Swyddog Rheoleiddio Gwastraff
Dyddiad cau: 20/08/2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Orllewin Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rheoliadau a Gorfodi Gwastraff y Gogledd Orllewin / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos sy'n cychwyn 01/09/2025
Rhif swydd: 203532
Y rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ymarferol i ymuno â’n Tîm Rheoliadau a Gorfodi Gwastraff ar gyfer y gogledd-orllewin. Fel Swyddog Rheoleiddio Gwastraff, byddwch ar flaen y gad o ran diogelu’r amgylchedd – gan reoleiddio safleoedd gwastraff, ymateb i ddigwyddiadau, a helpu i sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Byddwch chi’n chwarae rhan ymarferol wrth fonitro cydymffurfedd, ymchwilio i weithgareddau anghyfreithlon, a chymryd camau gweithredu lle mae eu hangen fwyaf. Gan ddefnyddio egwyddorion rheoliadol CNC, byddwch yn helpu i ysgogi newid go iawn – gan sicrhau bod busnesau’n cyflawni eu cyfrifoldebau amgylcheddol a bod ein cymunedau a’n hecosystemau’n parhau i fod yn ddiogel ac yn iach.
Mae hon yn rôl amrywiol, gyflym ac nid yw dau ddiwrnod yr un fath. O ymateb i adroddiadau amgylcheddol a chynnal archwiliadau safle i gyfrannu at brosiectau gwella a chynghori ar faterion technegol – bydd angen i chi fod yn drefnus iawn, meddu ar sgiliau pobl gwych, ac ag angerdd dros amddiffyn y byd naturiol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nia Brunning Nia.Brunning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae’r tîm yn cynnwys 11 swydd sy’n cynnwys swyddogion rheoliadau a gorfodaeth mewn diwydiant a gwastraff. Bydd y swydd hon yn cwmpasu ardal gyfan y gogledd-orllewin.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cefnogi’r gwaith o asesu cydymffurfedd â deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys casglu gwybodaeth i greu dogfennau technegol a fydd yn llywio blaenoriaethau rheoleiddiol neu o ran lleoedd
- Rhoi mewnbwn technegol i ymgynghoriadau tîm yn ôl y gofyn a chefnogi cynrychiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ar fforymau allanol
- Darparu cymorth i raglenni ymchwiliol
- Cyflenwi prosiectau gwella yn uniongyrchol drwy nodi cyfleoedd, rhestru gwaith, casglu trwyddedau a chaffael gwaith
- Goruchwylio contractwyr sy’n ymgymryd â gwaith ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cefnogi gwasanaeth rheoli digwyddiadau cadarn ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n dilyn prosesau’r sefydliad
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth ddigonol am reoleiddio gwastraff, rheoli’r amgylchedd, neu amaethyddiaeth.
- Dealltwriaeth o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid a phartneriaid mewnol ac allanol, gan egluro problemau ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
- Trwydded yrru lawn y DU sy’n gyfredol a dilys i yrru cerbydau fflyd (ceir a faniau) Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.