Sut i fod yn wych yn yr awyr agored: 10 awgrym o’r Cod Cefn Gwlad ar gyfer cyfnod y Nadolig

Boed yn daith gerdded yn awyr iach y gaeaf, tro bach i godi archwaeth bwyd cyn cinio Dydd Nadolig, neu’n daith gerdded ar Ddydd San Steffan i glirio’r pen, mae cyfnod y Nadolig yn gyfnod pan fydd llawer yn mynd allan i’r awyr agored ac yn mwynhau cefn gwlad.

Mae Cymru yn llawn golygfeydd hardd y gellir eu mwynhau yn ystod misoedd y gaeaf, o gaeau dan fantell o farrug i draethau agored braf.

Dyma 10 awgrym o’r Cod Cefn Gwlad i helpu pawb i fwynhau yn yr awyr agored:

1. Cynlluniwch eich antur yn ofalus – gwiriwch eich llwybr a’r amodau lleol

Mae tywydd Cymru yn anrhagweladwy, felly mae hyd yn oed yn bwysicach eich bod chi wedi paratoi ar gyfer yr amodau yn ystod y misoedd tywyllach, oerach a gwlypach. Cyn i chi fentro allan, edrychwch ar awgrymiadau diogelwch AdventureSmart UK er mwyn gwneud eich diwrnod da hyd yn oed yn well. Ar ôl i chi gynllunio’ch llwybr, peidiwch â dibynnu ar signal ffôn na data pan fyddwch chi allan; cadwch fap wrth law neu lawrlwythwch fap o’ch llwybr i’w ddefnyddio all-lein.

2. Ewch â’ch sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad

Cofiwch ddod â bag gyda chi a mynd â’ch sbwriel a’ch gwastraff bwyd adref – mae hynny’n cynnwys y craceri Nadolig, gweddillion brechdanau Gŵyl San Steffan, a’r satswmas o’r hosan Nadolig. Defnyddiwch finiau cyhoeddus neu ailgylchwch os yn bosibl; mae sbwriel yn difetha harddwch cefn gwlad a gall fod yn beryglus i fywyd gwyllt, da byw a Rwdolff.

3. Byddwch yn gwrtais, dywedwch helô, rhannwch y lle

Lledaenwch ychydig o hwyl yr ŵyl a dywedwch ‘helô’, ‘shwmae’ neu ‘Nadolig Llawen’ wrth y rhai a welwch. Gall un neu ddau air syml drawsnewid diwrnod rhywun (mae hyn yn cal ei nodi yn y Cod Cefn Gwlad – rydyn ni’n griw cyfeillgar!).

4. Byddwch yn ystyriol o’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad, yn gweithio yno ac yn ei fwynhau

Parchwch bawb a phopeth rydych chi’n dod ar eu traws yng nghefn gwlad, yn enwedig y ffermwyr sy’n gweithio bob awr o’r dydd – hyd yn oed ar Ddydd Nadolig.

5. Gadewch gatiau ac eiddo fel yr oeddent

Os ydych ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, gwnewch yn siŵr bod y person olaf yn gwybod sut i adael y gatiau. Yn aml, mae ffermwyr yn cau gatiau i gadw anifeiliaid i mewn neu’n eu gadael ar agor i roi mynediad at fwyd a dŵr. Rydyn ni eisiau i’r asyn bach aros ar ochr iawn y cae.

6. Dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau sydd wedi’u marcio oni bai fod mynediad ehangach ar gael

Ymgyfarwyddwch ag arwyddion a symbolau cefn gwlad, a chadwch lygad amdanynt bob amser. Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod nad yw arwydd y fesen yn symbol o fwyd gwiwerod, ond yn hytrach yn arwydd Llwybr Cenedlaethol? Mae’n bwysig cadw at lwybrau wedi’u marcio er mwyn osgoi niweidio tir sensitif.

7. Peidiwch â rhwystro mynedfeydd na dreifiau wrth barcio

Dylech barcio mewn mannau diogel wedi’u marcio yn unig a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gadael eich car, beic na sled eira ar draws mynedfeydd pwysig i ffermwyr a phobl sy’n byw yno.

8. Gofalwch am natur – peidiwch ag achosi difrod na tharfu ar natur

Gadewch greigiau, cerrig, planhigion a choed fel yr oeddent cyn i chi ddod ar eu traws; mae hynny’n cynnwys y coed Nadolig, coed celyn a’r uchelwydd.

9. Cadwch eich cŵn dan reolaeth ac yn y golwg bob amser

Pan fyddwch chi allan ger yr arfordir, peidiwch â gadael i’ch ci fynd ar ôl heidiau o adar sy’n gaeafgysgu – mae angen lle arnyn nhw i orffwys a bwydo ar ôl eu taith hir. Dysgwch am y lleoedd gorau i weld bywyd gwyllt arfordirol trwy ddefnyddio ap Wales Coast Explorer.

10. Rhowch faw cŵn mewn bag a’i roi mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu ewch ag ef adref

Nid yw baw ci sydd wedi’i adael ar ôl yn anrheg Nadolig braf, felly glanhewch ar ôl eich ci bob amser i atal salwch mewn pobl, da byw a bywyd gwyllt. Peidiwch byth â gadael bagiau o faw cŵn o gwmpas, hyd yn oed os ydych chi’n bwriadu eu casglu yn ddiweddarach. Gall bagiau a chynwysyddion wedi’u dad-arogli wneud bagiau o faw cŵn yn haws eu cario. Os na allwch ddod o hyd i fin gwastraff cyhoeddus, dylech fynd ag ef adref a defnyddio eich bin eich hun.

Mae’r cyngor hwn a mwy i’w gael yn y Cod Cefn Gwlad: www.cyfoethnaturiol.cymru/cod-cefn-gwlad