Gwneud cais i drosglwyddo trwydded gosodiadau

Cyn i chi wneud cais

Mae trwydded amgylcheddol yn benodol i leoliad (oni bai ei bod ar gyfer offer symudol). Mae hyn yn golygu, os byddwch chi’n gwerthu eich tŷ neu’ch safle, na allwch chi fynd â’ch trwydded gyda chi a pharhau â’r gweithgaredd a ganiateir yn eich lleoliad newydd. Bydd angen i chi drosglwyddo eich trwydded i’r perchnogion newydd.

Sut i wneud cais

Rhaid i chi lenwi Rhan A a D2 a rhaid i’r ddwy ochr hefyd lofnodi’r datganiad yn Rhan F1.

I gyfrifo faint sydd angen i chi ei dalu, bydd angen i chi gwblhau’r Offeryn Codi Tâl (Saesneg yn unig).

Mae’r offeryn yn cynnwys canllawiau ar sut i’w gwblhau, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau cyffredinol isod.

Bydd angen i chi hefyd adolygu eich taenlen asesu risgiau gweithredol er mwyn sicrhau bod eich tâl parhau blynyddol yn parhau i fod yn gywir.

Lawrlwythwch y daenlen asesu risgiau gweithredol (Saesneg yn unig)

Ffurflenni cais

Wrth agor y ffurflenni, efallai y bydd angen i chi glicio ‘Gweld, Golygu dogfen’ neu ‘Galluogi cynnwys’. Edrychwch ar ein tudalen Sut i wneud cais am drwydded amgylcheddol i gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ein ffurflenni cais.

Noder: Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o’r ffurflen, dim ond yr adrannau o’r ffurflen honno sy’n berthnasol i’ch cais y mae angen i chi eu llenwi.

Os ydych chi’n cael anhawster wrth lenwi’ch cais, yna gallai’r wybodaeth yn yr adran ‘Help gyda’ch cais’ isod eich helpu. Os oes angen cyngor arnoch cyn ymgeisio, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Rhan A

Ffurflen gais Rhan A – Amdanoch chi

Nodiadau canllaw Rhan A – Sut i gwblhau Rhan A o’n ffurflen gais

Rhan D

Ffurflen gais Rhan D2 – Cais i drosglwyddo trwydded gosodiadau

Nodiadau canllaw Rhan D2 – Sut i gwblhau Rhan D2 o’n ffurflen gais

Rhan F

Ffurflen gais Rhan F1 – Taliadau a datganiadau

Nodiadau canllaw Rhan F1 – Sut i gwblhau Rhan F1 o’n ffurflen gais

Sut i dalu

Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.

Neu drwy drosglwyddiad BACS: 

Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni:  Adran Incwm, Blwch SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif y cyfrif: 10014438

Ffioedd a thaliadau

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi taliadau trwyddedau amgylcheddol

Cymorth gyda’ch cais

Cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau cyffredinol: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf