Arbenigwr Arweiniol ar Dystiolaeth Mawndiroedd

Dyddiad cau: 4 Medi 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cynefinoedd a Rhywogaethau  / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 15 Medi 2025

Rhif swydd: 203685

Y rôl

Ymunwch â ni i lunio dyfodol mawndiroedd Cymru fel rhan o Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd gyffrous Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Dyma gyfle unigryw i chwarae rhan allweddol mewn tîm proffil uchel, traws-swyddogaethol sy'n eistedd o fewn cyfarwyddiaethau Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Phrosiectau Strategol.

Fel ein harweinydd ar dystiolaeth mawndiroedd, byddwch wrth wraidd ymdrechion i warchod, rheoli'n gynaliadwy ac adfer un o adnoddau naturiol pwysicaf Cymru. Byddwch yn sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan y wyddoniaeth ac ymchwil ddiweddaraf – a bod ein prosiectau, yn eu tro, yn helpu i lunio'r sylfaen dystiolaeth gynyddol ar gyfer cadwraeth mawndiroedd. Yn y rôl hon, byddwch yn darparu cyngor technegol arbenigol ac yn arwain ar ddatblygu, comisiynu a rheoli prosiectau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Byddwch yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys prifysgolion, sefydliadau ymchwil, asiantaethau cadwraeth y DU a swyddogion Llywodraeth Cymru. Gan weithio ar draws timau CNC, byddwch yn helpu i ymgorffori tystiolaeth gadarn a chyfoes am fawndiroedd o fewn y broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel. Os ydych chi'n angerddol am ddefnyddio gwyddoniaeth i ysgogi effaith amgylcheddol yn y byd go iawn, dyma’ch cyfle i wneud gwahaniaeth ar raddfa genedlaethol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Dr James Latham.

james.latham@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cyfrannu at ddatblygiad parhaus rhaglenni tystiolaeth bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.
  • Arwain a chydweithio â'r uwch-gynghorydd arbenigol ar fawndiroedd ac eraill ar draws y sefydliad ar ddatblygu a chomisiynu gwaith i fynd i'r afael ag anghenion tystiolaeth y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. 
  • Rheoli cyllideb tystiolaeth mawndiroedd y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.
  • Cyfrannu at gomisiynau tystiolaeth Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol i fawndiroedd, ac mewn rhai achosion eu harwain.
  • Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a'r DU yn ôl yr angen. 
  • Arwain ar ddatblygu perthnasoedd â darparwyr tystiolaeth allanol.
  • Arwain a rheoli’r prosiect o ddatblygu prosiectau ar y cyd â darparwyr tystiolaeth allanol.
  • Sicrhau cysylltiad â thîm tystiolaeth CNC a chydymffurfedd â’i safonau ac ati.
  • Sicrhau yr adroddir ar allbynnau technegol y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn briodol (e.e. cyhoeddi adroddiadau tystiolaeth ac ati).
  • Bod yn gyfrifol am ddehongli ac adrodd ar ddata amgylcheddol, gan ei droi'n dystiolaeth, ac yna lledaenu gwybodaeth a data technegol cymhleth i ystod o gynulleidfaoedd sy’n amrywio o rai sy'n hyddysg yn dechnegol i rai nad ydynt yn dechnegol.  
  • Gweithio'n agos ag arbenigwyr eraill o CNC yn y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, arbenigwyr ecosystemau a rhywogaethau daearol, arbenigwyr sy'n ymdrin ag ansawdd dŵr a thystiolaeth perygl llifogydd, a'r Grŵp Tystiolaeth Strategol.
  • Cadw perchnogaeth a chynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am ardaloedd tystiolaeth mawndir, gan nodi goblygiadau datblygiadau deddfwriaethol a thechnolegol mewn tystiolaeth ar gyfer CNC. 
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â bioamrywiaeth; gyrwyr polisi Llywodraeth Cymru a'r DU mewn bioamrywiaeth; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru. 
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o'r amrediad o bartneriaid a rhanddeiliaid sydd ynghlwm wrth fioamrywiaeth yng Nghymru. Gwybodaeth dechnegol arbenigol sy'n gysylltiedig ag un neu fwy o'r canlynol: cynefinoedd / mamaliaid / adar / infertebratau / ymlusgiaid ac amffibiaid / planhigion uwch / planhigion is. 
  3. Profiad o ymgymryd â phrosiectau tystiolaeth, naill ai'n ymwneud yn uniongyrchol â mawndiroedd neu o berthnasedd amlwg i ecosystemau mawndiroedd, neu eu comisiynu.
  4. Profiad o’r canlynol: dealltwriaeth fanwl o'r maes arbenigol technegol perthnasol a'r ystod gymhleth o ysgogwyr a rhwystrau i gyflawni. 
  5. Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau, a rheoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn. 
  6. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu’n gweithio tuag at fod yn aelod. Cynrychioli’r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus.
  7. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf