Cynghorydd Arweiniol Pysgod Morol

Dyddiad cau: 27/08/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cyngor ar Ecosystemau Morol ac Arfordirol / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 09&10/09/2025

Rhif swydd: 204011

Y rôl

Fel Cynghorydd Arbenigol Arweiniol – Rhywogaethau Morol (Pysgod), byddwch yn arbenigwr medrus ac uchel ei gymhelliant sy’n gallu rhoi cyngor arbenigol yn seiliedig ar dystiolaeth ar bysgod morol, pysgod aberol a physgod ymfudol. Byddwch yn darparu cyngor arbenigol i gydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac i bartneriaid allanol, gan gwmpasu ystod amrywiol o bynciau, gan gynnwys bioamrywiaeth pysgod ac effeithiau posibl datblygiadau ynni morol.

Byddwch yn sicrhau bod ein cyngor yn seiliedig ar dystiolaeth, yn chwilio am ffyrdd o wella ein sylfaen dystiolaeth, ac yn rheoli prosiectau tystiolaeth. Byddwch hefyd yn ysgrifennu ac yn cyfrannu at ganllawiau i staff a datblygwyr. Yn hollbwysig, byddwch yn helpu i lunio cyfeiriad strategol gwaith CNC yn y maes hwn, gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddiogelu amgylcheddau dyfrol Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Kirsten Ramsay a Kirsten.Ramsay@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk   

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Mae’r rôl hon yn rhan o’n Tîm Ecosystemau Morol ac Arfordirol – grŵp amlddisgyblaethol o arbenigwyr sy’n angerddol am ddiogelu a gwella amgylcheddau morol ac arfordirol Cymru. Rydym yn darparu cyngor technegol arbenigol ar draws ystod eang o bynciau, gan gefnogi cydweithwyr mewnol a phartneriaid allanol ar bolisïau strategol, rhaglenni, cynlluniau a chanllawiau. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr eraill yn y tîm, y mae eu meysydd ffocws yn cynnwys cynefinoedd arfordirol a morol, mamaliaid morol, adar morol, prosesau ffisegol morol ac arfordirol, ac ansawdd dŵr.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynnal gwaith arwain a rheoli prosiectau mewn perthynas â materion penodol a chymhleth lle mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau, rhaglenni a chanllawiau CNC, gan gynnwys cymorth ar waith achos sydd yn newydd, yn gynhennus neu er budd mawr i’r cyhoedd.
  • Darparu cyngor statudol i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru, yn ogystal ag adrannau Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldebau morol a gedwir, ac adolygu a rhoi cyngor yn eu tro ar y polisi, cynlluniau a strategaethau a grëir.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros faes polisi rhywogaethau morol a neilltuwyd i sicrhau uniondeb dulliau CNC wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac yn rhyngwladol.
  • Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Creu a chynghori ar ganllawiau ar gyfer staff CNC a rhanddeiliaid allanol.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am rywogaethau morol a neilltuwyd (pysgod morol, aberol ac ymfudol), gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol ac yn y farchnad i CNC a’r sector(au).
  • Rhoi cyngor arbenigol i fyrddau rhaglen perthnasol CNC a chyfrannu at gyflawni Rhaglen Forol CNC.
  • Llywio’r trosolwg a pherchnogaeth o’r gwaith o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n gysylltiedig â rhywogaethau morol a neilltuwyd.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: deddfwriaeth Cymru a’r DU, a deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â rhywogaethau morol; Llywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU, ac ysgogwyr polisi eraill ar faterion morol; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.

  2. Gwybodaeth dechnegol arbenigol a phrofiad yn ymwneud â physgod morol, aberol ac ymfudol.

  3. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i oresgyn y blaenoriaethau cymhleth, yr ysgogwyr a’r rhwystrau y mae CNC, partneriaid, a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chyflawni deilliannau ar gyfer ecosystemau morol ac arfordirol yng Nghymru yn eu hwynebu, gyda chyfeiriad penodol at bysgod morol, aberol ac ymfudol.

  4. Profiad o gyflwyno prosiectau neu raglenni tystiolaeth ac arweiniad sy’n berthnasol i bysgod morol, aberol ac ymfudol.

  5. Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau, a rheoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.

  6. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.

  7. Cynrychioli’r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf