Gwneud cais i amrywio (newid) trwydded ar gyfer gosodiadau
Cyn i chi wneud cais
Os hoffech wneud unrhyw newidiadau i’ch trwydded, mae angen i chi wneud cais am amrywiad. Am ragor o gyngor ar sut y gallwch amrywio trwydded, gweler y ffurflenni cais a’r nodiadau canllaw sydd ar gael o’r dolenni isod.
Rhaid i bob ymgeisydd lenwi Rhan A ac F a chwblhau’r adrannau priodol yn Rhan C.
Newidiadau gweinyddol
Bydd angen i chi wneud cais am amrywiad gweinyddol er mwyn newid neu gywiro:
- enw neu gyfeiriad lle nad yw’r endid cyfreithiol wedi newid
- Cyfeirnod Grid Cenedlaethol er mwyn gwella cywirdeb
- gwallau teipio
- dyddiad dechrau trwydded
- lleoliad allfa – lle nad oes angen asesiad technegol newydd
Rhaid i chi lenwi Rhan C0.5 oni bai eich bod yn newid cyfeiriad neu fanylion cyswllt, pan ddylech chi hefyd lenwi Rhan A gyda’r manylion newydd.
Y tâl am newid gweinyddol y mae deiliad y drwydded yn gofyn amdano yw £632.
Cydgrynhoi eich trwyddedau
Os oes gennych fwy nag un drwydded amgylcheddol yn yr un lleoliad, gallwch wneud cais i gydgrynhoi eich trwydded. Os hoffech chi gydgrynhoi eich trwydded, yna cysylltwch â’n canolfan gyswllt cwsmeriaid ar 0300 065 3000 i drafod eich cais.
Sut i wneud cais
Rhaid i chi lenwi Rhan A ac F a chwblhau’r adrannau priodol yn Rhan B.
I gyfrifo faint sydd angen i chi ei dalu, bydd angen i chi gwblhau’r Offeryn Codi Tâl (Saesneg yn unig).
Mae’r offeryn yn cynnwys canllawiau ar sut i’w gwblhau, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau cyffredinol isod.
Bydd angen i chi hefyd adolygu eich taenlen asesu risgiau gweithredol er mwyn sicrhau bod eich tâl parhau blynyddol yn parhau i fod yn gywir.
Lawrlwythwch y daenlen asesu risgiau gweithredol (Saesneg yn unig)
Ffurflenni cais
Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o’r ffurflen, dim ond yr adrannau o’r ffurflen honno sy’n berthnasol i’ch cais y mae angen i chi eu llenwi.
Rhan A
Ffurflen gais Rhan A – Amdanoch chi
Nodiadau canllaw Rhan A – Sut i gwblhau Rhan A o’n ffurflen gais
Rhan C
Llenwch yr adrannau perthnasol o Ran C, yn dibynnu ar y newidiadau rydych chi am eu gwneud.
Ffurflen gais Rhan C0.5 – Amrywiad gweinyddol o drwydded safonol neu bwrpasol
Nodiadau canllaw Rhan C0.5 – Sut i gwblhau Rhan C0.5 o’n ffurflen gais
Ffurflen gais Rhan C1 – Amrywio trwydded i newid cyfleuster safonol, neu i ychwanegu un
Nodiadau canllaw Rhan C1 – Sut i gwblhau Rhan C1 o’n ffurflen gais
Ffurflen gais Rhan C2 – Amrywio trwydded bwrpasol:cyffredinol
Nodiadau canllaw Rhan C2 – Sut i gwblhau Rhan C2 o’n ffurflen gais
Ffurflen gais Rhan C3 – Amrywio trwydded gosodiadau bwrpasol
Nodiadau canllaw Rhan C3 – Sut i gwblhau Rhan C3 o’n ffurflen gais
Rhan F
Ffurflen gais Rhan F1 – Taliadau a datganiadau
Nodiadau canllaw Rhan F1 – Sut i gwblhau Rhan F1 o’n ffurflen gais
Sut i dalu
Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:
Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.
Neu drwy drosglwyddiad BACS:
Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Blwch SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif y cyfrif: 10014438
Ffioedd a thaliadau
Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi taliadau trwyddedau amgylcheddol 2025/2026