SoNaRR 2025: Rhywogaethau estron goresgynnol, plâu a chlefydau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r dudalen we hon yn rhan o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025
Mae rhywogaethau estron goresgynnol, plâu a chlefydau yn organebau a all achosi niwed i iechyd a llesiant pobl, rhywogaethau nad ydynt yn ddynol ac ecosystemau. Gall y rhain fod yn organebau brodorol neu anfrodorol.
Rhywogaethau estron goresgynnol yw unrhyw anifail neu blanhigyn estron a all ledaenu ac yna achosi niwed i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd, a’r ffordd rydym yn byw.
Pla yw unrhyw organeb a all achosi niwed i organebau eraill neu seilwaith a adeiladwyd gan bobl, gan arwain at effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant pobl, iechyd ecosystemau, neu weithgarwch economaidd. Yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, mae plâu fel arfer yn cyfeirio at blâu pryfed, er bod cwningod wedi’u cynnwys yma (mae gwiwerod llwyd yn cyfrif fel rhywogaethau estron goresgynnol).
Clefydau, yn y cyd-destun hwn, yw afiechydon unrhyw organeb a achosir gan haint gan ficro-organebau.
Negeseuon allweddol
- Dros amser, mae rhywogaethau estron goresgynnol wedi bod yn ymsefydlu ar gyfraddau sy’n cynyddu’n barhaus ym Mhrydain Fawr: y prif ysgogwyr ar lefel fyd-eang yw mudo nwyddau a phobl, a newid hinsawdd.
- Mae rhywogaethau estron goresgynnol wedi’u nodi fel un o’r pum prif ffactor sy’n effeithio ar fioamrywiaeth ledled y byd ac maent yn effeithio ar holl ecosystemau gwahanol Cymru: daearol, dŵr croyw a morol.
- Amcangyfrifir bod rhywogaethau estron goresgynnol yn costio £343 miliwn y flwyddyn i economi Cymru (gan gynnwys ffyngau). Y sectorau coedwigaeth ac amaethyddiaeth sy’n cael eu heffeithio arnynt fwyaf.
- Mae plâu a chlefydau yn peri bygythiad sylweddol mewn sawl ecosystem ledled Cymru, gan effeithio ar wydnwch ecosystemau a sectorau pwysig yn economaidd megis coedwigaeth ac amaethyddiaeth.
- Mae mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol, plâu a chlefydau yn gofyn am gydweithio rhwng rhanddeiliaid i wella bioddiogelwch, targedu llwybrau cyflwyno, monitro’r cyflwyniad a’r lledaeniad, sicrhau ymyrraeth gynnar, a chynllunio, blaenoriaethu a gweithredu camau strategol yn effeithiol. Bydd hefyd yn bwysig gweithredu deddfwriaeth a gyrwyr polisi rhywogaethau estron goresgynnol a chynnwys ystyriaeth o rywogaethau estron goresgynnol mewn cynlluniau rheoli tir.
Crynodeb o rywogaethau estron goresgynnol
Mae gan rywogaethau estron goresgynnol effaith sylweddol ar yr amgylchedd, yr economi a llesiant y cyhoedd yng Nghymru. Mae’r rhywogaethau hyn yn cael eu cydnabod fel un o’r prif fygythiadau i fioamrywiaeth fyd-eang, gydag effaith economaidd amcangyfrifedig o £343 miliwn y flwyddyn (gan gynnwys ffyngau) yng Nghymru yn unig. Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae cyfradd sefydlu rhywogaethau estron goresgynnol newydd ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu’n sydyn, gan adlewyrchu tuedd fyd-eang sy’n cael ei gyrru gan ffactorau megis newid hinsawdd a symudiad cynyddol nwyddau a phobl.
Mewn ymateb i’r bygythiad cynyddol o rywogaethau estron goresgynnol, mae amryw o fesurau deddfwriaethol a pholisi wedi’u rhoi ar waith yng Nghymru ers 2020 sy’n blaenoriaethu atal ac ymyrraeth gynnar. Mae mentrau allweddol yn cynnwys ymwreiddio Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol 2019, sy’n cyfyngu ar weithgareddau a allai gyflwyno neu ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol, a gweithredu ac adnewyddu Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr (2023–2030), gan gynnwys datblygu Cynlluniau Gweithredu Llwybrau Prydain Fawr. Yn ogystal, mae sefydlu Arolygiaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr wedi canolbwyntio ymdrechion ar y sectorau sydd fwyaf mewn perygl o gyflwyno’r rhywogaethau goresgynnol hyn i Brydain Fawr.
Mae fframwaith strategol ar gyfer mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer effeithiolrwydd hirdymor. Dylai’r fframwaith hwn ehangu ei aelodaeth a gwella cydweithio ymhlith rhanddeiliaid i greu strategaeth gydlynola fydd yn cynyddu cyfathrebu a chefnogi’r gwaith o sefydlu prosiectau strategol sy’n targedu rhywogaethau neu ardaloedd daearyddol penodol. Mae hefyd yn hanfodol parhau i weithredu cynlluniau bioddiogelwch morol sydd wedi’u datblygu ar y cyd i fynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol mewn amgylcheddau morol.
Mae’r sector amaethyddol yng Nghymru yn wynebu baich ariannol sylweddol o ganlyniad i rywogaethau estron goresgynnol, a amcangyfrifir yn £124 miliwn y flwyddyn, tra bod y sector coedwigaeth yn dioddef colledion o tua £167 miliwn y flwyddyn. Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn bygwth cynhyrchiant, yn niweidio cnydau a phren, ac yn cyfrannu at ddirywiad iechyd pridd ac erydiad pridd. Mae mentrau rheoli tir yn y dyfodol yn gyfle i hyrwyddo ymdrechion cydlynol yn erbyn rhywogaethau estron goresgynnol, gan sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cymryd unrhyw le ac ar unrhyw adeg.
Dylid rhoi pwyslais arbennig ar atal cyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol morol a dŵr croyw, gan eu bod yn anodd eu dileu ar ôl iddynt sefydlu. Bydd hyrwyddo mesurau bioddiogelwch, mesurau ymyrraeth gynnar, cynllunio a chydweithio yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â rhywogaethau newydd a chyfyngu ar ledaeniad rhywogaethau presennol.
Bydd gwelliannau mewn llif data, adrodd a gwyliadwriaeth yn cyfrannu at bolisi a sbardunau deddfwriaethol ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol, gan gynnwys Targed 6 o’r Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang.
Agwedd hanfodol arall ar reoli rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru yw mynd i’r afael â bylchau tystiolaeth presennol sy’n gysylltiedig â’u dosbarthiad, eu monitro, eu heffaith a’u rheolaeth. Mae llenwi’r bylchau hyn yn hanfodol er mwyn llywio mentrau polisi effeithiol, gan gynnwys yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. Bydd gwell gwybodaeth a data ynghylch rhywogaethau estron goresgynnol yn galluogi llunwyr polisi a rhanddeiliaid i wneud penderfyniadau gwybodus a dyrannu adnoddau’n effeithiol, gan wella’r ymateb i her rhywogaethau goresgynnol yng Nghymru yn y pen draw.
Bydd lleihau effaith rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru yn mynd i’r afael â phroblemau adnoddau dŵr ac ansawdd dŵr lleol, yn cefnogi adferiad byd natur, ac yn gwella gwydnwch ecosystemau i ymateb i newid hinsawdd.
Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
Yng Nghymru, mae gweithredu polisi a deddfwriaeth wedi symud ymlaen drwy ymwreiddio’r Rheoliadau a’r Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol, datblygu mecanweithiau gorfodi, a chyfraniadau strategol at Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol y DU wedi’i hadnewyddu (2023–2030).
Mae prosiectau a chanllawiau wedi’u targedu sy’n cefnogi ymdrechion atal, rheoli ac adfer ar draws ecosystemau daearol, dŵr croyw a morol hefyd wedi’u cyflwyno.
Mae newidiadau allweddol hefyd wedi cynnwys y gydnabyddiaeth gynyddol o reoli rhywogaethau estron goresgynnol fel lles cyhoeddus o fewn cynlluniau rheoli tir yn y dyfodol, a chryfhau hyrwyddo bioddiogelwch ar draws sectorau ac ecosystemau a sefydlu fframwaith rhywogaethau estron goresgynnol cydweithredol trwy brosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru.
Mae’r datblygiadau hyn yn adlewyrchu cyd-destun polisi sy’n aeddfedu sy’n blaenoriaethu dulliau strategol, cydweithredol ac ataliol o reoli rhywogaethau estron goresgynnol fwyfwy.
Anghenion tystiolaeth
Yn fyd-eang ac yn genedlaethol, mae data tueddiadau newydd yn cadarnhau bod cyflwyniadau rhywogaethau estron goresgynnol yn parhau i gael eu gyrru gan symudiad cynyddol pobl a nwyddau, a newid hinsawdd. Fodd bynnag, mae data tueddiadau cynhwysfawr i ddisgrifio effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol ar draws ecosystemau Cymru yn parhau i fod yn gyfyngedig, gan dynnu sylw at fwlch tystiolaeth parhaus.
Crynodeb o blâu a chlefydau
Mae plâu a chlefydau yn peri bygythiad sylweddol mewn sawl ecosystem ledled Cymru, gan effeithio ar wydnwch ecosystemau a sectorau pwysig yn economaidd megis coedwigaeth ac amaethyddiaeth.
Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae plâu a chlefydau wedi cael effaith negyddol sylweddol ar iechyd coed yng nghoetiroedd Cymru, a choed tir ffermio a threfol. Mae plâu a chlefydau yn achosi dirywiad o ran iechyd coed, sy’n ffactor allweddol sy’n pennu twf, cyfansoddiad a chynhyrchiant coetiroedd. Y clefydau mwyaf arwyddocaol sy’n effeithio ar goetiroedd Cymru yw Phytophthora ramorum, sy’n effeithio’n bennaf ar rywogaethau llarwydd, a chlefyd coed ynn mewn coetiroedd llydanddail, gyda phwysigrwydd ymdeithiwr y derw hefyd yn cynyddu.
O fewn yr ecosystem forol, mae’r ffliw adar pathogenig iawn yn fygythiad newydd a mawr i boblogaethau adar môr o bwys rhyngwladol yn y DU. Mewn tir ffermio wedi’i amgáu, mae da byw mewn perygl o glefydau a gludir gan fectorau megis y tafod glas, y rhagwelir y bydd ganddo dymhorau trosglwyddo estynedig yn y dyfodol oherwydd newid hinsawdd. Disgwylir i nifer a dosbarthiad plâu a chlefydau gynyddu yn y dyfodol oherwydd newid hinsawdd a masnach fyd-eang.
Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Phytophthora ramorum a chlefyd coed ynn wedi parhau i achosi dirywiad o ran iechyd coed, ond yn fwy arwyddocaol mae rhywogaethau eraill wedi dod i’r amlwg neu wedi ennill mwy o afael ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, gan gynnwys Phytophthora pluvialis ac ymdeithiwr y derw.
Canfuwyd yr achosion cyntaf o firws y tafod glas yn ne-ddwyrain Lloegr ym mis Tachwedd 2023. Mae’r firws wedi’i ganfod ym Mhowys a Sir Fynwy ers hynny.
Achosodd ffliw adar pathogenig iawn farwolaethau torfol adar môr yn y DU a Chymru am y tro cyntaf yn 2022 a 2023.
Ffynonellau tystiolaeth allweddol
Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:
- Rhywogaethau estron goresgynnol Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
- Costau rhywogaethau estron goresgynnol i’r Deyrnas Unedig
- Dosbarthiad ac effaith rhywogaethau estron goresgynnol ar Borth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru
- Adroddiad Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig 105: Tueddiadau Cenedlaethol Cymru a Gwerthusiad Glastir
- Asesiad Rhywogaethau Estron Goresgynnol Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau
- Map o glefyd coed ynn ledled y DU
- Arolwg ffliw adar mewn poblogaethau adar môr
- Ardaloedd yng Nghymru sydd â chyfyngiadau ar waith i atal lledaeniad Phytophthora pluvialis
Astudiaethau achos
Fforestydd Glaw Celtaidd
Mae prosiect y Fforest Law Geltaidd wedi hwyluso’r gwaith o gael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol a chonwydd nad ydynt yn frodorol, yn ogystal â phori cadwraeth, ac adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol.
Fforestydd Glaw Celtaidd Cymru | Parc Cenedlaethol Eryri
Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru
Bydd Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru yn sefydlu fframwaith ar gyfer mynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol ledled Cymru. Mae’n datblygu cysylltiadau rhwng rhanddeiliaid sy’n cymryd camau gweithredu mewn perthynas â rhywogaethau goresgynnol, gyda phrosiectau presennol megis prosiect Lles Ein Afon ar afon Dyfrdwy a Grwpiau Gweithredu Lleol yng Nghymru.
Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Prosiect Cynllunio Bioddiogelwch Rhywogaethau Estron Goresgynnol Morol
Mae Prosiect Cynllunio Bioddiogelwch Rhywogaethau Estron Goresgynnol Morol Rhwydweithiau Natur CNC ar draws y Rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig yn cynnwys elfennau cryf o gydweithio trawsffiniol â Lloegr. Mae Cynlluniau Gweithredu Llwybrau a Chynlluniau Gweithredu Rhywogaethau wedi’u cynhyrchu ar gyfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru ac mae CNC yn gweithio’n agos gyda Natural England i gynhyrchu cynlluniau bioddiogelwch ar gyfer y safleoedd trawsffiniol (h.y. aberoedd afon Hafren ac afon Dyfrdwy).