Croeso Cymru

Mae’r dudalen we hon yn rhan o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Newid hinsawdd yw’r newidiadau hirdymor mewn tymheredd a phatrymau tywydd. Gall newidiadau o’r fath fod yn naturiol, oherwydd newidiadau yng ngweithgarwch yr haul neu echdoriadau folcanig mawr. Ers yr 1800au, gweithgareddau dynol fu’r prif ffactor sy’n sbarduno newid hinsawdd, yn bennaf oherwydd allyriadau nwyon tŷ gwydr o losgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy.

Mae newid hinsawdd yn newid amodau cynefinoedd, dosbarthiad rhywogaethau ac argaeledd adnoddau, gan arwain at lai o wydnwch a dirywiad ecolegol. Mae ymdrechion rheoli a lliniaru yn hanfodol i fynd i’r afael â’r effeithiau cynyddol hyn ledled Cymru.

Negeseuon allweddol

  • Mae angen gweithredu pellach mewn ffordd gynaliadwy ar bob lefel o lywodraeth, busnes a chymdeithas sifil i frwydro yn effeithiol yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, cyflawni newid cyfiawn i ddyfodol carbon isel, a chyflawni cyllidebau carbon Cymru a sero net erbyn 2050.
  • Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob ecosystem yng Nghymru ac fe fydd yn parhau i wneud hynny, gyda gaeafau cynhesach a gwlypach, hafau poethach a sychach, a nifer uwch o ddigwyddiadau mwy eithafol yn cael eu rhagweld.
  • Mae angen brys am addasu a lliniaru hinsawdd cydgysylltiedig i gefnogi Cymru sy’n wydn o ran hinsawdd sy’n gwella bioamrywiaeth, yn lleihau’r perygl o lifogydd ac yn gwella iechyd y cyhoedd.
  • Mae newid hinsawdd yn rhyngweithio â phwysau eraill fel newid defnydd tir, llygredd a rhywogaethau estron goresgynnol, gan arwain at gynyddu’r bygythiadau i’n hecosystemau. Mae ymatebion integredig i bwysau lluosog yn cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer cyd-fuddion i natur, cymunedau ac iechyd.
  • Mae cyfleoedd mawr i annog gweithredu unigol a newid ymddygiad, ac i alluogi ecosystemau i chwarae rolau allweddol wrth leihau allyriadau ac adeiladu Cymru sy’n wydn o ran newid hinsawdd.

Crynodeb

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang wedi parhau i gynyddu ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, gan gynyddu’r risg i’r blaned o newid hinsawdd a achosir gan bobl. Cyrhaeddodd Cymru darged cyntaf y gyllideb garbon i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2020, ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd yr ail

gyllideb yn 2025, er y bydd hyn yn fwy o her. Mae Cyllideb Garbon 3 (2026–2030) yn ei gwneud yn ofynnol i allyriadau yng Nghymru gael eu lleihau 58% o’u cymharu â llinell sylfaen 1990. Mae angen gweithredu parhaus a chynyddol ar draws pob lefel o gymdeithas, yn fyd-eang ac yn genedlaethol, i gadw at y cyllidebau carbon hyn a’r llwybr i sero net erbyn 2050 mewn ffordd sy’n deg ac sy’n elwa ar fanteision y trawsnewid yng Nghymru.

Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob ecosystem yng Nghymru ac fe fydd yn parhau i wneud hynny, gyda gaeafau cynhesach a gwlypach, hafau poethach a sychach, a nifer uwch o ddigwyddiadau eithafol dwysach yn cael eu rhagweld. Y bygythiadau mwyaf sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd yn yr amgylchedd naturiol yw’r rhai sy’n effeithio ar gynefinoedd agored i niwed, sy’n cynnwys mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd, ac ymylon arfordirol.

Mae angen brys am weithredu ar yr hinsawdd, gan liniaru ac addasu, er mwyn creu Cymru sy’n wydn i effeithiau hinsawdd yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys mesurau addasu, gan gynnwys adlinio arfordirol a chreu ecosystemau amrywiol, yn ogystal â lleihau allyriadau megis trwy adfer mawndiroedd.

Mae effeithiau cyfunol rhwng pwysau lluosog ar adnoddau naturiol Cymru, fel newid hinsawdd, rhywogaethau estron goresgynnol a newid defnydd tir, yn cynyddu bygythiadau’r sbardunau newid hyn i bob ecosystem ac adnodd.

Mae mwy o angen am fwy o weithredu unigol a newid ymddygiad ac i ecosystemau’n chwarae rhan mewn gwydnwch hinsawdd er mwyn brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Mae angen gweithredu ledled Cymru, o’r aelwyd, i’r llywodraeth, i lefel yr ecosystem, er mwyn cyflwyno mesurau lliniaru (megis cefnogi a gweithredu systemau ynni gwyrdd mewn cartrefi, adfer mawndiroedd a chreu coetiroedd) ac addasu (trwy ddatblygu polisïau addasol a chynllunio rhagweithiol ar gyfer digwyddiadau fel tanau gwyllt a llifogydd).

Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020

Ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, mae allyriadau carbon Cymru wedi lleihau ychydig, er bod allyriadau carbon byd-eang cyffredinol yn parhau i gynyddu, gan gynyddu effeithiau newid hinsawdd ar Gymru hefyd. Mae tymereddau cyfartalog aer a dŵr yn parhau i gynyddu, a gwelwyd cynnydd mewn digwyddiadau eithafol dros y pum mlynedd diwethaf.

Cyhoeddwyd trydydd Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd Cymru yn 2021, gan fanylu ar 61 o risgiau a chyfleoedd i Gymru yn sgil newid hinsawdd. Mae hyn wedi llywio’r ail gynllun addasu cenedlaethol, Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd yn 2024.

Cyrhaeddodd Cymru darged cyntaf y gyllideb garbon i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2020, ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd yr ail gyllideb yn 2025, er y bydd hyn yn fwy o her.

Dilynwch y ddolen i’n hasesiad newid hinsawdd llawn yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

 

Ffynonellau tystiolaeth allweddol

Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:

Astudiaethau achos

Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd

Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn gynllun pum mlynedd ar gyfer adfer mawndiroedd yng Nghymru, 2020–2025. Mae camau adfer ar dros 1,650 hectar yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yn golygu bod y rhaglen wedi rhagori ar ei thargedau adfer cychwynnol o 600–800 hectar o dir cyhoeddus a phreifat bob blwyddyn.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd

 

Dalgylch Cyfle Conwy

Prosiect ar raddfa tirwedd i wella ansawdd yr amgylchedd a threftadaeth dalgylch uwch afon Conwy. Mae’r prosiect yn gweithio gyda chymunedau lleol er mwyn cyflawni amcanion y Ddeddf Llesiant, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Drwy’r prosiect hwn, rydym yn gwneud cymunedau’n fwy gwydn i newid hinsawdd drwy ddefnyddio atebion ar sail natur er mwyn adfer prosesau naturiol, gan alluogi natur i wella, a thrwy weithio gyda thirfeddianwyr a chymunedau rydym yn lleihau llygredd.

Prosiect dalgylch Uwch Conwy | Cymru | National Trust

 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Nod Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n dechrau yn 2026, yw cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae’n mynd i’r afael â’r amcan rheoli tir yn gynaliadwy yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 i gynnal a gwella gwydnwch ecosystemau. Bydd y cynllun yn cefnogi gwydnwch hinsawdd a dylai gefnogi atebion ar sail natur.

Cyflwyniad i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy | LLYW.CYMRU

Diweddarwyd ddiwethaf