Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r dudalen we hon yn rhan o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mae’r ecosystem forol yn cynnwys yr ardaloedd rhynglanwol ac islanwol y glannau. Yr ardal rynglanwol yw’r ardal rhwng y marc penllanw a’r marc distyll sy’n cael ei boddi â dŵr y môr yn ystod rhai camau o gylchred y llanw. Yr ardal islanwol yw’r ardal sydd wedi’i throchi’n barhaol yn nŵr y môr.

Negeseuon allweddol

  • Mae gan Gymru ecosystem forol gyfoethog ac amrywiol a all ddarparu llawer o wasanaethau pwysig i bobl a’r economi, gan gynnwys bwyd, ynni, carbon glas a hamdden. Os caiff hon ei rheoli’n briodol, gall gynhyrchu refeniw i fuddsoddi mewn gwydnwch ecosystemau lleol, marchnadoedd a chymunedau.
  • Mae tua hanner y rhywogaethau a’r cynefinoedd a aseswyd yn Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru mewn cyflwr anffafriol. Mae yna nifer o achosion; un o’r prif achosion yw llygredd dŵr. Credir bod cyflwr cynefinoedd y tu allan i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yr un mor gymysg.
  • Mae newid hinsawdd yn arwain at bwysau cynyddol sy’n effeithio ar ecosystemau morol Cymru, gan gynnwys codiad yn lefel y môr a thymheredd uwch. Mae angen rheoli ehangu ynni adnewyddadwy ar y môr i gyrraedd targedau sero net yn ofalus er mwyn bodloni gofynion yr argyfyngau hinsawdd a natur.
  • Mae angen rheolaeth forol effeithiol i leihau pwysau, camau i adfer cynefinoedd, a rheolaeth ar y tir i fynd i’r afael â nifer o ffynonellau llygredd, er mwyn gwella gwydnwch ecosystemau morol.
  • Mae mynd i’r afael â llawer o’r pwysau hysbys yn gofyn am ddull strategol ac amlochrog – er enghraifft, drwy gynllunio morol, adeiladu’r sylfaen dystiolaeth, a sbarduno newid ymddygiad drwy ymgysylltu pobl â’r môr.

Asesiad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Mae’r asesiad morol hwn yn un o wyth asesiad ecosystem a thri asesiad adnoddau naturiol sy’n llywio Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn gyffredinol. Mae’n adeiladu ar ganfyddiadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, gan ddwyn ynghyd dystiolaeth wedi’i diweddaru gan arbenigwyr pwnc, setiau data cenedlaethol, a phrosiectau cydweithredol fel Partneriaeth Effeithiau Newid Hinsawdd ar y Môr. Mae’r asesiad hwn wedi’i gysylltu’n agos ag asesiad ecosystem ymylon arfordirol a’r asesiad adnoddau dŵr. Mae’r asesiad wedi’i strwythuro o amgylch pedwar nod cydgysylltiedig sy’n tywys cynnydd Cymru tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan helpu i gyfleu’r berthynas rhwng yr amgylchedd, llesiant a’r economi.

Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella

Mae moroedd Cymru yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o adnoddau naturiol. Mae poblogaethau a chynefinoedd yn dangos tueddiadau cymysg, ac mae’r pwysau allweddol sy’n effeithio ar eu cyflwr a’u maint yn cynnwys newid hinsawdd, clefydau, llygredd dŵr, rhywogaethau goresgynnol a gweithgareddau morol. Mae newid hinsawdd yn fygythiad cynyddol gyda thymheredd y môr yn codi, lefel y môr yn codi’n gyflym, a mwy o asideiddio’r cefnfor. Mae newidiadau a achosir gan yr hinsawdd yng nghyflwr a dosbarthiad rhywogaethau, a maint a chyflwr cynefinoedd arfordirol, eisoes yn amlwg.

Mae llygredd dŵr yn parhau i fod yn broblem barhaus. Mae lefelau gormodol o faethynnau mewn aberoedd (o darddleoedd penodol a ffynonellau gwasgaredig, e.e. o amaethyddiaeth) yn effeithio ar y cyflwr, ac mae halogion fel mercwri a biffenylau polyclorinedig yn dal i fod yn bresennol ar lefelau niweidiol mewn rhai ardaloedd. Mae sbwriel morol, yn enwedig plastigion, yn parhau i fod yn gyffredin er gwaethaf rhai gwelliannau tymor byr. Er bod hyder isel yn y data sydd ar gael ar gyfer tueddiadau mwy diweddar rhywogaethau estron goresgynnol morol, maent yn parhau i effeithio ar fioamrywiaeth a diwydiannau morol. Mae sŵn tanddwr anthropogenig yn gyffredin ac yn debygol o gynyddu gyda mwy o ddatblygiadau morol. Mae ffliw adar pathogenig iawn wedi arwain at ostyngiadau sydyn ym mhoblogaethau adar môr o bwys rhyngwladol ers 2021.

Mae mecanweithiau ariannu yn cael eu datblygu i gefnogi cyflawni camau gweithredu i ddiogelu a gwella rhywogaethau a chynefinoedd (e.e. Cronfa Forol Cymru), ac mae pwyslais cynyddol ar ddatblygu a chyfleu tystiolaeth i helpu i dargedu ymdrechion i gefnogi canlyniadau cadarnhaol. Wrth symud ymlaen, mae angen i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chynllunio strategol fod yn glyfar o ran yr hinsawdd, gan ystyried newidiadau a ragwelir ac addasu dulliau i ymdopi â goblygiadau hinsawdd sy’n newid.

Nod 2: Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig

Asesir gwydnwch ecosystemau morol ar sail amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd. Mae darlun cymysg o ran amrywiaeth ym moroedd Cymru. Mae dirywiad wedi’i nodi mewn rhai ardaloedd penodol, megis y cynefinoedd rhynglanwol yn y Ddau Gleddau a’r gwelyau o farchfisglod yn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau, er bod amrywiaeth llawer o gynefinoedd yn parhau’n sefydlog. Mae maint cynefinoedd morol hefyd yn dangos darlun cymysg o ran tueddiadau hirdymor a thymor byr. Ar gyfer cynefinoedd rhynglanwol, y duedd hirdymor yw gostyngiad o ran maint, ond mae’r duedd tymor byr yn fwy amrywiol. Mae’r darlun ar gyfer cynefinoedd islanwol hefyd yn gymysg er bod gostyngiadau yng nghwmpas gwelyau maerl. Dros yr hirdymor, mae cyflwr cynefinoedd wedi bod yn dirywio yn y parth rhynglanwol, sy’n gysylltiedig â phwysau sy’n cynnwys gorbori, llygredd dŵr, datblygiadau arfordirol a gweithgareddau fel palu am abwyd. Mae cyflwr cynefinoedd islanwol yn dangos tueddiadau cymysg. Mae cysylltedd ar draws cynefinoedd morol yn gyffredinol uchel ac yn sefydlog.

Mae camau gweithredu i wella gwydnwch ecosystemau morol yn ennill momentwm; mae hyn yn cynnwys adfer cynefinoedd a rhywogaethau drwy gael gwared ar bwysau a’u hadfer yn weithredol. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i lenwi bylchau tystiolaeth er mwyn deall y ffactorau sy’n effeithio ar wydnwch, ac i nodi pa ardaloedd sydd fwyaf addas ar gyfer gwaith adfer er mwyn targedu camau gweithredu a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Nod 3: Lleoedd iach i bobl, wedi’u diogelu rhag risg amgylcheddol

Mae ecosystemau morol yn cynnal iechyd pobl drwy reoleiddio’r hinsawdd, amddiffyn arfordiroedd a phuro dŵr. Yn hollbwysig, mae cynefinoedd morol Cymru yn storio dros 113 miliwn tunnell o garbon, sy’n gymharol â choedwigoedd Cymru, ac yn atafaelu miloedd o dunelli bob blwyddyn. Mae morwellt a lludwymon yn helpu i leihau erydu arfordirol a pherygl llifogydd. Mae ansawdd dŵr ymdrochi yn uchel, gyda 94% o safleoedd dynodedig wedi cael sgôr Rhagorol neu Dda yn 2025.

Mae ecosystemau morol yn chwarae rhan bwysig mewn llesiant trwy hamdden. Dangosodd adroddiad yn 2021/22 fod pobl yng Nghymru wedi gwneud tua 20 miliwn o ymweliadau â’r amgylchedd morol, ac mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn cydnabod yr effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol. Mae ecosystemau morol hefyd yn cefnogi gwasanaethau diwylliannol, gan gynnwys addysg, ymchwil a gwerth ysbrydol. Mae mynediad yn parhau i fod yn anghyfartal, gyda chymunedau mewndirol ac incwm is yn wynebu rhwystrau, er bod cysylltiad cymunedau lleol â’u hardaloedd arfordirol yn parhau i fod yn gryf. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyhoeddi Fframwaith ar gyfer Llythrennedd Morol (a gyhoeddwyd yn 2025), gydag amrywiaeth o gamau gweithredu wedi’u cynnig i gryfhau cysylltiadau pobl â’r amgylchedd morol.

Nod 4: Cyfrannu at economi adfywiol, gan gyflawni lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy

Mae’r sector ynni adnewyddadwy alltraeth yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig i’r economi; roedd buddsoddiad mewn ynni gwynt alltraeth yng Nghymru yn £103 miliwn yn 2023, a disgwylir i brosiectau yn y dyfodol greu miloedd o swyddi. Mae twristiaeth a hamdden yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi, gyda bron i 20 miliwn o ymweliadau morol yn flynyddol. Gall twristiaeth gynaliadwy helpu i adfywio ecosystemau a chymunedau os caiff ei rheoli’n dda. Mae’r amgylchedd morol hefyd yn cyfrannu at economi Cymru drwy alluogi masnach fyd-eang a darparu bwyd môr, tywod ar gyfer adeiladu ac amddiffyniad arfordirol.

Mae’n debygol y bydd pwysau’n cynyddu o seilwaith ynni adnewyddadwy a gweithgareddau hamdden, ond mae tystiolaeth, canllawiau ac offer mapio yn cael eu datblygu i gefnogi cynllunio morol cynaliadwy. Mae cynlluniau rheoli pysgodfeydd a systemau monitro yn cael eu gweithredu i helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Nod cynllunio strategol yw cydbwyso datblygu â diogelu’r amgylchedd, gan fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yn ogystal â chefnogi’r economi.

 

Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020

Ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, mae tystiolaeth newydd wedi rhoi mwy o hyder yn yr asesiad o gyflwr cynefinoedd morol a gwell dealltwriaeth o’r pwysau allweddol sy’n cynnwys llygredd dŵr. Mae cyflwr cynefinoedd rhynglanwol morol a maint cynefinoedd islanwol wedi dirywio. Mae poblogaethau adar môr wedi dioddef gostyngiadau sydyn oherwydd ffliw adar pathogenig iawn.

Mae effeithiau newid hinsawdd yn dod yn fwy amlwg ac yn cynyddu ar ecosystemau morol ac arfordirol, ac mae tystiolaeth newydd yn rhagweld effeithiau sylweddol oherwydd gwasgfa arfordirol. Mae’r ehangu arfaethedig ar gyfer ynni adnewyddadwy alltraeth wedi cyflymu ers cyflwyno targedau sero net ac mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd a heriau wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae’r sylfaen dystiolaeth gryfach yn cefnogi datblygu camau gweithredu mwy targedig i wella gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol. Mae’r agendâu adfer hyn yn cael mwy o sylw angenrheidiol, ac mae nodi a datblygu mecanweithiau ariannu cynaliadwy i gefnogi’r ddarpariaeth yn flaenoriaeth. Mae cyhoeddi Fframwaith Llythrennedd Morol i Gymru yn 2025 yn cynrychioli cyfle i gynyddu capasiti ac ymgysylltiad, hyrwyddo ymddygiad ar gyfer defnydd cynaliadwy o adnoddau morol, a chynyddu mynediad at fuddion llesiant.

Darllenwch ein hasesiad llawn o’r ecosystem forol yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

 

Tystiolaeth sylfaenol

Wrth ysgrifennu ein hasesiadau ac er mwyn nodi cyfleoedd gweithredu yn well, rydym wedi casglu tystiolaeth sy’n ein helpu i ddeall yr agweddau allweddol hyn:

  • sbardunau newid a phwysau ar yr ecosystem forol yng Nghymru
  • gwydnwch ecosystemau morol yng Nghymru
  • y manteision, neu’r gwasanaethau, a gawn o ecosystemau morol a sut mae newidiadau yng nghyflwr ecosystemau morol yn effeithio ar lesiant

Cewch fynediad i’r dystiolaeth fanwl drwy ein porth tystiolaeth ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

Gweld fersiwn sgrin lawn.

Anghenion tystiolaeth

Un o’n hanghenion tystiolaeth allweddol yn yr ecosystem forol yw cael gwell dealltwriaeth o faint a chyflwr ein cynefinoedd a’n rhywogaethau a’r amodau a phrosesau ffisegol sylfaenol sy’n eu cynnal. Mae’r bylchau hyn yn rhwystro’r gallu i werthuso cyflwr ecosystemau, bioamrywiaeth ac effeithiolrwydd Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Mae anghenion tystiolaeth eraill ar gyfer yr ecosystem forol yng Nghymru yn canolbwyntio’n helaeth ar ddeall pwysau ac effeithiau gweithgareddau dynol. Mae bylchau allweddol yn cynnwys maint, dosbarthiad ac effeithiau pysgota masnachol a hamdden, gan gynnwys sgil-ddalfeydd mamaliaid morol, effeithiau ar gynefinoedd bregus, a chynaliadwyedd pysgodfeydd. Mae hefyd angen asesu canlyniadau mewnbynnau maethynnau a rhywogaethau estron goresgynnol.

Mae angen rhagor o dystiolaeth i ddeall swyddogaethau a gwasanaethau ecolegol, megis atafaelu carbon, gwaddod a phrosesau ffisegol eraill. Bydd mynd i’r afael â’r bylchau hyn yn cefnogi asesiadau mwy cadarn o gyflwr amgylcheddau morol ac yn llywio strategaethau rheoli cynaliadwy yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.

Darllenwch am anghenion tystiolaeth SoNaRR 2025.

Ffynonellau tystiolaeth allweddol

Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:

Astudiaethau achos

Prosiect Morwellt

Mae Prosiect Morwellt wedi ymuno â nifer o bartneriaid eraill i greu prosiect Morwellt: Achub Cefnfor. Eu prosiect presennol yng Ngogledd Cymru yw’r prosiect adfer morwellt gweithredol mwyaf yn y DU ar hyn o bryd ac mae’n arloesi methodolegau adfer morwellt.

Morwellt: Achub Cefnfor Gogledd Cymru – Prosiect Morwellt

 

Amcangyfrif potensial dalfeydd carbon

Carbon glas yw’r carbon sy’n cael ei storio a’i atafaelu gan gynefinoedd morol. Mae amcangyfrif potensial carbon glas dyfroedd Cymru yn caniatáu gwell dealltwriaeth o sut mae ecosystemau morol Cymru yn cyfrannu at wrthbwyso rhyddhau carbon trwy weithgareddau dynol. Mae’r astudiaeth hon wedi amcangyfrif potensial dalfeydd carbon amgylchedd morol Cymru.

Amcangyfrif Potensial Dalfeydd Carbon Amgylchedd Morol Cymru (PDF)

 

Prosiect Polderau, Glanfa Fawr Rhymni

Mae’r prosiect hwn yn ceisio adfer morfa heli ar hyd Glanfa Fawr Rhymni trwy adfer ac ymestyn y polderau gwaddodi. Mae polderau yn cynnwys gosod ffensys mewn patrwm petryalog, i leihau symudiad dŵr, a fydd yn caniatáu i forfa heli ffurfio dros amser.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Bydd adfer cynefin morfa heli yn helpu i wella ecosystem arfordirol a lleihau perygl llifogydd

Diweddarwyd ddiwethaf