Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003) 

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i ddau gais gael eu gwneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Dŵr Cymru Cyfyngedig am drwyddedau i drosglwyddo dŵr o Gronfa Ddŵr Nant Clydach, Pontypridd, o fewn y terfyn a ffurfir gan linellau syth sy’n rhedeg rhwng y Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol canlynol: ST 02916 96654, ST 02867 96587, ST 02702 96710  ac ST 02661 96802 ar gyfer ei drosglwyddo i:

Nant Clydach yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol ST 02964 96564 yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol: 72 metr ciwbig yr awr, 1,728 metr ciwbig y dydd a 34,560 metr ciwbig y flwyddyn, drwy gydol y flwyddyn. Cyfeirnod y Cais PAN-028078

Gorlifan Cronfa Ddŵr Clydach yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol  ST 02917 96644 yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol: 360 metr ciwbig yr awr, 8,640 metr ciwbig y dydd, a 760,320 metr ciwbig y flwyddyn drwy gydol y flwyddyn. Cyfeirnod y Cais: PAN-028980

Bydd y dŵr yn cael ei dynnu ar gyfer ei drosglwyddo rhwng y ffynonellau cyflenwi y cyfeirir atynt isod heb ddefnydd rhyngol, dros gyfnod o 15 mis.

Gwneir cais hefyd am drwydded i wneud newidiadau i adeilad cronni dŵr sy’n bodoli eisoes yng Nghronfa Ddŵr Clydach yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol ST 02899 96608 yn y lleoliad uchod. Diben y newidiadau yw lleihau capasiti storio’r gronfa ddŵr. Capasiti’r gronfa ddŵr ar y lefel gorlifo fydd 5,200 metr ciwbig. Cyfeirnod y Cais PAN-028183.

Gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth gennym ni, gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnodau PAN-028078, PAN-028980 a PAN-028183 wrth

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth  Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 22/08/2025 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan https://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf