Asesiadau SoNaRR 2025
Cyfoeth Naturiol Cymru
SoNaRR yw ein hasesiad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru. Mae'n sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr ac unedig a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a grwpiau eraill i lywio polisi, cynllunio ac i wneud penderfyniadau ehangach.
Yn SoNaRR 2025 rydym yn defnyddio pedwar nod cydgysylltiedig fel fframwaith i asesu cynnydd Cymru tuag at SMNR. Mae'r nodau hyn yn canolbwyntio ar stociau o adnoddau naturiol, cydnerthedd ecosystemau, lleoedd iach i bobl ac economi adfywiol.
Mae 8 asesiad ecosystem eang a 3 asesiad adnoddau naturiol allweddol (aer, dŵr a phridd). Mae'r rhain yn defnyddio tystiolaeth sy'n disgrifio: yr hyn sy'n sbarduno newid amgylcheddol a'r pwysau sy'n deillio o hynny ar yr ecosystem a'r adnodd naturiol ei hun; cyflwr pob adnodd naturiol ac ecosystem; a'r manteision y mae pob un yn eu darparu i ni. Gellir archwilio'r dystiolaeth sylfaenol hon ar ein porth tystiolaeth.
Rydym hefyd yn dwyn ynghyd dystiolaeth o'r asesiadau ecosystem ac adnoddau naturiol hyn, ynghyd â thystiolaeth genedlaethol arall, i ddisgrifio cynnydd yn erbyn y nodau hyn ar lefel Cymru gyfan.
Cliciwch ar y dolenni isod i ddarllen y negeseuon allweddol a'r crynodebau ar gyfer pob un o'n hasesiadau. Neu lawrlwythwch ein hadroddiad i ddarllen yr asesiadau yn llawn.