Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud rhywbeth ar dir CNC, er enghraifft:
- marchogaeth
 - ffilmio
 - cynnal digwyddiad
 - fforio
 - arolygon
 - addysg
 - wneud gwaith ar y tir
 
Faint o amser mae’n ei gymryd
Byddwn yn dechrau prosesu ceisiadau ar ôl derbyn yr holl wybodaeth.
Trwydded marchogaeth ceffylau yn Niwbwrch - hyd at 10 diwrnod gwaith.
Ceisiadau ffilmio - o leiaf 3 wythnos.
Pob cais arall - hyd at 12 wythnos.
Cyn ymgeisio
Bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:
- gwybodaeth am eich sefydliad
 - person cyswllt
 - gwybodaeth am yr hyn yr hoffech ei wneud (ar gyfer arolygon, bydd angen gwybodaeth am y rhywogaethau)
 - cyfeirnod grid neu What3Words eich man cychwyn
 - pryd rydych chi am ddefnyddio’r tir
 - nifer y bobl fydd ar y safle
 - a oes angen i chi addasu’r amgylchedd (e.e. torri coed)
 - a oes angen mynediad unigryw arnoch i’r tir
 - gwybodaeth am ddefnyddio dronau
 - a oes angen i chi fynd â cherbydau ar y tir
 
Dogfennau sydd angen i chi eu rhannu gyda ni
Os ydych chi’n gwneud cais am drwydded marchogaeth ceffylau, dim ond tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sydd ei angen.
Ar gyfer pob cais arall, bydd angen y canlynol:
- map
 - tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn dangos y canlynol:
 - eich enw
 - dyddiadau’r yswiriant
 - cyfanswm yr yswiriant (isafswm o £5 miliwn)
 - asesiad risg
 - yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiad risg a manylion trwydded sy’n cwmpasu defnyddio drôn
 
                
Diweddarwyd ddiwethaf