Sut mae coedwigoedd yn rhoi hwb i economi Cymru

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd 2026, mae Greg Jones, o dîm Cynaeafu a Marchnata Cymru, yn esbonio'r rôl bwysig y mae coedwigoedd yn ei chwarae yn economi Cymru.

Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn cwmpasu mwy na 115,000 hectar neu tua 285,000 erw o goedwigoedd a choetiroedd, sef 6% o dir Cymru.

Mae'n cynnwys coetiroedd hynafol a choedwigoedd conifferaidd; pob un yn gartref i ystod amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid ac mae pob un â'r potensial i gynhyrchu cynhyrchion pren yn gynaliadwy.

Mae ein coedwigoedd a'n coetiroedd yn darparu llu o fanteision, gan gefnogi economi gylchol.

Nid yn unig y mae ein coedwigoedd a'n coetiroedd yn cefnogi bioamrywiaeth, bywyd gwyllt, atafaelu carbon, rheoli dŵr a hamdden, maent hefyd yn allweddol i bobl a natur ffynnu gyda'i gilydd, yn ogystal â chynhyrchu pren a dyfir yn gynaliadwy sy'n rhoi hwb i'r economi werdd ac yn darparu swyddi yng nghefn gwlad.

Ond nid pren yn unig sy'n cefnogi'r economi, mae Forest Research yn amcangyfrif bod y manteision lles i bobl sy'n mwynhau coedwigoedd a choetiroedd yn werth £13 miliwn i'r GIG yng Nghymru.

Y llynedd, lansiwyd y Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren, sy'n nodi pwysigrwydd tyfu mwy o bren yng Nghymru gan fod disgwyl i’r galw am bren gynyddu bedair gwaith yn fyd-eang erbyn 2050.

 Nod y strategaeth yw mynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau, gan gynnwys cynyddu gwytnwch yn erbyn plâu a chlefydau, digwyddiadau stormydd a thanau gwyllt mewn hinsawdd sy'n newid.

Mae'r pren rydym yn ei gyflenwi yn cael ei dorri gan gontractwyr medrus iawn sydd wedyn yn symud y coed wedi'u torri i'r ffordd goedwig i'w cludo i'r felin lifio gan gludwyr. Mae'r melinau llifio wedyn yn prosesu'r pren ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau fel ffensys, paledi ar gyfer cludo nwyddau eraill, dodrefn cartref mewnol fel ceginau ac yn bwysicaf oll, adeiladu. Mae'r pren sy'n mynd i adeiladu cartrefi ac adeiladau yng Nghymru, yn dal carbon gan ddarparu seilwaith gwyrdd sy'n addas i'r dyfodol.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd economïau coedwigoedd wrth ddatblygu ein Strategaeth Twf a Gwerth ar gyfer Cymru werdd a ffyniannus. Caiff yr elfen goedwigaeth o hyn ei mynegi yn y Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren drafft ar gyfer 2027-2031.

Mae'r cynllun hwn yn nodi ein hymrwymiad i lif parhaus o bren i'r farchnad, gydag Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na 60% o bren meddal i'r farchnad yng Nghymru, gan chwarae rhan ganolog wrth gefnogi ein diwydiant coedwigaeth.

Mae'r Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren yn canolbwyntio ar amcangyfrif cynyddol o gynhyrchu pren o rhwng 835,000 – 875,000 metr ciwbig bob blwyddyn o'n coedwigoedd i sicrhau cyflenwad pren cynaliadwy hirdymor, gan ddangos unwaith eto y rôl hanfodol y gall coedwigaeth ei chwarae wrth ddatblygu'r economi werdd yn ogystal â darparu deunyddiau adeiladu carbon bositif i gartrefi Cymru.

Economïau yw conglfaen coedwigoedd ac maent yn ein helpu i reoli ein coedwigoedd ar gyfer pren sy'n cefnogi lles pobl a bywyd gwyllt Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru