Pum prosiect i elwa o gynllun grant draenio cynaliadwy CNC
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dyfarnu cyllid grant i bum prosiect gwahanol i ddatblygu dyluniadau cysyniadol ar gyfer ôl-osod cynlluniau draenio cynaliadwy (SuDS).
|
Natural Resources Wales (NRW) has awarded grant funding for five different projects to develop concept designs for retro-fit sustainable drainage (SuDS) schemes. The grants, between £15,000-£30,000 each, aim to support projects through to delivery which will improve water management in the built environment, reduce pollution entering rivers and streams and enhance local biodiversity. Amongst the successful bids are two projects from Swansea Council to develop concept designs to install components such as rain gardens to reduce surface water flooding around Beach Street, St Helen’s Road and the Brynymor Street junction. Carmarthenshire County Council has also been successful in bidding for funding to develop concept designs for two projects to reduce surface water flooding at Llandovery Castle car park and Newcastle Emlyn car park. The grants will be used to develop these projects, which intend to reduce the volume of polluted water entering the wastewater network, and impacting the Rivers Tywi and Teifi – both Special Area of Conservation rivers. The charity Trees for Cities has been awarded a grant to develop concept designs for projects to address surface water flooding at three schools - St Cadocs, St Illtyds and Glyncoed. The grant programme is funded by the Welsh Government Nature and Climate Emergency (NaCE) Capital Programme. The programme supports a number of environmental priorities including peatland restoration, metal mine remediation, fisheries, water quality and national forests Helen Haider, Lead Specialist Advisor, Water Capital Programme, NRW said: “These grants will help the five projects move another step towards creating greener, more resilient communities. “Sustainable urban drainage solutions can help us tackle both climate and nature emergencies - reducing surface water flooding, pollution and enhancing biodiversity. “We hope to see these schemes progress to installation in the future, creating spaces where nature and people can thrive together.” -------------------------------------------------------------------------------- Pum prosiect i elwa o gynllun grant draenio cynaliadwy CNC Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dyfarnu cyllid grant i bum prosiect gwahanol i ddatblygu dyluniadau cysyniadol ar gyfer ôl-osod cynlluniau draenio cynaliadwy (SuDS). Nod y grantiau, sydd werth rhwng £15,000 a £30,000 yr un, yw cefnogi prosiectau hyd at eu cyflawni a fydd yn gwella rheolaeth dŵr yn yr amgylchedd adeiledig, yn lleihau llygredd sy'n mynd i mewn i afonydd a nentydd ac yn gwella bioamrywiaeth leol. Ymhlith y cynigion llwyddiannus mae dau brosiect gan Gyngor Abertawe i ddatblygu dyluniadau cysyniadol i osod cydrannau fel gerddi glaw i leihau llifogydd dŵr wyneb o amgylch Stryd y Traeth, Heol Santes Helen a chyffordd Stryd Brynymor. Mae Cyngor Sir Gâr hefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am gyllid i ddatblygu dyluniadau cysyniadol ar gyfer dau brosiect i leihau llifogydd dŵr wyneb ym maes parcio Castell Llanymddyfri a maes parcio Castellnewydd Emlyn. Bydd y grantiau'n cael eu defnyddio i ddatblygu'r prosiectau hyn, sydd â'r bwriad o leihau faint o ddŵr llygredig sy'n mynd i mewn i'r rhwydwaith dŵr gwastraff, ac sy'n effeithio ar afon Tywi ac afon Teifi – y ddwy ohonynt yn afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae'r elusen Trees for Cities wedi derbyn grant i ddatblygu dyluniadau cysyniadol ar gyfer prosiectau i fynd i'r afael â llifogydd dŵr wyneb mewn tair ysgol - St Cadocs, St Illtyd a Glyncoed. Ariennir y cynllun grant gan Raglen Gyfalaf Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys gwaith i adfer mawndir, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd, ansawdd dŵr a choedwigoedd cenedlaethol. Meddai Helen Haider, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Rhaglen Cyfalaf Dŵr CNC: “Bydd y grantiau hyn yn helpu’r pum prosiect i symud gam yn nes tuag at greu cymunedau gwyrddach a mwy gwydn. “Gall atebion draenio trefol cynaliadwy ein helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur – gan leihau llifogydd dŵr wyneb, llygredd a gwella bioamrywiaeth. “Rydym yn gobeithio gweld y cynlluniau hyn yn cael eu gosod yn y dyfodol, gan greu mannau lle gall natur a phobl ffynnu gyda’i gilydd.” |