SoNaRR 2025: Trefol
Croeso Cymru
Mae’r dudalen we hon yn rhan o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025
Yr amgylchedd adeiledig yw’r ecosystem drefol – sy’n cynnwys adeiladau, ffyrdd, gerddi, parciau a mannau gwyrdd anffurfiol, safleoedd gwastraff, ac unrhyw adeiledd neu ofod arall a osodwyd ar gyfer gweithgareddau dynol.
Negeseuon allweddol
- Mae ein trefi a’n dinasoedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi â newid hinsawdd oherwydd risg uwch o straen gwres a llifogydd, ac rydym yn disgwyl i hyn waethygu.
- Mae dros 80% o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd adeiledig, sy’n darparu gwasanaethau ecosystemau hanfodol i bobl a’r economi.
- Mae llygredd yn creu pwysau mawr ar ein hecosystemau trefol ac iechyd pobl, gan gynnwys llygredd aer, dŵr, pridd, sŵn a golau.
- Mae angen mwy o goed stryd, gerddi glaw a seilwaith gwyrdd arall arnom i gadw’r lleoedd lle rydym yn byw yn addas i fyw ynddynt yn wyneb llygredd a newid hinsawdd.
- Er mwyn gweld a yw ein camau gweithredu yn gweithio, mae angen rhwydwaith monitro ym mhob ardal drefol i olrhain newidiadau mewn llygredd aer, llygredd golau, glawiad, tymheredd a bywyd gwyllt.
Asesu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol
Mae’r asesiad trefol hwn yn un o wyth asesiad ecosystem a thri asesiad adnoddau naturiol sy’n llywio Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn gyffredinol. Mae’n adeiladu ar ganfyddiadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, gan dynnu ynghyd dystiolaeth wedi’i diweddaru gan arbenigwyr pwnc, setiau data cenedlaethol, a phrosiectau cydweithredol. Mae’r asesiad hwn wedi’i gysylltu’n agos â’r asesiadau ar gyfer aer, dŵr a dŵr croyw.
Mae’r asesiad wedi’i strwythuro o amgylch pedwar nod cydgysylltiedig sy’n tywys cynnydd Cymru tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan helpu i gyfleu’r berthynas rhwng yr amgylchedd, llesiant a’r economi.
Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella
Mae ecosystemau trefol yng Nghymru yn wynebu pwysau gan rywogaethau estron goresgynnol, plâu, llygredd a newid hinsawdd. Gall rhywogaethau estron goresgynnol a gyflwynir at ddibenion addurniadol amharu ar fioamrywiaeth frodorol a swyddogaethau ecosystemau, tra bod plâu fel clefyd coed ynn ac ymdeithiwr y derw yn bygwth coed trefol. Mae tueddiadau llygredd aer yn gymysg, gyda gostyngiadau mewn SO₂ ac NO₂ ond lefelau osôn a PM₂.₅ yn codi mewn ardaloedd â phoblogaeth ddwys. Mae llygredd golau a sŵn hefyd yn niweidio bywyd gwyllt trefol ac iechyd pobl. Yn hanesyddol, mae llygredd dŵr a phridd wedi diraddio ecosystemau trefol, er bod gwelliannau mawr yn ansawdd dŵr ac adferiad pridd wedi digwydd yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae newid hinsawdd yn dwysáu’r pwysau ar yr amgylchedd trefol trwy fwy o lifogydd, straen gwres, a chodiad yn lefel y môr, gan effeithio’n arbennig ar barthau trefol ar hyd yr arfordir.
Mae cynnydd yn cynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy gorfodol ar gyfer datblygiadau newydd ers 2019, gan wella rheoli dŵr. Mae Deddf Aer Glân 2024 yng Nghymru yn gosod targedau ansawdd aer llymach ac yn mynd i’r afael â sŵn trefol. Nod y polisi terfyn cyflymder 20mya yw lleihau allyriadau traffig a sŵn. Mae camau gweithredu allweddol yn cynnwys rheoli rhywogaethau estron goresgynnol, monitro plâu, gwella ansawdd aer a dŵr, adfer tir halogedig, addasu mannau gwyrdd trefol ar gyfer effeithiau hinsawdd, monitro bywyd gwyllt trefol, diogelu coed mawr presennol, a rheoli mannau gwyrdd trefol ar gyfer peillwyr.
Nod 2: Mae ecosystemau’n gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig
Mae gwydnwch ecosystemau trefol yn cael ei herio gan amrywiaeth gyfyngedig, seilwaith gwyrdd isel, a chysylltedd anhysbys. Mae amrywiaeth rhywogaethau coed yn isel, gan wneud coedwigoedd trefol yn agored i niwed gan blâu a straen hinsawdd. Mae maint y mannau gwyrdd yn gyfyngedig, gyda dim ond 3,721 hectar o fannau gwyrdd swyddogaethol a 1,432 hectar o fannau glas. Mae brigdwf coed ar gyfartaledd yn 17–18% ac mae coed trefol yn wynebu heneiddio a dirywiad. Mae diffyg dealltwriaeth am gysylltedd yn parhau, er bod gwrychoedd yn cynnig rhywfaint o gysylltedd cynefin. Mae llifogydd, llygredd a straen gwres yn diraddio cyflwr ecosystemau trefol ymhellach.
Mae mentrau diweddar yn cynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy statudol ar ddatblygiadau newydd, y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a threfniadau torri gwair sy’n gyfeillgar i beillwyr. Mae’r ymdrechion hyn yn gwella gwydnwch drwy greu cynefinoedd newydd a gwella gwasanaethau ecosystemau. Mae’r camau gweithredu a argymhellir yn cynnwys cynyddu amrywiaeth coed a brigdwf, amddiffyn ac ehangu mannau gwyrdd a glas, a gwella cysylltedd ecolegol trwy goridorau gwyrdd a cherrig sarn, gan gynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy.
Nod 3: Lleoedd iach ar gyfer pobl, wedi’u diogelu rhag peryglon amgylcheddol
Mae ecosystemau trefol yn cefnogi iechyd trwy reoleiddio hinsawdd, hidlo aer, lleihau sŵn a lliniaru llifogydd. Mae coedwig drefol Caerdydd yn storio bron i 8,000 tunnell o garbon yn flynyddol, tra bod llystyfiant yn oeri dinasoedd ac yn atal llygryddion. Mae coed trefol a glaswelltiroedd yn cael gwared ar dros 1.6 miliwn cilogram o lygryddion aer bob blwyddyn. Mae llystyfiant yn sefydlogi priddoedd, gan leihau risgiau tirlithriadau, ac mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn cadw dŵr stormydd, gan leihau peryglon llifogydd. Mae lliniaru sŵn o fudd i 12,000 o gartrefi, gan wella llesiant meddyliol.
Mae gwasanaethau diwylliannol yn cynnwys hamdden, gyda dros 72 miliwn o ymweliadau â mannau gwyrdd trefol yn 2021/22, er bod y defnydd wedi gostwng ar ôl 2019. Mae mynediad yn amrywio, gyda 69% o gartrefi trefol o fewn 300 metr i fan gwyrdd swyddogaethol. Mae amddifadedd yn cydberthyn ag anghydraddoldeb amgylcheddol – mae gan ardaloedd llai cyfoethog orchudd coed is a mynediad gwaeth. Mae’r camau gweithredu’n cynnwys ehangu seilwaith gwyrdd, gwella mynediad, a defnyddio natur i feithrin cydlyniant cymunedol ac iechyd.
Nod 4: Cyfrannu at economi adfywiol, gan gyflawni lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy
Mae ecosystemau trefol yn cyfrannu at gynaliadwyedd economaidd trwy reoleiddio’r hinsawdd, rheoli llifogydd a chynhyrchu bwyd. Mae seilwaith gwyrdd yn lleihau costau busnes drwy liniaru straen gwres ac anghenion aerdymheru, y mae wedi’i brisio i fod â gwerth o £1.45 miliwn y flwyddyn yng Nghaerdydd. Mae Systemau Draenio Cynaliadwy a llystyfiant yn rheoli llif dŵr ac yn puro llygryddion. Cynhyrchwyd bwyd gwerth £10.3 miliwn yn 2021 gan randiroedd a gerddi, gan gefnogi diogelwch bwyd lleol a lleihau ôl troed carbon.
Fodd bynnag, mae llai o reoli tir a datblygiad trefol yn bygwth maint ac ansawdd mannau gwyrdd. Mae meintiau gerddi yn crebachu, ac mae pwysau dwysáu yn parhau. Mae atebion ar sail natur yn cynnig dewisiadau amgen costeffeithiol i seilwaith llwyd, gyda gwerth ychwanegol a photensial i greu swyddi. Mae cynnydd yn cynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy gorfodol ar ddatblygiadau newydd, canllawiau rhandiroedd wedi’u diweddaru, a’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Dylai camau gweithredu yn y dyfodol integreiddio atebion ar sail natur i gynllunio, hyrwyddo amaethyddiaeth drefol, a gwella seilwaith gwyrdd i gefnogi economi adfywiol.
Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
Mae ardaloedd trefol wedi dioddef mwy o stormydd a llifogydd, ond hefyd mwy o donnau gwres a sychder wrth i’n hinsawdd ddod yn fwy amrywiol.
Mae buddsoddiadau wedi’u gwneud i wneud cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni, ac i adeiladu cartrefi sy’n effeithlon o ran ynni, ond mae’r newidiadau wedi bod yn fach o’u cymharu â’n holl stoc dai.
Ers mis Ionawr 2019, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd yng Nghymru osod Systemau Draenio Cynaliadwy. Fodd bynnag, mae’r rhain yn cwmpasu cyfran fach iawn o ardaloedd trefol.
Galluogwyd safleoedd o gyfanswm o 648 hectar i fabwysiadu dulliau torri gwair sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth trwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Fodd bynnag, mae hyn tua 0.5% o’n hardal drefol (126,745 hectar).
Mae cyllid llywodraeth leol ar gyfer rheoli parciau a mannau gwyrdd wedi gostwng yn sylweddol.
Mae llygredd golau wedi gwaethygu. Mae’r darlun yn gymysg ar gyfer mathau eraill o lygredd.
Mae rhai rhywogaethau o adar a gloÿnnod byw wedi dod yn fwy cyffredin tra bod eraill wedi dirywio. Nid ydym yn casglu digon o ddata i ddeall newidiadau yn y rhan fwyaf o fioamrywiaeth drefol.
Darllenwch ein hasesiad llawn o ecosystemau trefol yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.
Tystiolaeth sylfaenol
Wrth ysgrifennu ein hasesiadau ac er mwyn nodi cyfleoedd gweithredu yn well, rydym wedi casglu tystiolaeth sy’n ein helpu i ddeall yr agweddau allweddol hyn:
- ysgogwyr newid a phwysau ar yr ecosystem drefol yng Nghymru
- gwydnwch ecosystemau trefol yng Nghymru
- y manteision, neu’r gwasanaethau, a gawn o ecosystemau trefol a sut mae newidiadau yng nghyflwr yr ecosystem drefol yn effeithio ar lesiant
Anghenion tystiolaeth
Mae angen tystiolaeth systematig ar yr ecosystem drefol ar ansawdd aer, llygredd golau, bioamrywiaeth, a lygryddion mewn dŵr ffo wyneb. Mae’r data sydd gennym o ychydig o leoliadau mewn rhai ardaloedd trefol felly mae angen samplu systematig ar draws pob ardal drefol i ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i arwain rheolaeth y cynefin lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw. Mae gennym ni fapio systematig o fannau gwyrdd trefol, ond mae angen tystiolaeth arnom ynglŷn â pha rai sy’n hygyrch, a pha rai sy’n cael eu rheoli i safon briodol. Mae angen data gwell a mwy cyfredol arnom ar faint canopïau coed trefol. Mae angen tystiolaeth wedi’i modelu o effeithiau tonnau gwres yn y dyfodol o hyd ar y rhan fwyaf o ardaloedd trefol. Mae angen i ni gasglu data ar effaith yr adnoddau newidiol gan awdurdodau lleol a ddyrennir i reoli seilwaith gwyrdd, ac mae angen i ni ddatblygu strategaethau monitro ar gyfer llygryddion newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg fel “cemegion am byth” (PFASau a PFOSau).
Darllenwch am anghenion tystiolaeth SoNaRR 2025.
Ffynonellau tystiolaeth allweddol
Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:
- SoNaRR 2020: Trefol
- Arolwg Cenedlaethol Cymru
- Eiddo sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru
- Gorchudd coed yn nhrefi a dinasoedd Cymru
- Cyfrifon cyfalaf naturiol y DU
- Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
- Cynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru 2023–2028
- Achosion o dipio anghyfreithlon a gofnodwyd yn ôl math o dir
- Cyflwr draenogod Prydain
- Arolwg Adar sy’n Bridio
- Poblogaeth gloÿnnod byw
Astudiaethau achos
Mapio tonnau gwres y dyfodol yn nhrefi a dinasoedd Cymru
Mae’r fideo yn disgrifio astudiaeth sy’n defnyddio efelychiad cyfrifiadurol i asesu maint y straen gwres a brofir gan gerddwyr mewn tair dinas yng Nghymru yn ystod tonnau gwres, gyda’r bwriad o nodi goblygiadau ar gyfer cynllunio trefol ac arfer dylunio. Gweithiodd yr Athro Phil Jones o Brifysgol Caerdydd a’r Athro Jianxiang Huang o Brifysgol Hong Kong gyda chydweithwyr i gynnal yr astudiaeth.
Mapio tonnau gwres y dyfodol yn nhrefi a dinasoedd Cymru
Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Nid yw Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn rhagnodol o ran yr hyn y mae’n ei gefnogi. Mae’n hyrwyddo dull o’r gwaelod i fyny lle mae gweithgareddau’n cael eu harwain gan y gymuned. Ei nod yw creu ardaloedd sy’n cefnogi natur o fewn cymunedau, yn enwedig ardaloedd trefol ac amdrefol; annog gwerthfawrogiad mwy o natur a’i gwerth; creu mwy o fannau gwyrdd, gan gyflawni ein hymrwymiad i wneud hynny; a chefnogi amcanion bioamrywiaeth ehangach.