Cau Fforest Fawr yn ystod gwaith coedwigaeth
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau gwaith hanfodol yn Fforest Fawr, ger Tongwynlais ar gyrion Caerdydd, yn ystod mis Chwefror i reoli coed heintiedig a chadw ymwelwyr yn ddiogel.
Mae Fforest Fawr yn safle hamdden prysur gyda llawer o lwybrau ffurfiol ac anffurfiol. Bydd y goedwig yn cau, gan gynnwys y maes parcio a phob llwybr, o 2 Chwefror 2026 am tua phedair wythnos. Ni ddylai pobl ymweld â'r goedwig yn ystod y cyfnod hwn.
Bwriedir cwblhau’r gwaith erbyn diwedd mis Chwefror 2026 i leihau'r aflonyddwch ar rywogaethau gwarchodedig, fel pathewod.
Dywedodd Chris Rees, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:
Diogelwch ymwelwyr, preswylwyr a staff yw ein blaenoriaeth uchaf. Mae clefyd yr ynn wedi gwanhau llawer o goed yn Fforest Fawr yn sylweddol, ac mae eu tynnu o’r safle’n hanfodol i atal y risg o ganghennau neu goed yn cwympo.
“Rydym yn deall y bydd cau’r maes parcio a’r llwybrau yn anghyfleus, ac rydym yn diolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn.
Bydd ein contractwyr yn gweithio mor gyflym a diogel â phosibl, ac rydym yn gofyn i ymwelwyr barchu arwyddion diogelwch ac osgoi ardal y gwaith.
Mae'r coed wedi'u heintio â chlefyd yr ynn, sef clefyd ffwngaidd sy'n gwanhau ac yn lladd coed ynn, gan achosi i ganghennau neu goed cyfan gwympo heb rybudd.
Mae CNC wedi arolygu coed ynn ar draws y safle yn unol â Dull Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefyd Coed Ynn yng Nghymru ac wedi nodi tua 286 o goed sydd mewn cyflwr gwael neu sy'n dirywio ac sydd angen eu torri i amddiffyn diogelwch y cyhoedd.
Er bod y rhan fwyaf yn goed ynn, mae angen cael gwared ar nifer fach o goed llarwydd, ffawydd a chastanwydd pêr hefyd.
Gan fod y gwaith yn gofyn am ddefnyddio peiriannau coedwigaeth mawr gyda pharthau diogelwch helaeth, ni ellir cynnal mynediad diogel i’r cyhoedd yn yr ardal waith weithredol.
Atgoffir ymwelwyr sy'n dod i mewn i'r goedwig ar droed yn ystod y gweithrediadau i ddilyn yr holl arwyddion diogelwch, aros y tu allan i ardaloedd sydd wedi'u cau â ffensys neu dapiau, ac osgoi parthau gweithredol bob amser.
Ni ddylai ymwelwyr ymweld â'r goedwig yn ystod y gwaith, ac atgoffir unrhyw un sy'n dod i mewn i'r goedwig ar droed fod yr holl lwybrau ar gau, ac i ddilyn yr arwyddion diogelwch, aros y tu allan i ardaloedd wedi'u ffensio neu wedi'u tapio i ffwrdd, ac osgoi parthau gweithredol bob amser.