Sut mae ein Rhagolygon Risg Llygredd yn eich helpu i fwynhau dyfroedd ymdrochi Cymru yn ddiogel

Wrth i’r tywydd cynhesach ddod ac wrth i’r gwyliau haf agosáu, bydd llawer ohonom yn cynllunio ymweliadau â’n hoff draethau a dyfroedd ymdrochi ledled Cymru.

Wrth i’r tywydd cynhesach ddod ac wrth i’r gwyliau haf agosáu, bydd llawer ohonom yn cynllunio ymweliadau â’n hoff draethau a dyfroedd ymdrochi ledled Cymru.

Gwyddom pa mor bwysig yw dyfroedd ymdrochi i gymunedau lleol ac ymwelwyr a'r manteision iechyd a lles cysylltiedig.

Mae ein timau’n gweithio’n galed i gadw dyfroedd ymdrochi’n ddiogel – er mwyn i chi gael mynd i nofio’n hyderus braf.

Mae gan ein timau rôl bwysig i'w chwarae yn y ffordd rydym yn amddiffyn ein dyfroedd ymdrochi dynodedig ac yn gweithio'n galed i helpu i sicrhau fod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus cyn iddynt nofio, yn enwedig pan allai'r tywydd effeithio ar ansawdd y dŵr.

Monitro ein dyfroedd ymdrochi dynodedig

Mae ein staff yn samplu ansawdd y dŵr mewn 112 o safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig ledled Cymru, rhwng 15 Mai a 30 Medi yn unol â Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 i sicrhau bod y dyfroedd hyn yn parhau i fod yn ddiogel i'r cyhoedd eu mwynhau.

Yna caiff y samplau eu profi yn ein labordy, a hynny am ddau facteria y gwyddys eu bod yn niweidio iechyd pobl, sef E. coli ac enterococci berfeddol (intestinal enterococci yn Saesneg, neu IE) – gall y rhain achosi anhwylderau i’r stumog o’u llyncu.

Mae’r rhain yn ddangosyddion allweddol sy'n ein helpu i ddeall ansawdd dŵr ac unrhyw risgiau iechyd posibl i nofwyr.

Yna rydym yn defnyddio canlyniadau a gasglwyd dros y pedair blynedd diwethaf i roi sgôr i bob safle - rhagorol, da, digonol neu wael.

Beth yw Rhagweld Risg Llygredd a sut mae hyn yn helpu?

Rydym yn rhoi modelau rhagweld risg llygredd (PRF) ar waith mewn 16 o'n safleoedd dyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru.

Mae gan ddŵr ymdrochi Bae Abertawe fodel ar wahân a dim ond drwy wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe y mae'r rhagfynegiadau ar gyfer y dŵr ymdrochi hwn ar gael.

Mae'r modelau'n ein helpu i ragweld pryd y gallai ansawdd dŵr ostwng dros dro oherwydd ffactorau amgylcheddol, fel glaw trwm.

Mae'n bwysig nodi fodd bynnag, nad yw'r rhagolygon hyn yn golygu bod digwyddiad llygredd wedi digwydd, er enghraifft, gollyngiad carthffosiaeth.

Yn hytrach, maen nhw'n tynnu sylw at pryd mae siawns uwch y gall ansawdd dŵr fod wedi’i effeithio.

Mae gennym fodelau Rhagweld Risg Llygredd ar waith yn y safleoedd canlynol:

Aberdyfi, Abergele (Pensarn), De Aberystwyth, Aberllydan (Canol), Cemaes, Criccieth, Bae Cinmel (Sandy Cove) Llangrannog, Gogledd Cei Newydd, Trefdraeth, Gorllewin Poppit, Canol Prestatyn, Canol y Rhyl, Dwyrain y Rhyl, Bae Abertawe, Traeth Gwyn Cei Newydd. 

Pam y gall ffactorau amgylcheddol gael effaith?

Gall glaw trwm neu barhaus olchi llygryddion o ffyrdd, caeau ac ardaloedd trefol i'n hafonydd a'n moroedd.

Gall hefyd achosi i orlifoedd storm o'r rhwydwaith carthffosiaeth ollwng, os yw systemau trin dŵr gwastraff yn cael eu gorlethu.  Gall llanw uchel a gwyntoedd cryfion effeithio ar ansawdd y dŵr hefyd.

Rydym wedi datblygu modelau rhagweld er mwyn rhagweld pryd mae'r ffactorau amgylcheddol hyn yn debygol o arwain at ansawdd dŵr gwaeth, er mwyn eich hysbysu cyn i chi benderfynu a ddylech nofio ai peidio.

Beth mae hyn yn ei olygu i nofwyr?

Rydym yn cyhoeddi rhagolygon dyddiol yn ystod tymor dŵr ymdrochi fel y gallwch wirio ansawdd tebygol y dŵr a gwneud penderfyniad gwybodus cyn i chi nofio.

Gallwch ddod o hyd i'n rhagolygon dyddiol ar ein gwefan yma Trosolwg o ddyfroedd ymdrochi

Mae'r ddau gwmni dŵr yng Nghymru – Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy – bellach yn darparu rhybuddion bron mewn amser real pan fydd gorlifoedd stormydd wedi gorlifo i ddyfroedd ymdrochi dynodedig.

Beth sy'n digwydd os ceir digwyddiad llygredd?

Os bydd digwyddiad llygredd yn effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi, bydd ein timau'n ymateb ac yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol i ddarganfod a stopio'r ffynhonnell.

Yn achos digwyddiadau sylweddol, efallai y byddwn yn datgan 'sefyllfa annormal' a gall yr awdurdodau lleol wneud penderfyniad i gau traeth neu ddŵr ymdrochi dros dro nes bydd ansawdd y dŵr yn normal unwaith eto.  

Byddwn bob amser yn cymryd y camau gorfodi priodol yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.

Mae gwella ansawdd dŵr yn y tymor hir yn parhau i fod ar frig ein hagenda, a byddwn yn parhau i weithio'n agos â'r sector amaethyddol, cwmnïau dŵr a chymunedau lleol i sicrhau'r safon uchaf o ddyfroedd ymdrochi i bawb.

Gellir rhoi gwybod i CNC am achosion tybiedig o lygredd drwy ffonio’r llinell gymorth digwyddiadau 24/7 ar 03000 65 3000 neu ar-lein drwy’r dudalen Rhoi gwybod am ddigwyddiad.

Os ydych chi'n mwynhau nofio gwyllt, dilynwch y cyngor a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Cadw'n ddiogel mewn dyfroedd awyr agored yng Nghymru - Iechyd Cyhoeddus Cymrua dilyn y cod nofio gwyllt.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru