Gwneud cais i ildio trwydded gosodiadau
Cyn i chi wneud cais
Os nad oes angen eich trwydded arnoch mwyach, rhaid i chi ei hildio. Gallwch hefyd ildio rhan o’ch trwydded – er enghraifft, os ydych chi am gael gwared ar gyfleuster neu leihau’r arwynebedd tir y mae eich trwydded yn ei gwmpasu.
Sut i wneud cais
Rhaid i chi lenwi Rhan A ac E2 ac F1.
I gyfrifo faint sydd angen i chi ei dalu, bydd angen i chi gwblhau’r Offeryn Codi Tâl (Saesneg yn unig).
Mae’r offeryn yn cynnwys canllawiau ar sut i’w gwblhau, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau cyffredinol isod.
Bydd angen i chi hefyd adolygu eich taenlen asesu risgiau gweithredol er mwyn sicrhau bod eich tâl parhau blynyddol yn parhau i fod yn gywir.
Lawrlwythwch y daenlen asesu risgiau gweithredol (Saesneg yn unig)
Ffurflenni cais
Wrth agor y ffurflenni, efallai y bydd angen i chi glicio ‘Gweld, Golygu dogfen’ neu ‘Galluogi cynnwys’. Edrychwch ar ein tudalen Sut i wneud cais am drwydded amgylcheddol i gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ein ffurflenni cais.
Noder: Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o’r ffurflen, dim ond yr adrannau o’r ffurflen honno sy’n berthnasol i’ch cais y mae angen i chi eu llenwi.
Os ydych chi’n cael anhawster wrth lenwi’ch cais, yna gallai’r wybodaeth yn yr adran ‘Help gyda’ch cais’ isod eich helpu. Os oes angen cyngor arnoch cyn ymgeisio, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Rhan A
Ffurflen gais Rhan A – Amdanoch chi
Nodiadau canllaw Rhan A – Sut i gwblhau Rhan A o’n ffurflen gais
Rhan E
Ffurflen gais Rhan E2 – Ildio gosodiad
Nodiadau canllaw Rhan E2 – Sut i gwblhau Rhan E2 o’n ffurflen gais
RHAN F
Ffurflen gais Rhan F1 – Taliadau a datganiadau
Nodiadau canllaw Rhan F1 – Sut i gwblhau Rhan F1 o’n ffurflen gais
Cymorth gyda’ch cais
Cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau cyffredinol: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhif ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ