Gelli Ddu, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Mae Llwybr Coed Allt Fedw wedi’i ddargyfeirio.

 

Mae Llwybr Marchogaeth Allt Fedw ar gau. 

 

Mae stormydd wedi achosi difrod helaeth yn yr ardal hon a bydd y gwaith adfer yn cymryd peth amser. Mae'r rhan fwyaf o'r ffyrdd coedwig ar agor, gan ddibynnu ar amodau lleol, ond efallai y bydd yn rhaid i ni gau'r maes parcio, a’r llwybrau neu gyfleusterau ymwelwyr eraill ar fyr rybudd tra byddwn yn ymgymryd â'r gwaith hwn. Er eich diogelwch dylech ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol.

Croeso

Mae’r Gelli Ddu yn lleoliad tawel wrth ymyl Afon Ystwyth sy’n llifo trwy’r cwm serth hwn ar ei ffordd i Aberystwyth.

Enwyd ar ôl Ystad Trawsgoed, yr oedd unwaith yn rhan ohoni - ystyr ‘covert’ yn yr enw Saesneg Black Covert, yw ardal i fagu adar helwriaeth, ac yn yr achos yma esantod gan fwyaf.

Mae Llwybr Glan yr Ystwyth yn llwybr hawdd drwy goetir ffawydd sydd wedi’i orchuddio â chlychau’r gog yn y gwanwyn.

Mae Llwybr Coed Allt Fedw, sy’n fwy egnïol, yn mynd i fyny at olygfan ar fryngaer sy'n 2000 o flynyddoedd oed.

Mae yna lwybr marchogaeth byr hefyd.

Mae yna ardal bicnic o dan gysgod coed ynn, bedw a chastanwydd pêr mawr.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Glan yr Ystwyth

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1.7 milltir/2.7 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llywbr: Mae’r llwybr yn rhwydd ond byddwch yn dod ar draws rhai grisiau a gwreiddiau. Bydd yr arwyneb yn arw ac efallai’n wlyb mewn mannau. Argymhellir esgidiau cerdded sydd â gafael dda. Nid oes dringfeydd dros 17tr / 5m. Bydd angen lefel resymol o ffitrwydd ar gyfer y llwybr hwn.

Mae’r llwybr hwn yn cynnig taith gerdded ysgafn ar hyd afon Ystwyth sy’n dychwelyd drwy goedwig sy’n llawn arogl resin.

Mae clychau’r gog yn gorchuddio’r ddaear o dan y coed ffawydd yn y gwanwyn ac mae yna lawer o ffyngau yn yr hydref.

Efallai y byddwch ddigon ffodus i gael cip ar las y dorlan yn gwibio heibio.""

Llwybr Coed Allt Fedw

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2.2 milltir/3.5 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr cymedrol gyda rhai dringfeydd hir a disgyniadau serth. Bydd yr arwyneb yn arw ac efallai’n wlyb mewn mannau. Mae mainc â olygfan. Argymhellir esgidiau cerdded sydd â gafael dda. Bydd angen lefel dda o ffitrwydd ar gyfer y daith gerdded hon. Cymerwch ofal ar y rhan 200 metr o’r llwybr sy’n mynd ar hyd y ffordd ger y maes parcio.

Mae'r llwybr yn mynd heibio llyn deniadol ac wedyn i fyny fryngaer Allt Fedw sy'n 2000 o flynyddoedd oed.

Mae mainc â olygfan ac yma gallwch edrych ar y golygfeydd panoramig ar hyd bryniau a dyffrynnoedd tonnog y holl ffordd i Bumlumon, sef mynydd uchaf Canolbarth Cymru.""

Llwybr Marchogaeth

Mae llwybr marchogaeth yn cychwyn o ffordd coedwig ger y maes parcio.

Mae arwyddbyst ar y llwybr o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Llwybr Marchogaeth Allt Fedw

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3.5 miles/5.6 cilomedr
  • Amser: 1 awr o gerdded
  • Gwybodaeth am y llwybr: Ar ôl cychwyn ar ffordd goedwig, yn y man byddwch yn mynd drwy giât at lwybrau meddal. Ar ôl rhan sy’n esgyn yn serth (tua 70m o hyd), byddwch yn dal i ddringo ar dir llai serth nes ichi gyrraedd pwynt uchaf y llwybr ger bryngaer Allt Fedw. Oddi yno, mae rhagor o lwybrau meddal tan y pwynt hanner ffordd, ac wedi hynny byddwch yn dilyn ffordd goedwig yr holl ffordd yn ôl i’r man cychwyn. Gall y llwybr fod yn fwdlyd a llithrig mewn mannau.

Mwynhewch amrywiaeth o arwynebau, coetiroedd ac ardaloedd agored ar y llwybr hwn, sydd â golygfeydd pell y tu hwnt i’r coetir.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Mae Gelli Ddu 9 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Cymrwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed.

Ar ôl Abermagwr, trowch i’r dde dros y bont (sydd ag arwydd yn dweud Llanilar B4575), ac yna trowch yn syth i’r chwith ac i’r chwith eto i mewn i’r maes parcio.

 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 667 729 (Explorer Map 213).

Y cod post yw SY23 4AT. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberystwyth.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf