Ceisio barn ar sut mae coedwigoedd Caerffili a Thorfaen yn cael eu rheoli

Cwmcarn forest drive aerial view

Gwahoddir pobl sy’n mwynhau defnyddio’r coetiroedd cyhoeddus yng Nghaerffili a Thorfaen i ddweud eu dweud ar sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu eu rheoli yn y dyfodol.

Mae CNC – sy’n rheoli Ystad Coetir Llywodraeth Cymru ar hyd a lled Cymru – wedi datblygu cynllun rheoli 10 mlynedd ar gyfer y naw coetir o fewn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Carn.

Mae’r cynllun drafft yn canolbwyntio ar adfer coetiroedd hynafol, plannu mwy o goed llydanddail brodorol, cysylltedd cynefinoedd a bioamrywiaeth, gwydnwch yn wyneb newid hinsawdd, gwella ansawdd dŵr, a chyfleoedd hamdden a lles.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Carn yn cwmpasu 1,911 hectar, ac mae 1,690 hectar o hyn o fewn ffin bwrdeistref sirol Caerffili a 221 hectar yn Nhorfaen, gan gynnwys Twmbarlwm a Henllys.

Mae’r rhan fwyaf o’r coedwigoedd hyn yn ymestyn ar hyd dyffrynnoedd serth Sirhywi Isaf ac Ebwy yn agos at gymunedau Rhisga, Crosskeys, Cwm-carn, Aber-carn, Wattsville, Cwmfelin-fach ac Ynys-ddu.

At hynny, mae yna ddau floc coedwig ar wahân ym Machen a Llanbradach, sydd yng Nghwm Rhymni Isaf.

Gall pobl ddarllen y cynnig yn fanwl, ynghyd â rhoi adborth a fydd yn helpu i lunio fersiwn derfynol y cynllun, drwy ymgynghoriad CNC ar-lein yn https://bit.ly/cynlluncwmcarn

Bydd CNC hefyd yn cynnal sesiwn galw heibio i’r cyhoedd ar 23 Mehefin 2025 yng Nghlwb Wattsville rhwng 11:30am a 6:30pm i’r rhai sydd am ddysgu mwy, gofyn cwestiynau a siarad yn uniongyrchol â swyddogion CNC.

Dywedodd Laura McLoughlin, Uwch Swyddog Cynllunio Adnoddau Coedwig CNC:

“Mae ein coedwigoedd yn arbennig o fuddiol i’r amgylchedd naturiol ac i’n cymunedau. 
“Maen nhw’n ein helpu yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, yn darparu pren o ansawdd da i ni ei ddefnyddio, ac maen nhw’n llefydd gwych i ni gyd dreulio amser ynddynt a’u mwynhau.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor hoff yw pobl o’n coedwigoedd, ac ry’n ni am sicrhau bod y bobl sy’n eu defnyddio yn cael cyfle i ddweud eu dweud am sut maen nhw’n cael eu rheoli yn y dyfodol.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 16 Gorffennaf 2025.