Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 – rhagair a chrynodeb

Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhagair

Rhagair gan Ceri Davies 

Nid dim ond rhan o'n treftadaeth yw amgylchedd naturiol Cymru - dyma sylfaen ein dyfodol hefyd. Ein dewisiadau heddiw fydd yn pennu a fydd cenedlaethau'r dyfodol yn etifeddu ecosystemau sy’n ffynnu a chymunedau cadarn neu, yn hytrach, yn wynebu argyfyngau sy’n fwyfwy difrifol - argyfyngau y gallem fod wedi'u hatal. 

Mae ein trydydd Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR 2025) yn darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i weithredu. Mae'n dangos lle mae cynnydd wedi'i wneud a lle mae heriau brys yn parhau i fodoli. Nid adroddiad yn unig yw hwn - mae'n alwad i ymgorffori tystiolaeth amgylcheddol wrth wraidd pob penderfyniad, pob polisi, a phob buddsoddiad y mae Cymru'n ei wneud, wrth i ni baratoi ar gyfer etholiad nesaf y Senedd. 

Caiff SoNaRR 2025 ei gyhoeddi wyth mis ar ôl i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol nodi blaenoriaethau a meysydd ffocws sy'n sail i genhadaeth. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn dangos yr hyn sydd wedi’i gyflawni dros y pum mlynedd ddiwethaf ac yn darparu tystiolaeth glir i ddangos beth mae hynny'n ei olygu i gyflwr adnoddau naturiol Cymru a chydnerthedd a chadernid ein hecosystemau. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, mae llawer i'w wneud o hyd. Nid yw Cymru eto’n cyflawni’r pedwar nod hirdymor o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy - ac mae’n hanfodol bod penderfyniadau polisi yn y dyfodol yn seiliedig ar y dystiolaeth hon. 

Nid bygythiadau neu beryglon pell i ffwrdd yw newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd - maent yma nawr, yn siapio bywydau a bywoliaethau. Mae SoNaRR 2025 yn nodi beth mae hyn yn ei olygu i Gymru - ar draws ecosystemau, economïau a chymunedau - ac yn tynnu sylw at gyfleoedd i weithredu. Fod bynnag, nid rhywbeth dewisol yw’r cyfleoedd hyn. Mae manteisio arnynt yn hanfodol os ydym am gyflawni uchelgeisiau Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a chreu Cymru sy’n deg, yn gynaliadwy ac yn llewyrchus. 

Rydym ar drobwynt i natur a hinsawdd. Mae ein hamgylchedd dan straen digynsail, ac nid bygythiadau neu beryglon y dyfodol yw effeithiau newid hinsawdd mwyach - maen nhw yma nawr. Mae tywydd eithafol yn 2025 wedi dangos pa mor fregus yw ein hecosystemau, tra bod llygredd yn parhau i erydu iechyd ein dyfroedd a'n tirweddau. 

Eto i gyd, mae cyfleoedd i newid. Er enghraifft, mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a gaiff ei lansio ym mis Ionawr 2026, yn newid sylweddol yn y ffordd y caiff tir amaethyddol ei reoli - gan gefnogi cynhyrchu bwyd ochr yn ochr â gofalu am yr amgylchedd, mynd i'r afael â newid hinsawdd, a meithrin cydnerthedd a chadernid. Dyma'r math o ddull beiddgar, integredig, sydd ei angen arnom ar draws pob sector. 

Gall targedau a pholisïau sy'n seiliedig ar y dystiolaeth hon greu momentwm, ysgogi atebolrwydd, a sicrhau bod pob sector yn chwarae ei ran. Hebddyn nhw, rydym mewn perygl o ohirio gweithredu gan beryglu ein dyfodol. Bydd y penderfyniadau a wneir yn y misoedd nesaf yn atseinio am ddegawdau. Y penderfyniadau hyn fydd yn siapio’r Gymru a fydd yn gartref i’n plant a'n hwyrion. 

Dyma, felly, foment foment fawr, moment hollbwysig. Mae gennym y wybodaeth, y dulliau, a'r fframwaith deddfwriaethol i arwain y ffordd. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw'r ewyllys i weithredu, ac i wneud hynny'n feiddgar ac yn bendant. Mae SoNaRR 2025 yma i lywio'r camau gweithredu hynny. Gadewch i ni ddefnyddio’r adroddiad i greu Cymru lle mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, lle mae cymunedau'n ffynnu, a lle mae cenedlaethau'r dyfodol yn edrych yn ôl gan wybod ein bod wedi gwneud y dewisiadau cywir. 

Cyflwyniad

Dyma drydydd Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cymru, sy’n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. 

Yn 2016 cyhoeddwyd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol cyntaf wrth i ni ddatblygu ein dealltwriaeth o oblygiadau Deddf yr Amgylchedd. Cyhoeddwyd yr ail Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn ystod pandemig Covid-19 yn 2020 a dyma’r tro cyntaf i ni ganolbwyntio ein hasesiad gan ddefnyddio pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Ers hynny, mae’r dystiolaeth wedi tyfu i ddisgrifio maint argyfyngau natur a hinsawdd. Mae effeithiau’r argyfyngau hyn wedi’u gweld ledled y byd ac yma yng Nghymru gyda stormydd a sychder 2025 yn fwyaf diweddar.

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yw’r diweddaraf mewn cyfres o asesiadau ar lefel Cymru, y DU ac asesiadau byd-eang o statws a thueddiadau adnoddau naturiol. Mae’n edrych ar y risgiau y mae’r tueddiadau hynny yn eu hachosi i’n hecosystemau ac i lesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd hirdymor Cymru, mewn termau a ddiffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Darperir crynodeb o’n canfyddiadau a’n negeseuon allweddol isod.

Crynodeb

Mae Cymru mewn cyfnod hollbwysig wrth i'n heconomi barhau i gael effaith andwyol ar ein hadnoddau naturiol - sef sail ein hiechyd, ein diogelwch a'n ffyniant. Mae Cymru yn un o'r gwledydd sydd wedi'u disbyddu fwyaf yn y byd o ran natur - gyda bron i 1 o bob 5 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar bob ecosystem yng Nghymru, gan leihau gwydnwch ecosystemau a dwysáu risgiau o bwysau eraill. Mae llygredd o ddŵr gwastraff, trefi a dinasoedd, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a mwyngloddiau segur yn peryglu ecosystemau dŵr croyw. Dim ond 40% o gyrff dŵr sy’n cyflawni statws cyffredinol da. Mae’r pwysau hyn yn rhaeadru o afonydd, llynnoedd a dyfroedd daear i amgylcheddau aberol a morol, gan fygwth bioamrywiaeth a chydnerthedd arfordirol.

Mae angen gweithredu ar yr hinsawdd, a hynny ar frys - gan liniaru ac addasu, i greu Cymru sy'n gallu gwrthsefyll effeithiau’r hinsawdd yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys camau addasu, megis ailalinio arfordirol a chreu ecosystemau amrywiol, a chamau gweithredu, megis lleihau allyriadau drwy adfer mawndiroedd. 

Mae llygredd aer wedi gwella, ond mae allyriadau nitrogen, fel amonia, o amaethyddiaeth yn parhau i fod yn uchel, gan effeithio ar gynefinoedd sensitif ac iechyd y cyhoedd. Mae halogiad etifeddol o ddiwydiant a thirlenwi yn ychwanegu at gymhlethdod pellach, gyda llygryddion sy’n dod i’r amlwg fel microplastigion a chemegau parhaus yn peri risgiau hirdymor i ddiogelwch pridd a dŵr.

Mae penderfyniadau defnydd tir yn dwysáu’r pwysau hyn. Rhaid i’r sector adeiladu ehangu i ddiwallu anghenion ein poblogaeth sy’n tyfu; ond, mae datblygiad yn aml yn disodli tir fferm, yn dadleoli ymylon arfordirol, a mannau gwyrdd trefol, yn aml mewn ardaloedd sy’n agored i lifogydd. Yn y cyfamser, mae lefelau defnyddio adnoddau Cymru ymhell y tu hwnt i’r terfynau cynaliadwy. Pe bai’n cael ei efelychu’n fyd-eang, byddai ein defnydd o adnoddau yn gofyn am fwy na dwy Ddaear, gan ddangos faint o adnoddau naturiol rydyn ni’n eu mewnforio, gyda phob un yn achosi effeithiau ar wledydd eraill, gan rwystro cyrhaeddiad y nod llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae tir amaethyddol yn dominyddu’r dirwedd, ond mae’r graddau y mae’n cael ei reoli i gynnal natur er mwyn darparu llif cyson o fuddion ecosystem yn parhau i fod yn isel er gwaethaf ei ddarpariaeth o gyflenwad bwyd hanfodol. O ystyried bod y sector amaethyddol yn defnyddio dros 90% o arwynebedd tir Cymru, mae rhai o’n cyfleoedd gorau i wella rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy yn yr ecosystemau a’r gweithgareddau ar draws ffermydd Cymru. Bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) Llywodraeth Cymru, sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2026, yn cefnogi cyflawni canlyniadau rheoli tir cynaliadwy sy'n gysylltiedig â darparu bwyd ochr yn ochr â gofalu am yr amgylchedd, mynd i'r afael â newid hinsawdd ac addasu iddo, a meithrin cydnerthedd a chadernid. Bydd yn nodi newid sylweddol yn y dull o reoli tir amaethyddol.

Darperir crynodeb isod o’r gwerthusiad o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn erbyn y pedwar nod cenedlaethol a’r cyfleoedd i weithredu.

Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella

Nid yw Cymru eto’n cyflawni Nod 1 o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy: diogelu a gwella stociau o adnoddau naturiol. Er gwaethaf y fframweithiau deddfwriaethol a pholisi cryf sydd ar waith, gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, mae’r dystiolaeth a gyflwynir yn yr asesiad hwn yn dangos bod ein hadnoddau naturiol yn parhau i gael eu diraddio gan newid hinsawdd, llygredd, defnydd tir anghynaliadwy, rhywogaethau estron goresgynnol, plâu a chlefydau. Mae dirywiad parhaus mewn rhywogaethau, ac ansawdd gwael mewn dŵr, pridd ac aer, i gyd yn cyfeirio at angen brys am newid.

Fodd bynnag, mae’r asesiad hwn hefyd yn tynnu sylw at feysydd o gynnydd. Mae adfer mawndiroedd, deddfwriaeth ansawdd aer, a Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru yn enghreifftiau o ymyriadau wedi’u targedu sy’n dechrau mynd i’r afael â heriau amgylcheddol hirhoedlog. Mae’r ymdrechion hyn yn dangos bod newid yn bosibl, ond rhaid eu datblygu ar raddfa fwy a’u hymgorffori o fewn systemau ehangach o lywodraethu, cynhyrchu a defnyddio adnoddau. Ni ellir diogelu a gwella adnoddau naturiol drwy gamau gweithredu ynysig; mae angen strategaethau cydlynol, traws-sector sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol dirywiad.

Bydd cyflawni Nod 1 yn gofyn am gamau beiddgar, ymrwymiad hirdymor, a gweledigaeth gyffredin ar gyfer Cymru lle mae adnoddau naturiol nid yn unig yn cael eu gwarchod, ond yn cael eu hadfywio – gan gefnogi ecosystemau gwydn, cymunedau ffyniannus, a gwlad sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Nod 2: Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newidiadau disgwyliedig a rhai nas rhagwelwyd

Mae cydnerthedd ecosystemau yn gonglfaen i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, daeth yr asesiad o dan Nod 2 i’r casgliad nad yw ecosystemau yng Nghymru yn wydn. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn atgyfnerthu’r casgliad hwn: mae bioamrywiaeth yn dirywio, mae systemau naturiol dan straen, ac mae’r tirweddau sy’n cynnal iechyd, ffyniant a diwylliant yn ei chael hi’n anodd addasu i bwysau newydd a phwysau sydd eisoes yn bodoli.

Mae asesiad Nod 2 yn adeiladu ar sail dystiolaeth gadarn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, gan egluro’r pwysau ar ecosystemau Cymru ac amlygu lle mae angen gweithredu fwyaf. Er bod gwydnwch ecosystemau yn gyffredinol isel, mae’r asesiadau’n datgelu rhywfaint o amrywiad gofodol. Mae ardaloedd ucheldir yn tueddu i gadw cyfran uwch o gynefinoedd lled-naturiol, ac yn sgorio’n fwy ffafriol ar gyfer priodoleddau gwydnwch. Mae ardaloedd iseldir, sydd wedi’u haddasu’n fwy dwys, yn dangos gwydnwch is yn gyson.

Rhaid cyflawni adferiad ar draws y dirwedd gyfan a’n moroedd ehangach. Mae safleoedd gwarchodedig yn gwasanaethu fel angorau hanfodol, lleoedd lle mae natur yn parhau i ddal ei thir, ond daw gwydnwch gwirioneddol o sicrhau bod y safleoedd hyn yn fwy o faint, yn well, ac yn fwy cysylltiedig. Mae cynnal a gwella natur ym mhobman, gan gynnwys ar dir fferm cynhyrchiol ac o fewn ein cymunedau, yn hanfodol. Mae’r dull hwn ar raddfa’r dirwedd, a gyflwynir drwy bartneriaethau, yn allweddol i adeiladu rhwydweithiau ecolegol cadarn, gan alluogi natur a phobl i ffynnu gyda’i gilydd.

Nod 3: Mae gan Gymru leoedd iach ar gyfer pobl sydd wedi’u diogelu rhag peryglon amgylcheddol

Mae adnoddau naturiol Cymru yn darparu gwerth iechyd, lles a diwylliannol aruthrol. Mae ein tirweddau a’n hecosystemau’n gweithredu fel system cynnal bywyd genedlaethol, gan ein hamddiffyn rhag peryglon, gwella ein hiechyd a gweithredu fel meini prawf ein hunaniaeth. Ac eto mae amlygiad i beryglon a mynediad at natur yn parhau i gael eu rhannu’n anghyfartal a’u dosbarthu’n anwastad ac mae Cymru yn dal i wynebu heriau sylweddol o ran cyflawni Nod 3 a chreu lleoedd iach i bobl, wedi’u hamddiffyn rhag risgiau amgylcheddol.

Mae canlyniadau iechyd gwael sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd yn parhau, gyda chlefydau cronig sy’n gwaethygu oherwydd llygredd aer, diffyg gweithgarwch corfforol a mynediad cyfyngedig at natur. Mae argyfyngau hinsawdd a natur yn effeithio ar iechyd pobl, lle mae llifogydd, colli bioamrywiaeth ac ecosystemau wedi’u diraddio yn tanseilio gwydnwch a llesiant ein cenedl. Mae anghydraddoldebau parhaus yn arwain at gymunedau difreintiedig ac ymylol yn dod i fwy o gysylltiad â pheryglon, yn profi iechyd corfforol a meddyliol gwaeth ac yn cael llai o gyfleoedd i elwa o fannau gwyrdd a glas.

Ers asesiad Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, mae Cymru wedi cymryd camau pwysig i gryfhau amddiffyniadau a gwella ei rheolaeth o adnoddau naturiol er mwyn cefnogi mannau iach. Mae’r rhain yn cynnwys cyfreithiau i fynd i’r afael â llygredd aer a sŵn a hyrwyddo atebion sy’n seiliedig ar natur i ffermwyr, buddsoddi mewn prosiectau lleol sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd, yn ogystal ag ymrwymiad i’r targed bioamrywiaeth byd-eang ‘30 erbyn 30’.

Er mwyn cyflawni Nod 3, mae’r asesiad hwn yn dangos bod angen inni flaenoriaethu atebion sy’n seiliedig ar natur a mynediad teg at natur. Er mwyn diogelu iechyd rhaid inni leihau peryglon a gludir gan aer, dŵr a phridd, a lliniaru effeithiau newid hinsawdd, gan flaenoriaethu cymunedau lle mae risg ac amddifadedd ill dau yn bresennol. Er mwyn gwella iechyd rhaid inni hyrwyddo mynediad dyddiol at ofod gwyrdd a glas, prif ffrydio presgripsiynau cymdeithasol gwyrdd a galluogi teithio llesol. Er mwyn sicrhau’r buddion diwylliannol mwyaf posibl o fyd natur a chynyddu ecwiti, mae angen i ni gydlunio, dehongli ac ariannu prosiectau natur fel rhan o ‘greu lleoedd’ fel bod pob cymuned yn teimlo’n gartrefol ac yn cael ei chynrychioli. Mae’r asesiad hwn yn dangos yn glir nad dyletswydd ddiwylliannol yn unig yw diogelu a gwella cyfalaf naturiol, ond ei fod yn feddygaeth ataliol, yswiriant hinsawdd a synnwyr cyffredin economaidd wedi’u cyfuno.

Nod 4: Economi adfywiol gyda lefelau cynhyrchu a defnyddio adnoddau cynaliadwy

Mae ein llwybr datblygu economaidd wedi codi safonau byw yng Nghymru ac ar draws y byd. Fodd bynnag, yn y broses o gyrraedd lle’r ydym, rydym wedi diraddio ein hadnoddau naturiol i’r pwynt lle mae’r gofynion a wnawn ar natur ymhell y tu hwnt i’w gallu i’w bodloni (Trysorlys EM, 2021). Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran datgarboneiddio economi Cymru. Serch hynny, mae Cymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol o ran cyflawni Nod 4: “Economi adfywiol gyda lefelau cynhyrchu a defnyddio adnoddau cynaliadwy”.

Mae’r pontio i economi adfywiol yn hanfodol os ydym am fyw o fewn y ffiniau ecolegol sy’n diffinio terfynau’r economi llesiant. Fel y pwysleisiwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mae angen cynllunio polisïau economaidd, cymhellion a buddsoddiadau yn benodol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur, ochr yn ochr ag anghydraddoldeb a chadw cyfoeth o fewn cymunedau. Gyda’r buddsoddiad cywir a datblygu’r sgiliau cywir, mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy hefyd yn darparu cyfleoedd i greu swyddi gweddus a meithrin cyfoeth cymunedol, yn ogystal â ffocws i bob rhan o’r economi gydweithio i ailadeiladu stociau natur yng Nghymru er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Cyfleoedd i weithredu

Mae asesiadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn cynnwys enghreifftiau o ble mae cynnydd wedi’i wneud ers 2020. Maent hefyd yn nodi camau gweithredu a all helpu Cymru i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a phontio’r bwlch rhwng lle mae Cymru heddiw a lle mae angen i ni fod i gyrraedd y nodau llesiant. Mae’r cyfleoedd i weithredu yn glir a rhaid eu dilyn ar sawl graddfa:

  • Graddfa leol: grymuso pobl a chymunedau i fabwysiadu ffyrdd o fyw cynaliadwy ac iach, gwella seilwaith gwyrdd, a chymryd rhan mewn adfer ecosystemau.
  • Graddfa ranbarthol: dulliau sy’n seiliedig ar leoedd megis atebion dalgylchoedd gan gynnwys rheoli llifogydd yn naturiol, clustogau torlannol, ac ehangu coetiroedd i fynd i’r afael â risgiau amgylcheddol cydgysylltiedig.
  • Graddfa genedlaethol: alinio fframweithiau gwleidyddol a pholisi â’r argyfwng hinsawdd a natur, buddsoddi mewn sgiliau, seilwaith ac arloesedd er mwyn cefnogi economi adfywiol.

Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn cydnabod yr ansicrwydd ynghylch pa gamau gweithredu fydd yn cael yr effaith fwyaf. Fodd bynnag, nid yr her yw a ddylid gweithredu, ond sut i weithredu’n feiddgar ac ar y cyd yng nghanol cymhlethdod ac amgylchedd sy’n newid. Rhaid i arweinwyr a llunwyr polisi Cymru wrthsefyll atebion tymor byr, ond nawr yw’r amser ar gyfer gweithredu pendant. Mae strategaethau integredig, wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn ac wedi’u cynllunio ar y cyd â chymunedau, yn hanfodol i gydbwyso buddiannau sy’n cystadlu â’i gilydd a sicrhau buddion hirdymor i’r hinsawdd, natur a chymdeithas.

Diweddarwyd ddiwethaf