Cynghorydd Ansawdd Dŵr Morol
Dyddiad cau: 31/08/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cynghori ar Ynni Adnewyddadwy / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 18/09/2025
Rhif swydd: 203996
Y rôl
Fel y Cynghorydd Arbenigol ar Ansawdd Dŵr Morol, chi fydd yr arbenigwr technegol i arwain cyngor ar ansawdd dŵr morol ar gyfer datblygiadau morol, gan gynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr. Bydd eich mewnbwn arbenigol yn dylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau, cynlluniau, canllawiau a strategaethau ar draws y Llywodraeth a Chyfoeth Naturiol Cymru, gan helpu i sicrhau bod datblygiad morol yn seiliedig ar dystiolaeth amgylcheddol gadarn.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, a’r sector morol, gan gyfrannu at raglenni trawsbynciol ac at lunio polisi morol cynaliadwy. Byddwch hefyd yn meithrin partneriaethau allanol cryf â chyrff cadwraeth natur statudol, swyddogion y llywodraeth, ymgynghorwyr a chynrychiolwyr y diwydiant.
Mae’r rôl hon yn adrodd i Arweinydd y Tîm Cynghori ar Ynni Adnewyddadwy.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Rebecca Tillson a Rebecca.Tillson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae’r rôl hon yn rhan o’r Tîm Cynghori ar Ynni Adnewyddadwy o fewn y Grŵp Mannau Cynaliadwy, Tir a Môr. Byddwch yn cydweithio’n agos â chydweithwyr ar draws timau a chyfarwyddiaethau yn Cyfoeth Naturiol Cymru, gan chwarae rhan hanfodol yn y rhaglen forol ar draws y sefydliad, gan gynnwys y Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr. Byddwch hefyd yn datblygu partneriaethau allanol gyda chyrff cadwraeth natur statudol, swyddogion Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector, a’u hymgynghorwyr i gefnogi datblygiad morol cynaliadwy.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio amrywiaeth o wybodaeth a data cymhleth mewn perthynas ag ansawdd dŵr morol.
- Cynnig cyngor technegol arbenigol yn fewnol i lywio ymatebion Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol i waith achos allanol, a hefyd pennu gwaith achos mewnol sy’n cael ei reoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (er enghraifft, trwyddedau morol). Bydd cyngor mewnol hefyd yn llywio swyddogaethau rheoli morol ac arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol.
- Darparu cyngor technegol arbenigol yn allanol ar gyfer (a) datblygwyr a rheoleiddwyr ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a (b) fforymau rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol, ac (c) cyflawni rôl tyst arbenigol mewn ymchwiliadau fel y bo’n briodol.
- Arwain ar waith datblygu canllawiau gwaith achos perthnasol.
- Datblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio. Llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau, cyngor statudol a dogfennau canllaw Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
- Cysylltu â rhanddeiliaid allanol megis cynrychiolwyr o’r sector, Llywodraeth Cymru, partneriaid, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
- Cynghori ar fylchau mewn tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
-
Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud ag ecosystemau morol ac arfordirol a sector(au) a neilltuwyd i chi; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a’r DU mewn ecosystemau morol ac arfordirol a sector(au) a neilltuwyd i chi a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
-
Profiad sylweddol o ddarparu cyngor morol technegol arbenigol, ar lefel ranbarthol neu ledled Cymru, ym maes ansawdd dŵr morol.
-
Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol; dadansoddi setiau data mawr.
-
Gwybodaeth dechnegol arbenigol yn ymwneud ag ansawdd dŵr morol ac arfordirol.
-
Gweithio gyda/yn Llywodraeth Cymru, cyrff cadwraeth natur statudol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, cyrff cyhoeddus a chyrff sy’n cynrychioli’r sector morol.
-
Sgiliau rheoli prosiect, cynllunio gwaith a blaenoriaethu da.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.