylltu ag is-gontractwyr allanol CNC i gwblhau tasgau atgyweirio mewn modd effeithlon, effeithiol, diogel a chymwys sy'n diogelu'r amgylchedd.
  • Cynnal archwiliadau ar bob agwedd ar reoli fflyd a chynorthwyo yn swyddogaeth archwilio ehangach y tîm Reoli Asedau.
  • Cynghori staff ar sut i drin cerbydau, peiriannau ac offer yn ddiogel.
  • Cyfrannu at ddatblygiad parhaus holl wybodaeth Tîm Technegol Asedau i hyrwyddo datblygiad technegol o fewn Rheoli Asedau.
  • Darparu gwybodaeth ystadegol ac ariannol am Asedau’r Fflyd.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Meddu ar gymhwyster Peirianneg Fecanyddol, ICFM neu gymhwyster tebyg, yn gweithio tuag at gymhwyster technegol neu wedi cymhwyso trwy brofiad.   
  2. Profiad o ddarparu gwasanaethau technegol cysylltiedig â’r fflyd o fewn amgylchedd canolfan gwasanaethau a rennir gan gynnwys:
  3. Dealltwriaeth a/neu brofiad da o dechnolegau modern a ddefnyddir ar gerbydau, peiriannau ac offer gan gynnwys hydroleg, systemau rheoli, trawsyrru pŵer ac electroneg.
  4. Y gallu i gyfathrebu a thrafod gyda defnyddwyr a darparwyr gwasanaeth ar faterion technegol i sicrhau'r canlyniad gweithredol gorau i'r busnes.

Gofynion y Gymraeg

  • Dymunol:  A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf