Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r dudalen we hon yn rhan o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mae newid defnydd tir yn cyfeirio at newid yn y defnydd o dir neu ddulliau rheoli tir gan bobl. Yng Nghymru, gall hyn gynnwys arferion rheoli sy’n achosi newidiadau yn y defnydd o dir a gorchudd tir. Mae enghreifftiau’n cynnwys dwysáu amaethyddiaeth, gan drosi tir o laswelltir lled-naturiol yn dir fferm caeedig; adeiladu aneddiadau dynol, gan drosi tir i newid yr ecosystem i un drefol; neu goedwigo, gan drosi tir i’w ddefnyddio ar gyfer coedwigaeth a newid y gorchudd tir i fod yn ecosystem coetir.

Mae newid defnydd y môr yn cyfeirio at newid yn y defnydd neu’r rheolaeth o’r môr gan bobl. Yng Nghymru, gall hyn gynnwys adeiladu seilwaith yn yr amgylchedd morol a all arwain at golli neu ddirywio cynefinoedd; adeiladu amddiffynfeydd arfordirol a allai arwain at wasgfa arfordirol; a gweithgareddau hamdden heb eu rheoli a all achosi aflonyddwch ac effeithiau ffisegol.

Negeseuon allweddol

  • Mae tir yn ased cyfyngedig a gwerthfawr sy’n sail ar gyfer darparu nwyddau a gwasanaethau ecosystemau sy’n hanfodol ar gyfer llesiant. Mae galw cynyddol ar y cyflenwad cyfyngedig o dir i ddarparu gwasanaethau lluosog, gan gynnwys bwyd, pren, ynni adnewyddadwy, tai, storio carbon, lliniaru effeithiau newid hinsawdd, adfer cynefinoedd, a gwydnwch i dywydd eithafol.
  • Mae gan Gymru ecosystem forol gyfoethog ac amrywiol a all ddarparu llawer o wasanaethau pwysig i bobl a’r economi, gan gynnwys bwyd, ynni, carbon glas, a hamdden. Os caiff ei reoli’n briodol, gall hyn gynhyrchu refeniw i fuddsoddi mewn gwydnwch ecosystemau lleol, marchnadoedd a chymunedau.  
  • Mae risg o newidiadau anghynaliadwy i ddefnydd tir a rheolaeth (dwyster cynyddol neu ddwyster rheoli llai) heb bolisïau priodol a chydlyniad ysgogwyr economaidd. Mae ffermwyr a rheolwyr tir yn agored i niwed yn sgil siociau economaidd byd-eang, pandemigau a digwyddiadau tywydd eithafol.
  • Mae ecosystemau’r tir, y môr a daearol yn chwarae rhan hanfodol wrth liniaru effeithiau newid hinsawdd a chefnogi natur, yn enwedig yn yr ucheldiroedd ac o amgylch yr arfordir.
  • Mae angen rheolaeth ofalus wrth ehangu ynni adnewyddadwy ar y môr i gyrraedd targedau sero net er mwyn bodloni gofynion yr argyfyngau hinsawdd a natur ill dau.
  • Dylai penderfyniadau ynghylch defnydd a rheoli tir yn y dyfodol ystyried addasrwydd a gallu defnydd tir, ochr yn ochr â stociau adnoddau a gwasanaethau i gyflawni er lles yr hinsawdd, natur a phobl.
  • Gall aliniad rhwng gwahanol fathau o ymyriadau fynd i’r afael â rhai o heriau’r argyfyngau hinsawdd a natur, targedau datgarboneiddio, a manteision llesiant.
  • Mae blaenoriaethau ar gyfer ymyriadau yn cynnwys diogelu lleoedd arbennig ar gyfer natur, gweithredu rhaglenni adfer mawndiroedd, cynyddu gorchudd coed a choetiroedd, mynd i’r afael â nifer o ffynonellau llygredd, integreiddio systemau ac arferion rheoli cynaliadwy, a dylanwadu ar newid ymddygiad trwy ymgysylltu pobl â’r tir a’r môr.

Crynodeb

Mae tir yn ased cyfyngedig a gwerthfawr ac mae’n sail ar gyfer darparu nwyddau a gwasanaethau ecosystemau y mae’r amgylchedd adeiledig a naturiol yn dibynnu arnynt ar gyfer llesiant. Digwyddodd y newidiadau mwyaf a welwyd yng Nghymru o fewn defnydd tir trefol, ac yna coetir, a thir cynhyrchiol wedi’i wella. Mae galw cynyddol am y cyflenwad cyfyngedig o dir i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau lluosog. Mae risg bod y galwadau cyfredol ar dir eisoes yn ormodol.

Mae’r galw am fwyd a ffibr yn cyd-fynd â chynnydd mewn uchelgeisiau polisi am fwy o ynni adnewyddadwy ar gyfer yr agenda ddatgarboneiddio, mwy o ddeunyddiau organig ar gyfer adfer tir, cyflenwi tai ar gyfer poblogaeth sy’n tyfu, storio ac atafaelu carbon, lliniaru effeithiau newid hinsawdd ac addasu iddynt, cynnal ac adfer cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth, a gwella gwydnwch i dywydd eithafol. Mae’n debygol y bydd y rhain i gyd yn dylanwadu ar newid defnydd a rheolaeth tir yng Nghymru yn y dyfodol. Mae risg o newidiadau anghynaliadwy i ddefnydd tir a rheolaeth (dwyster cynyddol neu ddwyster rheoli llai) heb bolisïau priodol a chydlyniad ysgogwyr economaidd. Mae ffermwyr a rheolwyr tir wedi bod yn agored i siociau economaidd byd-eang a achosir gan bandemigau, rhyfel a digwyddiadau tywydd eithafol.

Mae’r môr yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi bioamrywiaeth, rheoleiddio’r hinsawdd, a chynnal gweithgareddau dynol fel pysgodfeydd, hamdden a thrafnidiaeth. Fodd bynnag, mae’n wynebu pwysau cynyddol o ddatblygiadau adeiledig a defnydd dynol. Gall seilwaith a osodir yn y môr ddileu neu ddiraddio cynefinoedd yn uniongyrchol a newid prosesau ffisegol fel ceryntau a symudiad gwaddod, a’r effeithiau’n aml yn ymestyn y tu hwnt i’r safle uniongyrchol.

Mae datblygu arfordirol, gan gynnwys amddiffynfeydd a seilwaith trafnidiaeth, yn cyfrannu at wasgfa arfordirol, gan atal cynefinoedd rhag mudo i mewn i’r tir mewn ymateb i gynnydd yn lefel y môr. Yn ôl adroddiad tystiolaeth CNC ‘Deall graddfa debygol dirywiad yn nodweddion Ardaloedd Gwarchodedig Morol oherwydd gwasgfa arfordirol’, mae gan 29% o arfordir Cymru (719 km) ryw fath o adeiledd llinol neu adeiledd sy’n gyfochrog â’r lan (gallai hyn gynnwys amddiffynfa arfordirol, seilwaith rheilffyrdd neu seilwaith porthladd) a allai atal cynefinoedd rhag mudo tua’r tir mewn ymateb i gynnydd yn lefel y môr ac felly achosi gwasgfa arfordirol. Mae rhywogaethau morol yn cael eu heffeithio trwy wrthdrawiadau, aflonyddwch a cholli cynefinoedd hanfodol. Mae gweithgareddau fel echdynnu agregau a threillio yn tarfu ar gyllidebau gwaddodion, ac yn gallu niweidio cynefinoedd sensitif yn ffisegol a tharfu ar fywyd gwyllt. Mae’r pwysau hyn hefyd yn cyfrannu at lygredd a lledaeniad rhywogaethau goresgynnol, gan fygwth safleoedd gwarchodedig a chynefinoedd ‘carbon glas’ gwerthfawr fel morfa heli a morwellt. Mae rheoli a lliniaru effeithiol yn hanfodol i ddiogelu iechyd a gwydnwch yr amgylchedd morol. Mae llawer o bwysau ar yr amgylchedd morol yn ymwneud â mynediad a gweithgareddau hamdden heb eu rheoli. O bosibl, yr hyn sy’n effeithio fwyaf ar safleoedd yw pysgota morol at ddibenion hamdden, cychod hamdden, cloddio am abwyd a chasglu adnoddau byw, a mynediad ar droed, a dylid mynd i’r afael â nhw. Gall nifer o weithgareddau hamdden eraill a mynediad heb ei reoli hefyd amharu ar adar a mamaliaid morol, a bydd difrifoldeb yr effeithiau hyn yn dibynnu ar y lleoliad lle maent yn digwydd.

Mae gan ecosystemau’r tir, y môr, a morol a daearol rôl bwysig wrth liniaru effeithiau newid hinsawdd a chefnogi natur, ond dros yr hirdymor mae dalfa net allyriadau wedi bod yn lleihau. Rhaid i benderfyniadau ar y defnydd a rheolaeth o dir a’r môr yn y dyfodol roi mwy o ystyriaeth i addasrwydd a gallu gwahanol ddefnyddiau o dir a’r môr, ochr yn ochr â fframweithiau gwneud penderfyniadau ar newid defnydd tir a môr.

Negeseuon allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020

Ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, mae defnydd a rheolaeth tir yng Nghymru wedi mynd trwy ddatblygiadau polisi nodedig sydd wedi’u dylanwadu gan gyfuniad o ysgogwyr a phwysau. Er enghraifft, cyflwynwyd rheoli tir yn gynaliadwy fel fframwaith cyffredinol gan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Mae’r galw am fwyd a ffibr yn cyd-fynd â chynnydd mewn uchelgeisiau polisi am fwy o ynni adnewyddadwy, mwy o ddeunyddiau organig ar gyfer adfer tir, cyflenwi mwy o dai ar gyfer poblogaeth sy’n tyfu, a mwy o greu ac adfer cynefinoedd ar gyfer adfer natur a gwydnwch yn erbyn yr hinsawdd. Mae niwtraliaeth maethynnau ar gyfer gollyngiadau ffosfforws bellach yn ystyriaethau cynllunio a thrwyddedu allweddol mewn dalgylchoedd afonydd o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu uchelgeisiau byd-eang a chenedlaethol cynyddol ar gyfer lliniaru ac addasu i’r hinsawdd, adfer bioamrywiaeth a chynhyrchu bwyd cynaliadwy, gan danlinellu’r angen am benderfyniadau integredig o ran defnydd a rheolaeth tir.

Ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, mae tystiolaeth newydd wedi darparu gwell dealltwriaeth o’r pwysau allweddol yn yr amgylchedd morol, y gellir ei defnyddio i gefnogi datblygiad camau gweithredu sydd wedi’u targedi’n fwy i wella gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol. Mae effeithiau newid hinsawdd yn dod yn fwy amlwg ac yn cynyddu, gyda thystiolaeth newydd sy’n rhagweld effeithiau sylweddol oherwydd gwasgfa arfordirol. Mae cynigion i ehangu ynni adnewyddadwy ar y môr wedi cynyddu ers cyflwyno targedau sero net, ac mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd a heriau wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae cyhoeddi Strategaeth Llythrennedd Morol i Gymru yn 2025 yn nodi cyfle i gynyddu galluoedd ac ymgysylltiad, hyrwyddo ymddygiad ar gyfer defnydd cynaliadwy o adnoddau morol, a chynyddu mynediad at fuddion llesiant.

Darllenwch ein hasesiad llawn o newid defnydd tir a’r môr yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

 

Ffynonellau tystiolaeth allweddol  

Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad: 

Astudiaethau achos

Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd

Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn gynllun pum mlynedd ar gyfer adfer mawndiroedd yng Nghymru rhwng 2020 a 2025. Mae camau adfer ar dros 1,650 hectar yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yn golygu bod y rhaglen wedi rhagori ar ei thargedau adfer cychwynnol o rhwng 600 ac 800 hectar o dir cyhoeddus a phreifat bob blwyddyn. 

Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd

Mapio ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer cynllunio morol

Mae CNC wedi datblygu mapiau sy’n dangos ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer cynllunio morol strategol. Mae’r mapiau, sydd bellach ar gael ar wefan MapDataCymru, yn dwyn ynghyd y data sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer adar, mamaliaid morol, cynefinoedd gwely’r môr a physgod i gefnogi Llywodraeth Cymru ac eraill i archwilio cyfleoedd posibl yn y dyfodol ar gyfer defnydd a rheolaeth gynaliadwy o ardal forol Cymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Mapio ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer cynllunio morol

Prosiectau Twyni Byw a Thwyni ar Symud

Parhaodd prosiectau Twyni Byw a Thwyni ar Symud tan 2024. Mae’r prosiectau hyn yn parhau i ddarparu budd i ecosystemau’r ymylon arfordirol (twyni tywod yn benodol). Mae cynefin wedi’i adfer drwy greu amodau deinamig drwy ddulliau mecanyddol, cael gwared ar brysgwydd, mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol, gosod neu wella seilwaith pori, cwympo conwydd, a chreu cynefin olyniaethol cynnar.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Twyni Byw

Twyni ar Symud

Diweddarwyd ddiwethaf