SoNaRR 2025: Dŵr
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r dudalen we hon yn rhan o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025
Mae dŵr yn hanfodol i’r amgylchedd a phobl. Mae’n creu ac yn cynnal yr ecosystemau y mae pob bywyd yn dibynnu arnynt, tra hefyd yn darparu dŵr i ni ei yfed, rhedeg diwydiannau, tyfu bwyd a chynhyrchu pŵer.
Negeseuon allweddol
- Mae 40% o’n cyrff dŵr yn cyflawni statws dan o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae pwysau sylweddol yn cynnwys addasiadau ffisegol; llygredd o ddŵr gwastraff, trefi, dinasoedd a thrafnidiaeth, amaethyddiaeth a mwyngloddiau segur; a newidiadau i lif naturiol a lefelau dŵr.
- Mae’r gorffennol diwydiannol, gan gynnwys gollyngiadau o fwyngloddiau segur, wedi arwain at effaith ecolegol barhaus o gemegau a metelau parhaus. Mae bygythiadau sy’n dod i’r amlwg o blaladdwyr newydd, nwyddau defnyddwyr a chynhyrchion fferyllol hefyd yn peri risg i ecosystemau a phobl.
- Gallai parthau sy’n cwmpasu 70% o boblogaeth Cymru fod â diffyg dŵr erbyn 2050, oni bai fod mesurau rheoli gollyngiadau ac effeithlonrwydd dŵr yn cael eu gweithredu. Bydd cyflenwadau dŵr preifat yn dod yn gynyddol fregus yn ystod cyfnodau sych hir oherwydd newid hinsawdd.
- Mae’n debygol y bydd y perygl o lifogydd yn cynyddu oherwydd newid hinsawdd a thwf poblogaeth, gyda rhagolygon y bydd bron i 353,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd erbyn 2120. Mae angen i ni wella’r modd y caiff mesurau addasu, lliniaru a gwydnwch eu cyflawni, a datblygu rheolaeth dŵr ar draws y dalgylch gan ddefnyddio atebion ar sail natur.
- Disgwylir i lefelau’r môr godi yng Nghymru hyd at un metr erbyn 2100, ochr yn ochr â stormydd mwy aml a difrifol ac effaith gynyddol y tonnau. Bydd hyn yn cynyddu’r perygl o lifogydd arfordirol, erydu arfordirol a difrod i seilwaith arfordirol, yn ogystal â cholli tir ac ymwthiad dŵr hallt i dir amaethyddol.
Asesiad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
Mae’r asesiad dŵr hwn yn un o dri asesiad adnoddau naturiol ac wyth asesiad ecosystem sy’n llywio Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn gyffredinol. Mae’n dwyn ynghyd dystiolaeth gyfoes o setiau data cenedlaethol, megis y rhai a luniwyd ar gyfer Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a data o Asesiad Perygl Llifogydd Cymru, yn ogystal â dadansoddiadau data cyhoeddedig eraill ar gyfer Cymru. Mae’r asesiad hwn wedi’i gysylltu’n agos â’r asesiadau dŵr croyw a morol.
Mae’r asesiad hwn wedi’i strwythuro o amgylch pedwar nod cydgysylltiedig sy’n tywys cynnydd Cymru tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan helpu i gyfleu’r berthynas rhwng yr amgylchedd, llesiant a’r economi.
Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella
Mae dŵr yng Nghymru yn wynebu pwysau oherwydd newid hinsawdd, llygredd a newidiadau defnydd tir. Mae rhagolygon hinsawdd yn dangos llai o law yn yr haf a mwy o law yn y gaeaf, gan arwain at gyfnodau sych a sychder hirfaith a llifogydd amlach yn y drefn honno. Gall y newidiadau hyn effeithio ar argaeledd ac ansawdd dŵr, gyda thymheredd cynhesach yn cynyddu’r risg o ordyfiant algâu a gwenwyndra llygryddion. Dim ond 40% o gyrff dŵr a gyflawnodd statws da neu statws uchel yn 2024, gyda llygredd gwledig, ardaloedd trefol a dŵr gwastraff yn gyfranwyr mawr at ansawdd dŵr gwael. Mae cemegau, gan gynnwys sgil-gynhyrchion hylosgi, plaladdwyr, pryfleiddiaid, cemegau parhaus a microblastigion, yn bresennol yn nyfroedd Cymru. Mae metelau trwm yn parhau i effeithio ar gyrff dŵr, gyda gollyngiadau o fwyngloddiau metel etifeddol yn effeithio ar tua 700 km o afonydd. Mae maint dŵr daear yn sefydlog, ond mae’r ansawdd yn parhau i fod yn gymedrol.
Mae ymdrechion i wella ansawdd dŵr yn cynnwys cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff statudol, Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru, a Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd. Mae buddsoddiad drwy raglenni amgylchedd cenedlaethol cwmnïau dŵr yn cefnogi lleihau maethynnau, lliniaru defnydd o orlifoedd storm, a gwelliannau i’r broses o drin dŵr gwastraff. Mae’r rheoliadau presennol yn ymdrechu i atal pwysau o echdynnu dŵr trwyddedig. Nod mentrau effeithlonrwydd dŵr, fel cynllun labelu’r DU ar gyfer offer dŵr ac ymgyrchoedd ymddygiadol, yw lleihau’r galw.
Nod 2: Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig
Mae ecosystemau daearol sy’n ddibynnol ar ddŵr croyw, dŵr morol a dŵr daear yn ddibynnol ar ddigon o ddŵr ac yn agored i newidiadau ym maint ac ansawdd dŵr. Bydd codiad yn lefel y môr yn arwain at ardaloedd arfordirol yn dod yn fwyfwy agored i lifogydd a mwy o beryglon o ymwthiad dŵr halwynog i ddŵr daear, a bydd y rhain yn effeithio ar fodau dynol, seilwaith a chynefinoedd bywyd gwyllt. Mae llygredd o faethynnau, metelau, a halogion sy’n dod i’r amlwg fel microblastigion a genynnau sy’n ymwrthol i wrthficrobau yn diraddio iechyd ecosystemau ymhellach. Mae addasiadau ffisegol, fel cronfeydd dŵr hanfodol ar gyfer dŵr yfed, ynni dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd, yn tarfu ar gyfundrefnau llif naturiol a chysylltedd cynefinoedd.
I feithrin gwydnwch, mae camau gweithredu yn cynnwys adfer cysylltedd ecosystemau, amddiffyn ecosystemau sy’n ddibynnol ar ddŵr daear, a rheoli llygredd. Mae atebion ar sail natur fel plannu gwrychoedd a choed a mesurau gwanhau eraill yn cael eu hyrwyddo i liniaru llifogydd i lawr yr afon ac i ddarparu manteision i fioamrywiaeth a gefnogir gan Systemau Draenio Cynaliadwy. Mae rhaglenni fel Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru a chynlluniau dŵr gwastraff statudol yn cyfrannu at ddiogelu ecosystemau. Mae buddsoddi mewn adfer mawndiroedd yn cefnogi gwydnwch i newid hinsawdd trwy atafaelu carbon, tra bod lleihau gollyngiadau yn y cyflenwad dŵr yn lleihau colli dŵr ac felly pwysau ar stociau cyflenwad dŵr. Nod y mentrau hyn yw lleihau pwysau a gwella gallu ecosystemau i addasu i amodau sy’n newid.
Nod 3: Lleoedd iach i bobl, wedi’u diogelu rhag risg amgylcheddol
Mae dŵr yn chwarae rhan hanfodol ym maes iechyd y cyhoedd drwy ei gyflenwi ar gyfer yfed, cynnal safonau hylendid ac amaethyddiaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r tynnu dŵr ar gyfer cyflenwad cyhoeddus; yn ogystal â hyn, mae tua 56,000 o gyflenwadau preifat bach nad oes angen trwydded ar eu cyfer sy’n agored i gyfnodau hir o dywydd sych. Mae dŵr hefyd yn cefnogi hamdden a llesiant. Yn 2023, roedd 45% o’r oedolion a holwyd wedi ymweld â dyfroedd mewndirol, a nofio oedd y gweithgaredd mwyaf poblogaidd. Er bod 98% o ddyfroedd ymdrochi yn bodloni safonau rheoleiddiol, mae pryderon ynghylch ansawdd dŵr yn atal cyfranogiad.
Mae llifogydd yn peri risgiau sylweddol, gyda 275,000 o eiddo mewn perygl ar hyn o bryd, a rhagwelir y bydd y nifer yn codi i 353,000 erbyn 2120. Mae llifogydd yn effeithio ar ddiogelwch corfforol ac iechyd meddwl, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig sy’n llai abl i fforddio mesurau amddiffyn. Mae rhaglenni fel y Rhaglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol a chynlluniau lliniaru llifogydd yn integreiddio gwelliannau amgylcheddol er budd cymunedau. Nod ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a fframweithiau cynllunio statudol yw diogelu cyflenwadau dŵr a hyrwyddo mynediad teg a gwydnwch.
Nod 4: Cyfrannu at economi adfywiol, gan gyflawni lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy
Mae dŵr yn sail i weithgarwch economaidd ar draws sectorau, gydag 11.9 miliwn o megalitrau wedi’u trwyddedu i’w tynnu yn 2024. Mae amaethyddiaeth a datblygu trefol yn parhau i roi pwysau ar ansawdd dŵr. Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd tri pharth adnoddau dŵr yn wynebu diffygion cyflenwad erbyn 2050, a bydd y diffyg hwn yn cael sylw drwy leihau gollyngiadau a galw. Mae ymdrechion i leihau’r defnydd o ddŵr yn cynnwys ymgyrchoedd ymddygiadol a thargedau effeithlonrwydd.
Gall effeithiau economaidd llifogydd fod yn sylweddol, gan gynnwys difrod i gerbydau, adeiladau a seilwaith. Mae gweithgareddau lliniaru perygl llifogydd, gan gynnwys atebion ar sail natur, yn helpu i leihau’r colledion economaidd hyn. Mae atebion ar sail natur yn cynnig ffyrdd costeffeithiol o reoli dŵr yn gynaliadwy ar draws dalgylchoedd. Maent yn gwella ansawdd dŵr, ochr yn ochr â lleihau perygl llifogydd a chostau trin dŵr. Nod y camau gweithredu hyn yw alinio rheoli dŵr ag egwyddorion yr economi gylchol a’r nodau hinsawdd.
Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
Yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, nid oedd tystiolaeth yn ymwneud â dŵr i gyd mewn un lle. Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn dod â’r dystiolaeth ac asesiad dŵr at ei gilydd.
Er bod Cymru wedi profi nifer o stormydd, llifogydd dinistriol ac amodau sychder sydd wedi effeithio ar gymunedau ac ecosystemau Cymru, nid yw’r data wedi dangos newidiadau sylweddol yn y cyfnod hwn. Nod rhaglenni fel y rhai sy’n gysylltiedig â mwyngloddiau metel ac afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a Phrosiect Dalgylch Arddangos Teifi, yw gwella ansawdd dyfroedd Cymru.
Mae Llywodraeth y DU a’r gwledydd datganoledig wedi cytuno i weithredu labelu dŵr gorfodol ar bob offeryn sy’n defnyddio dŵr, a ddaw yn gyfraith yn 2026. Gwnaeth y Comisiwn Dŵr Annibynnol argymhellion mewn perthynas â’r cyfeiriad strategol ar gyfer deddfwriaeth, rheoleiddio a chynllunio dŵr, gan gynnwys cynlluniau i leihau’r galw drwy gynyddu mesuryddion dŵr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gynyddu argaeledd Rheoli Llifogydd yn Naturiol, gan gefnogi’r gweithgareddau ehangach a wneir gan Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd i leihau’r risg o lifogydd i gymunedau Cymru a gwella natur.
Darllenwch ein hasesiad dŵr llawn yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.
Tystiolaeth sylfaenol
Wrth ysgrifennu ein hasesiadau ac er mwyn nodi cyfleoedd gweithredu yn well, rydym wedi casglu tystiolaeth sy’n ein helpu i ddeall yr agweddau allweddol hyn:
- sbardunau newid a phwysau ar ddŵr yng Nghymru
- gwydnwch yr ecosystem ddŵr fel adnodd yng Nghymru
- y manteision, neu’r gwasanaethau, a gawn o ddŵr fel adnodd a sut mae newidiadau yng nghyflwr dŵr yn effeithio ar lesiant
Anghenion tystiolaeth
Mae anghenion tystiolaeth sy’n gysylltiedig â dŵr fel adnodd yng Nghymru yn tynnu sylw at yr angen brys i ddeall a rheoli argaeledd ac ansawdd dŵr a’r perygl o lifogydd yn wyneb newid hinsawdd, newid defnydd tir a galw cynyddol. Mae meysydd allweddol yn cynnwys asesu effaith tynnu dŵr sydd wedi’i eithrio a thynnu nad oedd yn cael ei reoleiddio o’r blaen ar adnoddau dŵr lleol. Mae angen dealltwriaeth o sut y gall newid hinsawdd effeithio ar dymheredd dŵr, llygredd microbaidd a chemegol, a gostyngiadau yn llif yr haf ar gyflenwadau dŵr preifat.
Mae angen monitro effeithiau dwysáu amaethyddol a datblygiadau adeiledig ar ansawdd a maint dŵr. Mae angen gwella effeithlonrwydd dŵr ar draws sectorau, trwy ganllawiau wedi’u diweddaru, newid ymddygiad, a thechnolegau fel casglu dŵr glaw. Mae angen tystiolaeth hefyd i olrhain datblygiad o fewn gorlifdiroedd ac i ddeall effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol ar dir amaethyddol a busnesau gwledig. Mae Rheoli Llifogydd yn Naturiol a Systemau Draenio Cynaliadwy yn cael eu harchwilio am eu potensial i liniaru perygl llifogydd wrth wella gwydnwch ecosystemau a chadw dŵr yn y dirwedd. Mae angen deall effaith hydrolegol yr ymyriadau hyn ar draws dalgylchoedd mwy i gefnogi a chynyddu’r ddarpariaeth.
Ffynonellau tystiolaeth allweddol
Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:
- Effeithlonrwydd dŵr yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
- Yr ecosystem forol yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 a’r ecosystem dŵr croyw yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
- StatsCymru: Eiddo sydd mewn perygl o lifogydd
- Adroddiadau dŵr CNC, gan gynnwys Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ac ansawdd dŵr ymdrochi
- Arsylwi Dyfroedd Cymru – Mapiau a data’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
- Asesiad CSEMP 2020 o ddata halogion ac effeithiau biolegol (1999–2019)
- Adroddiadau, tystiolaeth a data llifogydd CNC
- Hafren Dyfrdwy (2024), ‘Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr 2024’
- Dŵr Cymru (2024b), ‘Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Terfynol 2024’
Astudiaethau achos
Ardal Basn Afon Dyfrdwy (Cymru a Lloegr)
Mae poblogaethau eogiaid Cymru dan bwysau cynyddol ac mae eogiaid yn nodwedd bwysig o Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Defnyddiwyd technegau monitro ac olrhain dros yr wyth mlynedd diwethaf i ddeall symudiadau’r pysgod yn well drwy’r adeileddau hyn ac o’u hamgylch. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio i newid y ffordd rydym yn gweithio a’r ffordd mae’r asedau hyn yn cael eu rheoli. Mae Grŵp Llywio Dyfrdwy Uchaf, gydag aelodau o Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, Dŵr Cymru, Canŵ Cymru, a Pharc Cenedlaethol Eryri, i gyd wedi goruchwylio a chyfrannu at y gwaith ym mhob cam.
Ardal Basn Afonydd Gorllewin Cymru
Gwelliannau ansawdd dŵr i Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Cemlyn. Mae gan Forlyn Cemlyn broblem ansawdd dŵr a nodwyd oherwydd llygredd gwasgaredig. Mae macroalgâu manteisgar wedi cael eu gweld yn y morlyn gorllewinol llai, ond y mae problemau yn y ddau.
Nod y prosiect partneriaeth yw gwella ansawdd dŵr drwy atal mynediad gan dda byw i’r morlyn a nentydd neu byllau sy’n bwydo iddo. Mae hyn yn lleihau gallu maethynnau i gyrraedd y morlyn. Mae ffynonellau yfed amgen wedi’u darparu i’r anifeiliaid gan ddefnyddio pibellau a chafnau. Mae rhai ardaloedd wedi cael eu plannu gyda gwrychoedd, neu goed brodorol, neu fel perllannau.
Dalgylch Cyfle Conwy
Prosiect ar raddfa tirwedd i wella ansawdd yr amgylchedd a threftadaeth dalgylch uwch afon Conwy. Gweithio gyda chymunedau lleol er mwyn cyflawni amcanion y Ddeddf Llesiant, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Drwy’r prosiect hwn, rydym yn gwneud cymunedau’n fwy gwydn i newid hinsawdd gan ddefnyddio atebion ar sail natur er mwyn adfer prosesau naturiol, gan alluogi natur i wella, a thrwy weithio gyda thirfeddianwyr a chymunedau rydym yn lleihau llygredd.
Prosiect dalgylch Uwch Conwy | Cymru | Ymddiriedolaeth Genedlaethol