Datganiad Rheoleiddio 129: Storio, trin a defnyddio gwastraff asffalt
Mae’r datganiad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Gorffennaf 2029 a bydd yn cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio’n ôl bryd hynny i sicrhau bod y datganiad yn dal yn ddilys.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dynnu’r datganiad hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r datganiad hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.
Datganiad rheoleiddio
Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol i storio a thrin:
- Gwastraff asffalt sy’n cynnwys col-tar (AWCCT) wedi’i godio 17 03 01* (cymysgeddau o fitwminaidd sy’n cynnwys col-tar) a ddefnyddir wedyn mewn proses caenu cymysgedd oer o dan drwydded offer symudol Rhan B a ddyroddwyd gan awdurdod lleol
- Gwastraff asffalt seiliedig ar fitwmen (BBAW) wedi’i godio 17 03 02 (cymysgeddau o fitwmen heblaw’r rhai a grybwyllir yn 17 03 01) a ddefnyddir wedyn mewn proses caenu o dan drwydded offer symudol Rhan B a ddyroddwyd gan awdurdod lleol
Rhaid i’r gwaith storio a thrin fod ar yr un safle â’r gweithgaredd caenu offer symudol Rhan B ac ar gyfer hyn.
Mae’r datganiad rheoleiddio hwn hefyd yn berthnasol i ddefnyddio AWCCT wedi’i godio 17 03 01* (cymysgeddau bitwminaidd sy’n cynnwys col-tar) yn y gweithgareddau adeiladu a gwmpesir gan y datganiad hwn.
Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw i storio a thrin AWCCT neu BBAW
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- storio a thrin AWCCT wedi’i godio 17 03 01* ar wahân i wastraff arall ac ar arwyneb anathraidd gyda draeniad wedi’i selio
- mathru, malu, sgrinio neu raddio BBAW neu AWCCT mewn offer symudol Rhan B a ganiateir gan awdurdod lleol
- gweithredu unrhyw weithgaredd caenu dilynol ar yr un safle o dan awdurdodiad offer symudol Rhan B
- cadw cofnodion am dair blynedd o’r dyddiad y defnyddiwyd y datganiad rheoleiddio yn flaenorol i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r datganiad hwn, a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais
Ni chewch wneud y canlynol:
- storio neu drin unrhyw fath o wastraff asffalt yn ysbeidiol neu’n barhaus ar yr un safle am fwy na 12 mis mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd
- storio mwy na 500 metr ciwbig o AWCCT wedi’i godio 17 03 01* (neu 1,000 metr ciwbig pan gaiff ei storio dan do) ar unrhyw adeg, neu 20,000 tunnell o fewn 12 mis
- storio mwy na 50,000 tunnell o BBAW wedi’i godio 17 03 02 o fewn 12 mis
Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw i ddefnyddio AWCCT wedi’i drin
Dim ond fel a ganlyn y dylech chi ddefnyddio AWCCT wedi’i drin:
- mewn gweithgareddau adeiladu ar gyfer adeileddau palmant caled fel ffyrdd, palmentydd, llwybrau troed, meysydd parcio neu feysydd awyr
- mewn haenau is-wyneb wedi’u rhwymo – er enghraifft, haenau is-sylfaen, haenau sylfaen a haenau rhwymo
- os yw wedi cael ei drin i fodloni’r gofynion o fewn adran 10 o CC 201 – Adeiladu sylfeini palmant, adran 6 o CC 202 – Adeiladu palmant hyblyg neu BS 9228: Ailgylchu ffyrdd ac ardaloedd palmentog eraill gan ddefnyddio emwlsiwn bitwmen, bitwmen ewynnog neu ddeunydd hydrolig. Deunyddiau, cynhyrchu, gosod a phrofi math cynnyrch
Ni ddylech ddefnyddio AWCCT wedi’i drin mewn:
- cymwysiadau arwyneb
- mân waith atgyweirio priffyrdd (er enghraifft, llenwi tyllau yn y ffordd)
- gweithgynhyrchu blociau neu gynhyrchion concrit
Rhaid i chi gyflwyno datganiadau derbynnydd gwastraff peryglus chwarterol sy’n cydymffurfio â’r canllawiau ar ddatganiadau derbynnydd gwastraff peryglus.
Pethau i’w nodi
Os na allwch fodloni’r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn, rhaid i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Nid yw codi, storio, trin ac ailddefnyddio asffalt ar yr un safle - er enghraifft, yr un darn o ffordd – yn weithgareddau gwastraff ac felly nid ydynt yn destun rheolaethau rheoli gwastraff. Fodd bynnag, efallai y bydd angen trwydded offer symudol Rhan B gan awdurdod lleol ar gyfer y gweithgareddau hyn.
Fel arfer, mae trin AWCCT ar safle wedi’i awdurdodi gan naill ai:
- Awdurdodiad Rhan A o dan adran 5.3 a’r storio o dan Ran A(1) adran 5.6 o Atodlen 1 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 (fel y’u diwygiwyd)
- Trwydded gosod Rhan B o dan adran 3.5 o Atodlen 1 lle nad yw’r gweithgaredd yn dod o dan Ran A(1) adran 5.3 a/neu adran 5.6, oherwydd y trothwy cynhwysedd
Fel arfer, mae caenu â BBAW wedi’i godio 17 03 02 (neu garreg ffordd wedi’i hailgylchu sy’n bodloni safon protocol ansawdd agregau o wastraff anadweithiol) ar safle wedi’i awdurdodi gan drwydded Rhan B a ddyroddir gan awdurdod lleol o dan adran 3.5 o Atodlen 1 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 (fel y’u diwygiwyd). Mae angen trwydded gweithrediad gwastraff arnoch hefyd gan CNC ar gyfer storio a thrin trwy falu, sgrinio a chymysgu BBAW cyn y gwaith caenu.
Os bydd caenu â BBAW wedi’i godio 17 03 02 (neu garreg ffordd wedi’i hailgylchu) wedi’i awdurdodi gan drwydded offer symudol Rhan B, bydd angen i chi wneud un o’r canlynol:
- bodloni’r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn
- cael esemptiad gwastraff
- cael trwydded gweithrediad gwastraff
ar gyfer storio a thrin dros dro trwy fathru, sgrinio a chymysgu BBAW cyn y gwaith caenu. Gellir defnyddio esemptiad gwastraff T5, ar y safle lle cynhyrchir y gwastraff neu lle bwriedir ei ddefnyddio. Mae’r esemptiad T5 yn caniatáu storio a thrin trwy fathru, sgrinio a chymysgu gwastraff asffalt sydd wedi’i godio 17 03 02, cyn ei ddefnyddio mewn proses caenu offer symudol Rhan B ar yr un safle.
Os na allwch fodloni’r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn neu’r esemptiad gwastraff, bydd angen trwydded gweithrediad gwastraff arnoch ar gyfer storio a thrin BBAW dros dro trwy fathru, cymysgu a sgrinio.
Mae arwyneb anathraidd yn golygu, er enghraifft, concrit neu bilen geodecstil anhydraidd gyda draeniad wedi’i selio. Mae system ddraenio sydd wedi’i selio yn anathraidd – nid yw’n gollwng. Mae’n sicrhau:
- na fydd unrhyw hylif yn rhedeg oddi ar yr wyneb heblaw na thrwy’r system
- ac eithrio lle gellir eu gollwng yn gyfreithlon i garthffos fudr, y caiff yr holl hylifau sy’n mynd i mewn i’r system eu casglu mewn swmp wedi’i selio
Gall storio BBAW ac AWCCT dros dro cyn ei adfer yn rhywle arall gael ei gwmpasu gan esemptiad gwastraff S2, yn amodol ar y gofynion esemptio.
Am ragor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar esemptiadau gwastraff a thrwyddedau amgylcheddol i storio, trin a defnyddio BBAW.
Wrth gyflwyno datganiadau derbynnydd gwastraff peryglus chwarterol, mae AWCCT wedi’i drin yn dal i gael ei ddosbarthu fel 17 03 01* ar ôl triniaeth, ac mae defnyddio’r gwastraff hwn yn weithgaredd R5.
Gorfodi
Nid yw’r datganiad rheoleiddio hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded amgylcheddol pan fyddwch chi’n storio ac yn trin gwastraff asffalt sy’n seiliedig ar fitwmen (BBAW) (cod gwastraff 17 03 02) neu wastraff asffalt sy’n cynnwys col-tar (AWCCT) (cod gwastraff 17 03 01*), naill ai:
- ar safle gyda thrwydded offer symudol Rhan B
- pan fyddwch chi’n defnyddio AWCCT wedi’i drin mewn gweithgareddau adeiladu
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol hwn, cyn belled â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- mae eich gweithgaredd yn bodloni’r disgrifiad a nodir yn y datganiad rheoleiddio hwn
- rydych chi’n cydymffurfio â’r amodau a nodir yn y datganiad rheoleiddio hwn
Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud fel a ganlyn:
- peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig