Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau cwympo coed ym Mwlch Nant yr Arian
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dechrau gwaith cwympo coed ym Mwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth.
Mae'r gwaith - a fydd yn digwydd dros ryw ddau fis ac a ddechreuodd ddydd Llun, 2 Chwefror - yn rhan o'r Cynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer yr ardal.
Bydd tua saith hectar o goed aeddfed yn cael eu tynnu i gefnogi cynhyrchu pren cynaliadwy ac i glirio’r malurion sy'n weddill ar ôl gwaith coedwigaeth.
Yn lle llawer o'r coed a dynnir, bydd conwydd yn cael eu plannu sy'n cael eu tyfu'n benodol ar gyfer defnydd pren yn y dyfodol.
Gallai sawl llwybr sy'n pasio'n uniongyrchol drwy'r parth cwympo gael eu cau ar fyr rybudd, gan gynnwys: llwybrau beicio mynydd; llwybrau rhedeg, llwybr cerdded y Grib, a llwybr marchogaeth Mynydd March.

Mae'r defnydd o beiriannau coedwigaeth mawr a'r angen am barthau diogelwch eang yn golygu na ellir cynnal mynediad i’r cyhoedd yn ddiogel tra bod y gwaith ar y gweill.
Mae CNC yn gweithio i leihau'r tarfu yn ystod cyfnod prysur hanner tymor mis Chwefror ac efallai y bydd yn addasu'r amserlen lle bo'n bosibl.
Bydd y barcutiaid coch yn dal i gael eu bwydo bob dydd am 2pm trwy gydol y gwaith.
Dywedodd Ffred William Kehoe, Uwch Swyddog Rheoli Tir ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Diogelwch ymwelwyr, preswylwyr a staff yw ein blaenoriaeth uchaf. Mae'r coed yn cael eu cwympo fel rhan o'r Cynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer yr ardal.
“Rydym yn deall y bydd cau’r maes parcio a’r llwybrau yn anghyfleus, ac rydym yn diolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith hwn. Bydd ein contractwyr yn gweithio mor gyflym a diogel â phosibl, ac rydym yn gofyn i ymwelwyr barchu arwyddion diogelwch ac osgoi ardal y gwaith.”
Atgoffir ymwelwyr sy'n dod i mewn i'r goedwig ar droed yn ystod y gweithrediadau i ddilyn yr holl arwyddion diogelwch, aros y tu allan i ardaloedd sydd wedi'u cau â ffensys neu dapiau, ac osgoi parthau gweithredol bob amser.
Am ragor o wybodaeth am Fwlch Nant yr Arian, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth