Datganiad: Croesawi Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Heddiw, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025, sy’n herio penderfynwyr ledled Cymru i feddwl yn wahanol am sut y gallwn ni gyd cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i amddiffyn y genhedlaeth nesaf.
Dyweddodd Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Wrth i ni nodi 10 mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r adroddiad carreg filltir hwn yn ein hatgoffa o’r hyn y gallwn ei gyflawni os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, ar draws sectorau a chymunedau, i sicrhau newid parhaol i bobl Cymru a’r amgylchedd a rennir.
“Rydym yn arbennig o falch o weld bod y Comisiynydd wedi gosod adfer natur a datgarboneiddio wrth wraidd ei alwadau i weithredu. Cydnabyddir yn dda bellach fod bod yn natur bositif a chyflawni sero net yn hanfodol ar gyfer diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r adroddiad yn adleisio ein cred gadarn bod mynd i’r afael ag argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd yn gofyn am arweinyddiaeth feiddgar, ymdrech gydweithredol, er mwyn cyflawni gweledigaeth wyrddach, fwy gwydn.
“Rydym hefyd yn falch bod ein hadroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) wedi cyfrannu at ddadansoddiad y Comisiynydd. Bydd y dystiolaeth, y mewnwelediad a’r argymhellion y mae’r ddau adroddiad hyn yn eu darparu yn hanfodol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau wrth i ni symud tuag at etholiad nesaf y Senedd yn 2026 – eiliad hollbwysig sy’n gorfod blaenoriaethu meddwl a gweithredu hirdymor.
“Mae’r adroddiadau hyn yn cynnig sylfaen dystiolaeth gadarn i gefnogi’r penderfyniadau trawsnewidiol y bydd eu hangen i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd, natur a llygredd.
“Dros oes Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym yn falch o fod wedi gweld prosiectau fel y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, prosiectau LIFE a Natur am Byth yn dod yn fyw ac yn chwarae eu rhan mewn adfer natur a rhywogaethau.
“Rydym hefyd yn cryfhau ein hymagwedd ein hunain at newid yn yr hinsawdd trwy ddatblygu ein Cynlluniau Ymaddasu a Sero Net ar gyfer y sefydliad cyfan, gan integreiddio cynaliadwyedd ac ystyried ôl troed carbon a risgiau ac effeithiau hinsawdd yn y penderfyniadau a wnawn.
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i roi’r argymhellion hyn ar waith, ac i barhau i adeiladu Cymru sy’n gweithio nid yn unig ar gyfer heddiw – ond ar gyfer cenedlaethau i ddod.”
Darllenwch yr adroddiad llawn ac archwiliwch yr argymhellion ar ei wefan.