Dechrau prosiect cymunedol hirdymor ar dir rydyn ni'n ei reoli
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os ydych chi am redeg prosiect cymunedol sy'n para am dros flwyddyn. Er enghraifft:
- rhedeg ysgol goedwig nid-er-elw
- sefydlu grŵp gwirfoddoli i ofalu am lwybrau lleol
- creu grŵp cymunedol i reoli ardal o goetir
Mae Llais y Goedwig yn cynrychioli ac yn cefnogi grwpiau ac ymarferwyr coetir cymunedol ledled Cymru. Gallan nhw:
- eich helpu i gwblhau eich cais
- rhoi cyngor am gyllid
- helpu gyda chynaliadwyedd
- eich cyflwyno i rwydwaith o brosiectau coetiroedd cymunedol yng Nghymru
Diweddarwyd ddiwethaf