Gwaun Hepste, ger Merthyr Tudful

Beth sydd yma

Rydym yn gwella rhai o'r llwybrau ym Mro’r Sgydau - ac felly mae rhai newidiadau dros dro i’w nodi tra bod y gwaith hwn yn digwydd:

 

  • mae’r Llwybr Pedwar Sgŵd yn parhau ar agor - ond dim ond tri sgŵd y gallwch eu gweld ar hyn o bryd (Sgŵd y Pannwr, Sgŵd yr Eira a Sgŵd Clun-gwyn).
  • nid yw'r llwybr i weld Sgŵd Isaf Clun-gwyn ar agor (mae rhan fer o lwybr troed Hawl Tramwy Cyhoeddus rhif 41/68/1 ar gau dros dro).
  • mae rhai rhannau o'r Llwybr Pedwar Sgŵd yn fwy mwdlyd na’r arfer gan fod y llwybr wedi cael ei ddefnyddio gan beiriannau trwm wrth wneud y gwaith gwella.

Cofiwch ddilyn yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch.

Croeso

Maes parcio Gwaun Hepste yw'r man cychwyn ar gyfer Llwybr Pedair Sgwd - mae'r llwybr cylchol enwog i geunentydd y coetir lle mae pedair o raeadrau mwyaf ysblennydd yr ardal i'w gweld.

Mae'r prif lwybr yn llydan ac yn hawdd i'w ddilyn ond mae’r llwybrau nôl-a-mlaen dewisol sy’n arwain at olygfeydd o'r sgydau, yn cynnwys grisiau serth, sy’n arw a llithrig.

Mae byrddau picnic wrth ymyl y maes parcio.

Cadwch yn ddiogel ym Mro’r Sgydau

Mae Gwaun Hepste mewn rhan boblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a elwir yn Fro’r Sgydau.

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad â Bro’r Sgydau.

Mae damweiniau difrifol yn digwydd yma i ymwelwyr a chafwyd nifer o farwolaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

  • Rydych chi mewn perygl o ddioddef anafiadau a all newid bywyd neu o gael eich lladd os byddwch yn penderfynu mynd i mewn i’r dŵr.
  • Peidiwch â chael eich temtio i neidio i bwll dŵr neu i gerdded i mewn i afon i nofio gan fod y dŵr yn oer, yn ddwfn ac yn llifo’n gryf a cheir creigiau llithrig, cerhyntau cryfion a pheryglon cudd.
  • Peidiwch byth â chymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded ceunentydd neu hafnau a sgramblo oni bai eich bod wedi cael hyfforddiant neu oni bai eich bod yn cael eich goruchwylio gan weithredwr cofrestredig a thrwyddedig.
  • Mae llawer o’r damweiniau y mae’r tîm achub mynydd yn cael eu galw i helpu gyda nhw yn cael eu hachosi gan lithro, baglu a chwympo – gwisgwch esgidiau cerdded a chymerwch ofal arbennig ar risiau a thir llithrig.
  • Byddwch yn eithriadol o ofalus yn yml dŵr a chadwch at y llwybrau sydd wedi’u harwyddo gan eu bod yn cynnig y ffordd fwyaf diogel – mae mentro y tu hwnt i’r llwybr sydd wedi’i arwyddo yn hynod o beryglus.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Pedair Sgwd

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 5 milltir/8 cilomedr
  • Amser: 3-4 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r prif lwybr cylchol wedi'i arwyddo â saethau coch ac mae'n dilyn llwybrau sy'n llydan fel arfer, a cheir wyneb carreg gan amlaf. Ceir gwaith dringo ysgafn ac ychydig iawn o risiau sydd yma. Mae’r sgwd cyntaf yn cymryd tua 40 munud. Mae’r llwybrau sy’n cysylltu’r sgydau wedi’u eu harwyddo â saethau gwyrdd. Mae'r rhain yn llwybrau nôl-a-mlaen dewisol sy’n arwain at olygfeydd o'r sgydau, ac maent yn dilyn llwybrau cul, heb wyneb a llithrig mewn mannau, gyda llawer o risiau. Mae’r rhain yn arbennig o arw a chreigiog ger y sgydau. Gwisgwch esgidiau cryf, a byddwch yn ymwybodol o gwympiadau serth heb ffensys i’ch gwarchod, yn enwedig pan fyddwch yn tynnu lluniau. Peidiwch â chael eich temtio i nofio yn y dŵr – mae’n gallu bod yn oer ac mae’n llifo’n gyflym.

Llwybr cylchol rhyfeddol drwy geunentydd coediog sy’n cynnwys y pedair sgwd fwyaf poblogaidd.

Llwybrau eraill

Llwybr Pedair Sgwd (o faes parcio Cwm Porth)

Gallwch hefyd ymuno â Llwybr Pedair Sgwd o’r maes parcio yng Nghwm Porth (Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SN928 124) sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Llwybr Sgwd yr Eira (o faes parcio Craig y Ddinas)

Mae llwybr uniongyrchol, rhywfaint yn fyrrach i raeadr Sgwd yr Eira o'n maes parcio Craig y Ddinas.

Darganfod Bro’r Sgydau

Does yna unlle arall yng Nghymru gyda’r fath gyfoeth ac amrywiaeth o raeadrau mewn ardal mor fach. Yma, yn yr ardal a elwir yn Fro’r Sgydau, mae afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin, Nedd Fechan a Sychryd yn ymdroelli i lawr ceunentydd dwfn, coediog, dros gyfres o raeadrau dramatig, cyn ymuno i ffurfio Afon Nedd.

P’un a ydych yn chwilio am antur am ddiwrnod cyfan neu dro am awr yn unig, dylech allu dod o hyd i lwybr addas i chi.

Lleolir Bro’r Sgydau yn bennaf o fewn coetir a reolir ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol. Gyda’n gilydd, rydym yn rheoli’r llwybrau ac yn eich helpu chi i archwilio a mwynhau’r ardal unigryw hon.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ganfod rhagor o leoedd i ymweld â hwy ym Mro’r Sgydau.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Mae maes parcio Gwaun Hepste 10 milltir i'r gogledd-orllewin o Ferthyr Tudful.

Dilynwch yr A465 o Ferthyr Tudful tuag at Gastell-nedd.

Ar ôl 5 milltir, cymerwch yr A4059 ar y gylchfan tuag at Aberhonddu.

Ar ôl 3¼ milltir, trowch i'r chwith tuag at Ystradfellte.

Cadwch i'r chwith ar y ddwy gyffordd nesaf, gan ddilyn arwyddion rhaeadr i faes parcio Gwaun Hepste sydd ar y chwith. 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 935 123 (Explorer Map OL 12).

Y cod post yw CF44 9JF. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberdâr.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae maes parcio Gwaun Hepste yn faes parcio talu ac arddangos sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Codir tâl parcio:

  • £6 y car
  • £7 y bws mini

Mae’r peiriant tocynnau yn derbyn cardiau yn unig.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf