Abertawe ar fin gwneud cais am statws dinas fioffilig fyd-eang

Prosiect Rainscape Abertawe

Disgwylir i Abertawe gymryd cam sylweddol i gryfhau rôl natur mewn bywyd trefol drwy wneud cais am statws dinas fioffilig.

Os yw'r cais yn llwyddiannus, byddai Abertawe'n ymuno  â rhwydwaith rhyngwladol o ddinasoedd sy'n ymrwymedig i roi'r amgylchedd naturiol wrth wraidd dylunio, cynllunio a lles trefol.

Mae disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe wneud cais ar y cyd.

Mae dinasoedd partner yn elwa o rannu dysgu, arloesedd ac arfer gorau, gan arddangos eu cyflawniadau ar lwyfan rhyngwladol.

Mae'r gwaith yn adeiladu ar waith presennol i wella ansawdd ac amrywiaeth isadeiledd gwyrdd yn Abertawe, gan gynnwys camau i adfywio canol y ddinas mewn ffyrdd sy'n cefnogi lles a bywyd gwyllt.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd:

"Mae gan Abertawe amgylchedd naturiol eithriadol, o'n harfordir a'n hardaloedd morol i'r mannau gwyrdd sydd wrth wraidd ein cymunedau
"Mae gwneud cais am statws dinas fioffilig yn ymwneud â chydnabod gwerth yr asedau hyn ac adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i'w diogelu a'u gwella.
"Bydd yn caniatáu i ni ddysgu gan ddinasoedd eraill sy'n wynebu heriau tebyg, rhannu arfer gorau, cryfhau ein hymagwedd at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chefnogi adferiad bioamrywiaeth wrth wella iechyd a lles pobl.
"Mae hwn yn ymrwymiad tymor hir i greu dinas lle mae natur yn rhan o fywyd pob dydd a lle gall cenedlaethau'r dyfodol ffynnu."

Mae'r gwaith yn adlewyrchu asedau naturiol cyfoethog Abertawe a'i huchelgais i ymateb yn gadarnhaol i heriau hinsawdd ac ecolegol cynyddol y mae cymunedau'n eu hwynebu'n lleol ac yn fyd-eang.

Mae Abertawe'n gartref i amrywiaeth eithriadol o gynefinoedd, gan gynnwys gweundiroedd, glaswelltiroedd, coetiroedd, gwlyptiroedd, morydau, clogwyni arfordirol, twyni tywod a rhostiroedd.